Neidio i'r prif gynnwys
Y Wolfhounds yn rhy gryf eto i Brython Thunder

Cyffro o'r ornest yn Nulyn - ©INPHO/Tom Maher

Y Wolfhounds yn rhy gryf eto i Brython Thunder

Am yr eildro o fewn wythnos colli’n drwm fu hanes Brython Thunder yn erbyn Pencampwyr presennol yr Her Geltaidd y Wolfhounds o Iwerddon.

Rhannu:

Ar faes y Sioe yn Nulyn, y Gwyddelod enillodd o 57-5 ac agorwyd y sgorio wedi pedwar munud yn unig pan groesodd y canolwr Aoife Dalton am gais cyntaf ei thîm cyn i’w hasgellwr Anna Doyle gofnodi cais unigol hynod gofiadwy o’i llinell gais ei hun. Wedi’r ddau drosiad ‘roedd y tîm cartref ar y blaen o 14-0 yn gynnar yn y gêm.

Erbyn yr egwyl ‘roedd Doyle wedi crosesi ddwywaith yn rhagor gan sefydlu mantais o 26-0 i’w thîm wrth droi.

Yn ystod yr ail gyfnod fe groesodd Dalton am ei hail gais cyn i Doyle gofnodi ei phedwerydd sgôr o’r ornest ac fe ychwanegodd O’Brien y trosaid yn hyderus. Wrth i’r gêm dynnu at ei therfyn fe sicrhaodd Dalton ei thrydydd cais o’r prynhawn a Kelly Burke groesodd y gwyngalch am gais arall y tîm cartref,

Gronyn o gysur i’r Cymry oedd y ffaith i’r eilydd Gabby Healan dirio dros yr ymwelwyr yn hwyr yn ystod yr ornest – ond ‘doedd hynny ddim yn ddigon o bellffordd i garfan Ashley Beck gofnodi eu buddugoliaeth gyntaf o’r Her Geltaidd eleni.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Y Wolfhounds yn rhy gryf eto i Brython Thunder
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Heineken
Y Wolfhounds yn rhy gryf eto i Brython Thunder
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Y Wolfhounds yn rhy gryf eto i Brython Thunder
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Y Wolfhounds yn rhy gryf eto i Brython Thunder