Neidio i'r prif gynnwys
Y ddau dîm Cymreig yn colli yn yr Her Geltaidd

Hannah Lane yn croesi dros Brython Thunder (Llun gan Ewan Bootman / SNS Group)

Y ddau dîm Cymreig yn colli yn yr Her Geltaidd

Yn dilyn eu dwy fuddugoliaeth yn erbyn Brython Thunder, colli o 29-7 fu hanes Gwalia Lightning yn erbyn y Clovers yn Stadiwm Kingspan, Belfast.

Rhannu:

Llwyddodd tîm Denis Fogarty i guro eu cyd-Wyddelod a Phencampwyr presennol yr Her Geltaidd, y Wolfhounds, yn eu gêm ddiwethaf – a dim ond 7 munud gymrodd hi cyn i Emily Lane sgorio’r cyntaf o bum cais ei thîm.

Croesodd Alanna McInerney’n fuan wedi hynny a gan i Hannah Clarke dirio trydydd cais y Clovers cyn troi – ‘roedd ganddynt fatais o 17-0 ar yr egwyl.

Fe wellodd ansawdd perfformiad carfan Catrina Nicholas-McLaughlin yn ystod yr ail gyfnod a gwobrwywyd eu hymdrechion pan diriodd Mollie Reardon am unig gais y Cymry o’r prynhawn. Trosiad Carys Hughes oedd eu hunig bwyntiau eraill o’r ornest.

Sbarduno’r tîm cartref i ymateb a hela’r pwynt bonws wnaeth hynny – a sicrhawyd y pedwerydd cais pwysig hwnnw pan groesodd Emily Lane am yr eildro. Ychwnaegodd yr eilydd Sophie Barrett bumed cais i’r Clovers i gadarnhau buddugoliaeth swmpus i’r Gwyddelod a cholled gyntaf o’r tymor i Gwalia Lightning.

Canlyniad Clovers 29 Gwalia Lightning 7

Chwarae tair – colli tair yw hanes Brython Thunder wedi i Gaeredin eu curo o 22-15 ym mhrifddinas Yr Alban.

Er i Gaeredin ennill a sicrhau pwynt bonws ychwanegol – bydd carfan Ashley Beck yn dychwelyd i Gymru gyda phwynt bonws eu hunain wedi iddynt hawlio tri chais yn yr ail hanner.

Yn union fel Gwalia Lightning yn erbyn y Clovers yn gynharach yn y prynhawn – ‘roedd y Cymry ar ei hôl hi o 17-0 ar yr hanner wedi i’r wythwr Samaanther Taganekurukuru a’r asgellwyr Hannah Walker a Cieron Bell groesi am geisiau dros y tîm cartref gyda Lucy MacRae’n llwyddo gydag un trosiad.

Ddau funud yn unig wedi troi fe wasgodd cefnwr Brython Thunder, Hannah Lane am gais cyntaf y Cymry’n y gornel cyn i Hannah Bluck leihau’r bwlch ymhellach wedi 65 munud wrth iddi ddangos ei chryfder i gyrraedd y llinell gais.

Sbarduno Caeredin i hawlio’u pedwerydd cais – a phwynt bonws – wnaeth hynny wrth i Cieron Bell groesi am ei hail gais o’r gêm a’i phedwerydd o’r gystadleuaeth eleni – gyda dim ond 7 munud ar ôl.

Er bod y fuddugoliaeth allan o gyrraedd Gwalia – fe gaeodd ail gais Hannah Bluck o’r ornest y bwlch i saith pwynt yn unig yn yr eiliadau olaf – olygodd fod y daith yn ôl i Gymru ychydig yn fwy pleserus yng nghwmni pwynt bonws.

Ddydd Sadwrn nesaf (11/1/25) bydd Brython yn croesawu y Wolfhounds i Barc y Scarlets am hanner dydd.

Ddydd Sul nesaf (12/1/25) am 3pm bydd Gwalia Lightning yn herio Glasgow yn Ystrad Mynach.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y ddau dîm Cymreig yn colli yn yr Her Geltaidd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y ddau dîm Cymreig yn colli yn yr Her Geltaidd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y ddau dîm Cymreig yn colli yn yr Her Geltaidd
Rhino Rugby
Sportseen
Y ddau dîm Cymreig yn colli yn yr Her Geltaidd
Y ddau dîm Cymreig yn colli yn yr Her Geltaidd
Y ddau dîm Cymreig yn colli yn yr Her Geltaidd
Y ddau dîm Cymreig yn colli yn yr Her Geltaidd
Y ddau dîm Cymreig yn colli yn yr Her Geltaidd
Y ddau dîm Cymreig yn colli yn yr Her Geltaidd
Amber Energy
Opro
Y ddau dîm Cymreig yn colli yn yr Her Geltaidd