Gwnaeth 74 o ymddangosiadau dros y Dreigiau gan sgorio pum cais ers ei gêm gyntaf dros y Rhanbarth yn erbyn Caerlŷr ym mis Tachwedd 2016.
Enillodd ei gap cyntaf dros Gymru ar yr 11eg o Dachwedd 2017 pan ddaeth i’r maes fel eilydd yng ngholled Cymru o 29-21 yn erbyn Awstralia. Wythnos yn unig yn ddiweddarach fe ddechreuodd ei gêm gyntaf dros ei wlad yn erbyn Georgia yn y fuddugoliaeth o 13-6.
Enillodd gyfanswm o 24 o gapiau gyda’i ymddangosiad diwethaf yn dod yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2024.
Yn erbyn Benetton ym mis Hydref yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig y gwisgodd grys y Dreigiau am y tro olaf cyn i’r prop 28 oed benderfynu ymddeol o ganlyniad i’w anafiadau.
Dywedodd Leon Brown: Mae’n rhaid i bopeth da ddod i ben yn y pendraw. Er bod fy ngyrfa heb bara’ mor hir ag yr oeddwn yn ei ddisgwyl – ‘rwyf wedi mwynhau fy hun yn fawr a chreu atgofion oes.
“Er fod gweddill fy nghorff yn holliach – mae fy ngwddf yn dal i fy atal rhag chwarae er fy mod wedi derbyn tair llawdriniaeth o fewn y tri thymor diwethaf. Mae’n amser i mi ddod at fy nghoed a chofio’r amseroedd da.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi fy helpu trwy gydol fy nghyrfa a bydd gennyf wastad le arbennig yn fy nghalon ar gyfer y Dreigiau.
‘Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i chwarae iddynt trwy gydol fy holl yrfa – rhywbeth y byddaf yn ei drysori am byth.
“Mae cwmni a chefnogaeth fy nghyd-chwaraewyr dros y blynyddoedd a’r cefnogwyr ffyddlon hefyd yn cael ei werthfawrogi’n fawr gennyf fi a’r teulu. Felly hefyd y Rhanbarth ei hun sydd wedi rhoi pob cyfle i mi wella o fy anaf.
“Cofiwch: ‘dyw pethau byth mor dda ac y maen nhw’n ymddangos a ‘dyw pethau byth mor wael ac y maen nhw’n ymddangos chwaith. Llanw a thrai. Diolch am bopeth.”