Neidio i'r prif gynnwys
Josh Adams

Josh Adams

Tîm Cymru i wynebu Ffrainc yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi enwi ei dîm i wynebu Ffrainc yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 yn y Stade de France ym Mharis nos Wener yr 31ain o Ionawr.

Rhannu:

Bydd y gêm yn fyw ar S4C ac ITV am 20.15.

Mae Josh Adams (asgellwr), Liam Williams (cefnwr) a Dafydd Jenkins (clo) yn dychwelyd i bymtheg cychwynol Cymru.

Jac Morgan fydd yn arwain y tîm a James Botham (blaenasgellwr ochr dywyll) ac Aaron Wainwright (wythwr) fydd yn ymuno gyda’u capten yn y rheng ôl.

Will Rowlands fydd partner Dafydd Jenkins yn yr ail reng.

O safbwynt y rheng flaen bydd y bachwr Evan Lloyd yn dechrau ei gêm gyntaf dros ei wlad ac mae Henry Thomas wedi ei ddewis yn safle’r prop pen tynn. Hwn fydd ei ymddangosiad cyntaf yn y crys coch ers Cwpan y Byd yn 2023. Gareth Thomas sy’n dechrau yn brop pen rhydd.

Tomos Williams a Ben Thomas fydd yr haneri a dyma fydd y tro cyntaf i Thomas ddechrau gêm yn y Chwe Gwlad.

Y pâr profiadol Owen Watkin a Nick Tompkins sydd wedi eu dewis yng nghanol y cae a Tom Rogers fydd yr asgellwr arall ynghŷd â Josh Adams.

Ymhlith yr eilyddion, bydd Nicky Smith yn ennill ei 50fed os y caiff ei alw o’r fainc – tra gall y maswr dawnus, Dan Edwards ennill ei gap cyntaf dros ei wlad.

Wedi i Freddie Thomas a Blair Murray gynrychioli Cymru am y tro cyntaf yn erbyn Awstralia yng Nghyfres yr Hydref y llynedd, fe fyddant yn cael eu profiad cyntaf o chwarae yn y Bencampwriaeth os y down nhw i’r maes yn y Stade de France nos Wener.

Elliot Dee (bachwr) a Keiron Assiratti (prop pen tynn) sy’n ymuno gyda Smith fel eilyddion y rheng flaen.

Tommy Reffell yw’r blaenwr arall sy’n dechrau ar y fainc a Rhodri Williams yw’r eilydd o fewnwr.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Ry’n ni’n wirioneddol edrych ymlaen at yr her yn erbyn Ffrainc.

‘Y Chwe Gwlad yw’r Bencampwriaeth rygbi orau’n y byd gan bod pob gêm yn achlysur anferth.

‘Ry’n ni eisiau mynd i Ffrainc, bwydo oddi-ar yr awyrgylch a chael dechrau da i’n hymgyrch.”

Tîm Cymru v Ffrainc

15. Liam Williams (Saraseniaid – 92 cap)
14. Tom Rogers (Scarlets – 5 cap)
13. Nick Tompkins (Saraseniaid – 38 cap)
12. Owen Watkin (Gweilch – 42 cap)
11. Josh Adams (Caerdydd – 59 cap)
10. Ben Thomas (Caerdydd – 7 cap)
9. Tomos Williams (Caerloyw – 59 cap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 35 cap)
2. Evan Lloyd (Caerdydd – 5 cap)
3. Henry Thomas (Scarlets – 4 cap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 36 chap)
5. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 19 cap)
6. James Botham (Caerdydd – 16 chap)
7. Jac Morgan (Gweilch – 18 cap) – capten
8. Aaron Wainwright (Dreigiau – 52 cap)

Eilyddion

16. Elliot Dee (Dreigiau – 51 cap)
17. Nicky Smith (Caerlŷr – 49 cap)
18. Keiron Assiratti (Caerdydd – 10 cap)
19. Freddie Thomas (Caerloyw – 1 cap)
20. Tommy Reffell (Caerlŷr – 23 chap)
21. Rhodri Williams (Dreigiau – 5 cap)
22. Dan Edwards (Gweilch – heb gap eto)
23. Blair Murray (Scarlets – 3 chap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm Cymru i wynebu Ffrainc yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Tîm Cymru i wynebu Ffrainc yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness
Tîm Cymru i wynebu Ffrainc yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm Cymru i wynebu Ffrainc yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Tîm Cymru i wynebu Ffrainc yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness