Defnyddiwyd dros 50 o chwaraewyr yn y ddwy gêm ddatblygu yn erbyn Yr Alban yn ddiweddar – pan enillwyd o 31-7 gartref yn Ystrad Mynach cyn colli o 45-43 yng Nghaeredin.
Bydd y ddwy ornest nesaf yn gweld bechgyn o dan 20 Cymru’n wynebu talentau’r academïau hyd at 23 oed.
Dywedodd Rheolwr Tîm o dan 20 Cymru Andy Lloyd: “Roedden ni eisiau i’r bois gael her gorfforol cyn y Chwe Gwlad a bydd y ddwy gêm yma’n bendant yn cynnig hynny iddyn nhw cyn i ni deithio i Vannes ar gyfer ein gornest agoriadol yn y Bencampwriaeth yn erbyn Ffrainc.
“Bydd ein carfan ni’n wynebu nifer o chwaraewyr sydd wedi gwneud eu marc yn Super Rygbi Cymru’r tymor hwn.
“O dan arweiniad eu hyfforddwr profiadol Gareth Williams, bydd y ddwy gêm ar Barc yr Arfau ac yn Llanymddyfri’n gystadleuol a gwerthfawr iawn.
“Mae’r Rhanbarthau wedi bod yn gefnogol iawn i’r gemau yma a’r gobaith yw y bydd torfeydd tebyg i’r 2,000 ddaeth i’n gwylio yn erbyn Yr Alban ar Y Wern ym Merthyr yn dod i Gaerdydd a Banc yr Eglwys unwaith eto.”
Colli o 29-11 wnaeth Cymry’n erbyn y Ffrancod yn eu cyfarfyddiad diwethaf dros yr haf – a bydd 7 aelod o garfan Richard Whiffin y diwrnod hwnnw’n dal yn gymwys ar gyfer Chwe Gwlad eleni.
O sabwynt yr olwyr mae Steff Emanuel, Aiden Boshoff, Harri Ford, Harri Wilde ac Elijah Evans yn dal yn ddigon ifanc i gael eu hystyried. Felly hefyd y blaenwyr Nick Thomas a Sam Scott. Mae gan Harry Rees-Weldon a Ioan Emanuel brofiad blaenorol o gystadlu ym Mhencampwriaeth o dan 20 y Chwe Gwlad hefyd.
Mae Steff Emanuel a Nick Thomas eisoes wedi cynrychioli eu rhanbarthau yng Nghwpan Her Ewrop y tymor hwn ac mae’r gwibiwr addawol Tom Bowen hefyd ar gael i Whiffin a’i dîm hyfforddi, wedi iddo sgorio cais ar ei ymddangosiad cyntaf dros Gaerdydd yn erbyn y Cheetahs.
Mewn egwyddor bydd Morgan Morse hefyd ar gael – a dyma fyddai ei drydydd tymor i’r tîm o dan 20 os mai’r gemau hynny fyddai fwyaf addas ar gyfer ei adferiad o’i anaf diweddar.
Bydd mynediad i’r ddwy gêm yn erbyn yr Academïau Rhanbarthol yn costio £5 (am ddim i rai o dan 16 oed gydag oedolyn)
Bydd yr ornest ar Barc yr Arfau am 7.30pm nos Wener y 10fed o Ionawr a’r gêm yn Llanymddyfri am 7.30pm nos Wener yr 17eg o Ionawr.