Neidio i'r prif gynnwys
Brython yn cael eu brifo yn Belfast

Savannah Picton o Brython Thunder. ©INPHO/Nick Elliott

Brython yn cael eu brifo yn Belfast

Mae Brython Thunder yn dal i chwilio am eu buddugoliaeth gyntaf o’r Her Geltaidd y tymor hwn – wedi iddynt golli o 58-0 yn erbyn y Clovers yn chweched rownd o gemau’r gystadleuaeth yn Belfast.

Rhannu:

 O ganlyniad i anafiadau, ‘roedd Ashley Beck wedi gwneud deg o newidiadau i wynebu tîm oedd yn llawn o chwaraewyr rhyngwladol Iwerddon ac fe brofodd y profiad hwnnw’n allweddol yn y pendraw yn Stadiwm Kingspan.

Y clo Jayne Clohessy agorodd y sgorio cyn i Anna McGann fanteisio ar fylchiad cofiadwy Chisom Ugwueru i dirio am yr ail. Gan i Clohessy groesi eilwaith cyn yr egwyl ac yn dilyn trosiad y maswr Fowley, ‘roedd y Gwyddelod ar y blaen o 19-0 yn chwarter agoriadol yr ornest.

Daeth y pwynt bonws i ran y tîm cartref cyn troi – o ganlyniad i gais y prop Sophie Barrett ac fe hawliodd Clohessy ei thrydydd cais cyn yr egwyl hefyd. Wedi i’r asgellwr Amme Leigh Costigan boenydio’r Cymry ymhellach, ‘roedd mantais y tîm cartref yn 34-0 erbyn y chwiban hanner amser.

Yn yr ail hanner fe hawliodd Ugwueru, Barrett, McGann a Costigan eu hail geisiau o’r prynhawn gan selio buddugoliaeth swmpus i’r Clovers.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Brython yn cael eu brifo yn Belfast
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Brython yn cael eu brifo yn Belfast
Brython yn cael eu brifo yn Belfast
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Brython yn cael eu brifo yn Belfast
Rhino Rugby
Sportseen
Brython yn cael eu brifo yn Belfast
Brython yn cael eu brifo yn Belfast
Brython yn cael eu brifo yn Belfast
Brython yn cael eu brifo yn Belfast
Brython yn cael eu brifo yn Belfast
Amber Energy
Opro
Brython yn cael eu brifo yn Belfast