Neidio i'r prif gynnwys
Sean Lynn yn chwilio am y man gwyn i’r Menywod

Sean Lynn yn chwilio am y man gwyn i’r Menywod

‘Roedd Sean Lynn arfer pasio’r bêl o safle’r mewnwr at ei faswr, Gavin Henson yn nhîm o dan 18 Cymru – ond wedi dau ddegawd yng Ngholeg Hartpury – mae Lynn yn dychwelyd i’w famwlad fel Prif Hyfforddwr Menywod Cymru am y tair blynedd nesaf.

Rhannu:

“Rwy’n Gymro, ‘rwy’n dod adre’ ac ‘rwyf wedi cyffroi’n lân” oedd ei eiriau agoriadol yn y gynhadledd i’r wasg pan gafodd ei gadarnhau wrth y llyw yr wythnos hon.

O dan ei arweiniad mae Hartpury-Caerloyw wedi ennill y Bencampwriaeth yn Lloegr am y ddwy flynedd ddiwethaf – a nhw sy’n arwain y ffordd eto’r tymor hwn hefyd.

Bydd Sean Lynn yn aros gyda’i glwb tan ddiwedd y tymor – ond hefyd yn arwain Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad – cyn canolbwyntio’n llwyr ar ei ddyletswyddau rhyngwladol ar gyfer Taith yr Haf yn Awstralia a Chwpan y Byd, fydd yn digwydd ym Mis Awst a Medi.

Mae 12 o garfan ryngwladol Cymru – gan gynnwys y capten Hannah Jones – yn chwarae gyda chlwb Hartpury-Caerloyw ar hyn o bryd ac felly’n gyfarwydd iawn â’i ddoniau a’i arddull hyfforddi – ond ni ddywedodd Sean Lynn yr un gair wrth yr un ohonyn nhw ei fod wedi ymgeisio am y swydd gyda Chymru.

“Fe ddywedias wrth Brif Weithredwr y clwb fy mod â diddordeb mawr yn y swydd – ond nid y chwaraewyr. Nawr fy mod wedi cael fy mhenodi ‘rwyf ar ben fy nigon ac ‘rwy’n edrych ymlaen yn arw at y Chwe Gwlad – yn enwedig y gêm gyntaf yn Yr Alban.

“Mae honno’n gêm anodd – ond mae’n bosib i ni fynd yno a hawlio buddugoliaeth ac wedi hynny fe allwn ni edrych ar y gemau eraill sydd i ddilyn.

“Bydd croesawu Lloegr i Stadiwm Principality’n gallu ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr – ac felly mae llawer o bethau cadarnhaol ar droed.

“Rwyf wedi siarad gyda’r garfan ac mae gennym lawer o ddawn ac addewid ar gael i ni.

“Fe wyliais Gwalia Lightning a Brython Thunder yn ddiweddar ac mae talent mawr i’w ddatblygu ar y lefel honno hefyd ac felly mae’r llwybr datblygu yn edrych yn gryf ac addawol.

“Rwy’n adnabod llawer o aelodau carfan Cymru’n dda yn barod – ac ‘rwy’n benderfynol o greu argraff sylweddol ar y llwyfan rhyngwladol. Gyda’n gilydd, gyda’r gefnogaeth a’r awyrgylch cywir – fe allwn ni greu tipyn o argraff.

Mae Sean Lynn o Abertawe’n wreiddiol a bu’n ddisgybl yn Ysgol Tregŵyr. Cynrychiolodd glwb Waunarlwydd ac fe chwaraeodd dros dîm o dan 18 Cymru pan oedd Sean Holley’n eu hyfforddi.

“Sean roddodd y cyfle i mi fynd i Hartpury’n y lle cyntaf pan oedd yn sefydlu Academi Caerloyw a thra mod i yno fe gefais y cyfle i gynrychioli Myfyrwyr Cymru ac fe ddechreuais hyfforddi hefyd.

“Roedd Gavin Henson, Jonathan Thomas a Paul James yn nhîm Ysgolion Cymru gyda fi ac ‘roedd hi’n amlwg eu bod nhw’n chwaraewyr o safon bryd hynny.

“Geraint John oedd Cyfarwyddwr Rygbi Prifysgol Hartpury ar y pryd (ac mae bellach yn Gyfarwyddwr Cymunedol gydag Undeb Rygbi Cymru) ac fe gefais y cyfle ganddo i hyfforddi gyda Phrifysgol Hartpury a chydweithio gydag Allan Lewis hefyd.

“Roedd Allan yn berson hyfryd – ac ef ddysgodd fi sut i ddelio gyda phobl. Fe ysbrydolodd fy athroniaeth hyfforddi.”

Chwe blynedd yn ôl cafodd Sean Lynn, sydd bellach yn 42 oed, ei benodi’n Bennaeth Rygbi Menywod Hartpury ac er ambell her, mae llwyddiant cyson wedi dilyn:

“Cefais fy mhenodi i ofalu am dîm Hartpury-Caerloyw ym mis Ionawr 2020 ac yna fe ddaeth Covid i’n heffeithio ni gyd. Yn amlwg ‘roedd hi’n anodd perswadio pobl i ymuno gyda ni – ond gan bod gennyf gysylltiadau Cymreig cryf fe gytunodd cymeriadau allweddol fel Kerin Lake a Gwen Crabb i ymuno gyda ni.

“Roedd gennym bac cryf oedd yn gosod sylfaen cadarn i’n holwyr ac ‘roedd Rownd Derfynol gyntaf y Bencampwriaeth o flaen torf o 9,000 yn Kingsholm fel breuddwyd.

“Wedi dweud hynny, fe gefais fwy o bleser na hynny hyd yn oed pan guron ni Fryste yng Nghaerwysg gan bod gennym gymaint o anafiadau’n arwain at yr ornest honno. ‘Rydych yn dysgu mwy amdanoch chi’ch hun pan mae’ch cefnau yn erbyn y wal.

“Y nod i ni eleni yw gorffen yn y ddau safle uchaf yn y Cynghrair er mwyn sicrhau gêm gartref yn y rownd gyn-derfynol – ac ‘rydym wedi profi yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf ein bod ni wrth ein boddau yn y gemau mawr pan fo popeth ar y lein.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Sean Lynn yn chwilio am y man gwyn i’r Menywod
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Sean Lynn yn chwilio am y man gwyn i’r Menywod
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Sean Lynn yn chwilio am y man gwyn i’r Menywod
Rhino Rugby
Sportseen
Sean Lynn yn chwilio am y man gwyn i’r Menywod
Sean Lynn yn chwilio am y man gwyn i’r Menywod
Sean Lynn yn chwilio am y man gwyn i’r Menywod
Sean Lynn yn chwilio am y man gwyn i’r Menywod
Sean Lynn yn chwilio am y man gwyn i’r Menywod
Sean Lynn yn chwilio am y man gwyn i’r Menywod
Amber Energy
Opro
Sean Lynn yn chwilio am y man gwyn i’r Menywod