Neidio i'r prif gynnwys
Pum newid i Gwalia ac ymddangosiad cyntaf i Lake

Bryonie King

Pum newid i Gwalia ac ymddangosiad cyntaf i Lake

Mae Gwalia Lightning wedi enwi eu tîm ar gyfer eu taith i Gaeredin ddydd Sul, Ionawr y 26ain (11.30am).

Rhannu:

Llwyddodd y Cymry i guro Glasgow ym mhedwaredd rownd gemau’r Her Geltaidd bythefnos yn ôl wrth iddyn nhw sgorio cais yn symudiad ola’r gêm i gipio’r fuddugoliaeth o 31-26.

O’r herwydd mae Gwalia’n drydydd yn y tabl ar hyn o bryd – ac wedi ennill tair o’u pedair gornest hyd yma. Mae Caeredin yn y pedwerydd safle ond maen nhw eisoes wedi curo Brython Thunder yn yr Hive y tymor hwn.

Yr wythwr rhyngwladol Bryonie King fydd yn arwain y Cymry unwaith yn rhagor a bydd y canolwr rhyngwladol profiadol, Kerin Lake yn ymddangos dros y tîm am y tro cyntaf yn yr Her Geltaidd.

Molly Anderson-Thomas fydd ei phartner yng nghanol y cae gyda Carys Hughes a Meg Davies yn haneri.

Mae cyfanswn o bum newid i dîm Gwalia Lightning o’r ornest ddiwethaf yn erbyn Glasgow yn Ystrad Mynach – a doedd dim modd ystyried dewis y bachwr Molly Reardon o ganlyniad i anaf i’w phen-glin.

Kerin Lake yn cynrychioli Cymru yn erbyn Iwerddon.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning Catrina Nicholas-McLaughlin: “Doedd gennym ddim gêm y penwythnos diwethaf ond mae hynny wedi rhoi’r cyfle i ni edrych yn fanwl ar yr agweddau o’n chwarae sydd angen eu gwella.

“Ry’n ni’n gwybod y bydd herio Caeredin ar eu tomen eu hunain yn dipyn o dasg – ond fe allwn gymryd cryn dipyn o hyder o’n perfformiad ail-hanner yn erbyn Glasgow.

“Os y gallwn ni chwarae fel ‘na am yr 80 munud cyfan – fe allwn sgorio ceisiau a herio unrhyw dîm yn  yr Her Geltaidd.

“Mae’n wych y bydd Kerin Lake yn gwneud ei hymddangosiad cyntaf drosom ni – a bydd ei phrofiad a’i natur hyderus yn werthfawr iawn i’n carfan.”

Gwalia Lightning (v Caeredin)

Courtney Greenway, Carys Williams-Morris, Kerin Lake, Molly Anderson-Thomas, Caitlin Lewis, Carys Hughes, Meg Davies; Maisie Davies, Molly Wakely, Jenni Scoble, Erin Jones, Alaw Pyrs, Lily Terry, Catrin Stewart, Bryonie King (capten)

Eilyddion: Molly Mae Crabb, Dali Hopkins, Cana Williams, Gwennan Hopkins, Lottie Buffery-Latham, Sian Jones, Anwen Owen, Rhodd Parry

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Pum newid i Gwalia ac ymddangosiad cyntaf i Lake
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Pum newid i Gwalia ac ymddangosiad cyntaf i Lake
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Pum newid i Gwalia ac ymddangosiad cyntaf i Lake
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Pum newid i Gwalia ac ymddangosiad cyntaf i Lake