Neidio i'r prif gynnwys
Cyfle i Gwalia guro’r Pencampwyr a Brython am geisio cael y gorau ar Glasgow

Maisie Davies o Gwalia Lightning yn herio Lucy MacRae o Gaeredin

Cyfle i Gwalia guro’r Pencampwyr a Brython am geisio cael y gorau ar Glasgow

Bydd Gwalia Lightning yn croesawu’r Wolfhounds i Ystrad Mynach ddydd Sadwrn (hanner dydd) ar gyfer gêm all gael dylanwad mawr ar dynged Yr Her Geltaidd eleni.

Rhannu:

Y Wolfhounds sydd ar frig y tabl ar hyn o bryd a nhw hefyd yw Pencampwyr presennol y Cynghrair. Mae Gwalia’n drydydd – y tu ôl i’r Wolfhounds a’r Covers – gyda dim ond 4 pwynt yn gawahanu’r tri thîm gyda dim ond dau benwythnos yn weddill o’r Bencampwriaeth.

Mae Gwalia wedi ennill 6 o’u 8 gêm gynghrair hyd yn hyn y tymor yma a bydd Bryonie King yn eu harwain unwaith yn rhagor. Mae’r Prif Hyfforddwr Catrina Nicholas-McLaughlin wedi gwneud tri newid i’r tîm enillodd o 31-19 yn Glasgow yn yr wythfed rownd o gemau.

Mae Gwennan Hopkins wedi brifo ei choes ac felly bydd y blaen-asgellwr Lily Terry’n ymuo gyda’i chapten yn y rheng ôl ynghŷd â Catrin Stewart.

Cana Williams, Maisie Davies a Molly Wakely fydd yn dechrau’n y rheng flaen gyda Paige Jones a chlo Cymru Alaw Pyrs yn yr ail reng.

Yr asgellwr Courtney Greenway yw’r unig newid ymhlith yr olwyr. Jenny Hesketh a Caitlin Lewis sy’n cwblhau’r tri ôl.

Kelsie Webster a Molly Anderson-Thomas yw’r canolwyr a Sian Jones a Carys Hughes fydd yr haneri unwaith eto.

Dywedodd Catrina Nicholas-McLaughlin, Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning: “Ry’n ni wedi profi dros ar ôl tro’r tymor yma ein bod yn gallu cystadlu yn yr Her Geltaidd ac mae’r ffaith ein bod yn y tri uchaf yn profi hynny.

“Mae pob un ohonom yn ymwybodol iawn o’r dasg sy’n ein hwynebu’n erbyn y Wolfhounds gan bod eu tîm yn llawn o chwaraewyr rhyngwladol. Mae’n rhaid i ni ganobwyntio ar ein perfformiad ni’n hunain gan geisio cymryd mantais o’r ffaith mai ni sy’n chwarae gartref.”

Gwalia Lightning (v Wolfhounds)

Jenny Hesketh, Courtney Greenway, Kelsie Webster, Molly Anderson-Thomas, Caitlin Lewis, Carys Hughes, Sian Jones; Maisie Davies, Molly Wakely, Cana Williams, Paige Jones, Alaw Pyrs, Lily Terry, Catrin Stewart, Bryonie King (Capten)

Eilyddion: Molly Reardon, Dali Hopkins, Jenni Scoble, Erin Jones, Lottie Buffery-Latham, Katie Bevans, Freya Bell, Rhodd Parry

Taith i Glasgow sy’n wynebu Brython Thunder ddydd Sadwrn (3.45pm) wrth i garfan Ashley Beck geisio neidio uwchben yr Albanwyr yn y tabl.

Mae Jess Rogers yn dychwelyd i arwain y tîm – ac mae’r wythwr yn un o wyth newid i’r tîm ifanc gollodd yn drwm yn eu gêm ddiwethaf yn erbyn y Clovers.

Bydd Danai Mugabe a Lucy Issac yn ymuno gyda’u capten yn y rheng ôl. Gwen Crabb a Robyn Davies sydd wedi eu dewis i ddechrau’n yr ail reng gan bo Natalia John yn dal wedi’i hanafu.

Y propiau Stella Orin a Cadi-Lois Davies fydd yn cadw cwmni i’r bachwr Chloe Grant yn rheng flaen Brython Thunder.

Niamh Terry sydd wedi ei dewis yn faswr gyda Seren Singleton yn dechrau’n safle’r mewnwr unwaith eto.

Bydd canolwr Cymru Hannah Bluck yn cadw cwmni i Gabby Healan a Hannah Lane, Ellie Tromans ac Eleanor Hing fydd y tri ôl.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Brython Thunder, Ashley Beck, said: “Ry’n ni’n dîm ifanc sydd wedi dangos llawer iawn o gymeriad hyd yma’r tymor hwn a does dim amheuaeth ein bod wedi dysgu llawer iawn yn ystod yr ymgyrch hon.

“Mae Glasgow’n dîm cadarn ar eu tomen eu hunain ond ‘ry’n ni’n barod i wynebu’r her a rhoi popeth sydd gennym unwaith yn rhagor.”

Brython Thunder (v Glasgow Warriors)

Hannah Lane, Ellie Tromans, Hannah Bluck, Gabby Healan, Eleanor Hing, Niamh Terry,  Seren Singleton; Stella Orrin, Chloe Gant, Cadi-Lois Davies, Robyn Davies, Gwen Crabb. Danai Mugabe, Lucy Isaac, Jess Rogers (Capten)

Eilyddion: Rosie Carr, Lowri Williams, Katie Carr, Catrin Jones, Anna Stowell, Bethan Adkins, Hanna Marshall, Ffion Davies

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyfle i Gwalia guro’r Pencampwyr a Brython am geisio cael y gorau ar Glasgow
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Cyfle i Gwalia guro’r Pencampwyr a Brython am geisio cael y gorau ar Glasgow
Cyfle i Gwalia guro’r Pencampwyr a Brython am geisio cael y gorau ar Glasgow
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyfle i Gwalia guro’r Pencampwyr a Brython am geisio cael y gorau ar Glasgow
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Cyfle i Gwalia guro’r Pencampwyr a Brython am geisio cael y gorau ar Glasgow