Wrth ennill 95 cap dros ei wlad, fe lwyddodd Adam Jones i ennill y Gamp Lawn deirgwaith a bydd yn ymuno â staff Warren Gatland yn llawn amser am gyfnod y Bencampwriaeth – gan fod yr Harlequins wedi cytuno ei ryddhau ar secondiad. Bydd Jones yn cydweithio’n agos gyda Hyfforddwr y Blaenwyr, Jonathan Humphreys gan ganolbwyntio ar elfennau’r sgrym ym benodol.
Mae Andy McCann wedi gweithio gyda phrif dîm dynion Cymru’n y gorffennol – rhwng 2009 a 2017 – ac mae’n dychwelyd i gynghori ar faterion perfformiad a sgiliau meddyliol.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Rwyf wrth fy modd fod Adam ac Andy am ymuno gyda ni ar gyfer Chwe Gwlad Guinness eleni a hoffwn ddiolch i’r Harlequins am ganiatáu I Adam allu derbyn y cyfle hwn.
“Gyda llai na phythefnos i fynd tan i ni herio Ffrainc ym Mharis, fe fyddwn yn gweithio’n arbennig o galed i wneud y gorau o’r cyfnod paratoi – fel y gallwn ddechrau ein hymgyrch yn gadarnhaol.”
Ychwanegodd Adam Jones: “ I ddechrau, hoffwn ddiolch o galon i’r Harlequins am ganiatáu i mi gael y cyfle i ymuno gyda Chymru ar gyfer y Chwe Gwlad.
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Gats a Humphs – dau berson gafodd ddylanwad mawr ar fy ngyrfa”
Adam Jones
“Mae’r holl beth wedi digwydd yn gyflym iawn ond ‘rwy’n teimlo’n gyffrous iawn am gydweithio gyda’r garfan.
“Mae’n mynd i fod yn dipyn o her camu o Uwch Gynghrair Gallagher i hyfforddi ar y lefel ryngwladol am y tro cyntaf – ac er y byddaf yn siwr o ddysgu llawer iawn fy hun yn ystod y Bencampwriaeth, mae hwn yn gyfle gwych i mi greu argraff ffafriol ac i ddatblygu fel hyfforddwr hefyd.”
Dywedodd Andy McCann:” Rwy’n arbennig o gyffrous am gael y cyfle i weithio gyda’r garfan yma’n ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025.”
Fe elwodd cyn chwaraewr Cymru, Jamie Roberts yn fawr o arbenigedd McCann yn ystod ei yrfa’n y crys coch a dywedodd; “Mae’r newyddion yma’n wych i’r garfan ar gyfer y Bencampwriaeth – gan fod profiad a doethineb Andy’n hynod o werthfawr.
“Gan i mi fod yn aelod o’r garfan yn gyson yn ystod cyfnod cyntaf Andy gyda Chymru, ‘rwy’n hollol ymwybodol o’i ddylanwad a’i bwysigrwydd o safbwynt cynyddu hyder a pherfformiad nifer fawr o chwaraewyr amlwg iawn.”