‘Roedd y Gwyddelod wedi sicrhau’r fuddugoliaeth a’r pwynt bonws erbyn yr egwyl gan i Maebh Clenaghan, Molly Boyne, Amy Larn, Eve Higgins ac Aoife Dalton dirio. Er fod y pumed cais ychydig yn ddadleol – chafodd hynny fawr o effaith ar y canlyniad na llif yr ornest.
‘Roedd cloc y stadiwm wedi cyrraedd y 40 munud ac felly fe giciodd y mewnwr Seren Singleton y bêl yn farw i ddod â’r cyfnod cyntaf i ben. Penderfynodd y swyddogion bod dal amser ar ôl i’w chwarae ac yn y symudiad ddilynodd – fe groesodd Dalton am bumed cais ei thîm. Fe laddodd hynny unrhyw obeithion oedd gan y tîm cartref o daro nôl wedi troi – gan fod gan yr ymwelwyr 31 pwyt o fantais ar yr egwyl.
Er i berfformiad Brython Thunder gryfau wedi troi, Katie Heffernan, Claire Boles ac Ella Roberts oedd yr unig rai i groesi’r gwyngalch yn yr ail hanner – gan sicrhau trydedd buddugoliaeth y Wolfhounds o’r bron – wedi iddyn nhw golli eu gêm agoriadol o’r tymor yn erbyn eu cyd-Wyddelod, y Clovers.
Felly wedi pedair rownd o gemau, dim ond dau bwynt bonws sydd wedi eu casglu gan dîm Ashley Beck. Serch hynny gwelwyd ambell berfformiad addawol gan garfan Brython – yn enwedig felly gan yr eilydd Hanna Marshall grëodd argraff ffafriol gyda’i chwarae cyffrous.
Brython Thunder: Hannah Lane; Ellie Tromans, Hannah Bluck, Meg Webb, Eleanor Hing, Niamh Terry, Seren Singleton; Lowri Williams, Poppy Hughes, Katie Carr, Robyn Davies, Natalia John (capt), Kira Philpott, Lucy Isaac, Jess Rogers
Eilyddion: Chloe Gant, Meg Lewis, Cadi Lois Davies, Anna Davies, Anna Stowell, Hanna Marshall, Savannah Picton-Powell, Ffion Davies.
Wolfhounds: Stacey Flood; Ella Roberts, Aoife Dalton, Eve Higgins, Amy Larn; Danna O’Brien, Jade Gaffney; Niamh O’Dowd, Maebh Clenaghan, Linda Djougang, Alma Atagamen, Cliodhna Ni Chonchobhair, Molly Boyne, Claire Boles (capt), Erin King
Eilyddion: Kelly Burke, Tricia Doyle, Chrisy Haney, Ciara Short, Caoimhe Molloy, Rachael McIlroy, Leah Tarpey, Katie Heffernan.