Bydd y Prif Hyfforddwr Ashley Beck yn chwilio am ei ail fuddugoliaeth o’r tymor wedi i’w dîm drechu Caeredin o 38-32 yn y munudau olaf yn eu gêm ddiwethaf yn Rownd 7.
Am y tro cyntaf yr wythwr Katie Carr fydd yn arwain Brython Thunder gan bo’r capten arferol, Natalia John yn dioddef o anaf i’w choes. Lucy Isaac a Finley Jones fydd y ddau aelod arall o reng ôl y Cymry.
Mae Stella Orrin, Chloe Gant a Cadi-Lois Davies yn cael cyfle arall i gyd-chwarae’n y rheng flaen unwaith yn rhagor.
Mae Beck wedi galw ar wasanaeth y clo Catrin Jones o Glwb Rygbi Cymry Caerdydd i bartneru Robyn Davies yn yr ail reng ond dyna’r unig newid i’r pymtheg ddechreuodd yn erbyn Caeredin.
Y tu ôl i’r sgrym Ffion Davies ac Eleanor Hing sydd wedi eu dewis ar yr esgyll gydag Ellie Troman yn dechrau’n safle’r cefnwr.
Mae Savannah Picton-Powell wedi dal y llygad yng nghanol y cae’n ddiweddar a’r profiadol Meg Webb fydd y canolwr arall. O safbwynt yr haneri Hanna Marshall fydd y maswr gyda Seren Singleton wedi ei dewis eto’n fewnwr.
Dywedodd Ashley Beck, Prif Hyfforddwr Brython Thunder: “Roedd ein carfan yn haeddu curo Caeredin ac fe ddangosodd y merched ddycnwch a gwir gymeriad i daro’n ôl a hawlio’n buddugoliaeth gyntaf o’r tymor.
“Roedd y diweddglo’n arbennig o gyffrous ac fe allwn gymryd llawer o hyder o’r perfformiad hwnnw. Fe fydd angen i ni gredu yn ein hunain a’n gilydd wrth i ni wynebu tîm cryf iawn y Clovers. Maen nhw’n ail yn y tabl ar hyn o bryd ac mae eu carfan yn llawn o chwaraewyr rhyngwladol Iwerddon.
“Fe fu’n rhaid i ni deithio oddi cartref am rai wythnosau’n gynharach yn y tymor ond ‘roedd chwarae ar Barc y Scarlets bythefnos yn ôl yn ffactor bwysig yn ein buddugoliaeth ac ‘ry’n ni’n gobeithio y bydd hynny o gymorth i ni’r Sadwrn yma hefyd.
“Wedi dweud hynny, ‘ry’n ni’n gwybod yn iawn y bydd angen i ni fod ar ein gorau yn erbyn y Clovers.”
Brython Thunder (v Clovers)
Ellie Tromans, Ffion Davies, Savannah Picton-Powell, Megan Webb, Eleanor Hing, Hanna Marshall, Seren Singleton; Stella Orrin, Chloe Gant, Cadi-Lois Davies, Robyn Davies, Catrin Jones, Finley Jones, Lucy Isaac, Katie Carr (Capten)
Eilyddion: Lowri Williams, Elan Jones, Anna Davies, Danai Mugabe, Anna Stowell, Niamh Terry, Hannah Bluck, Hannah Lane