Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cadarnhau trefn Gemau’r Hydref 2025. Bydd Cymru’n wynebu Ariannin, Japan, Seland Newydd a De Affrica ar bedwar penwythnos o’r bron yn Stadiwm Principality ym mis Tachwedd.
Bydd Cymru’n wynebu’r Archentwyr yn gyntaf am 3.10pm ddydd Sul y 9fed o Dachwedd a bydd y Cymry’n awchu i dalu’r pwyth i’r Pumas am eu trechu yn Rownd Wyth Olaf Cwpan y Byd 2023. Dyma fydd ymweliad cyntaf Ariannin â Stadiwm Principality ers Tachwedd 2022 pan gollon nhw o 20-13. Hwn fydd y trydydd tro ar ddeg i Los Pumas ymweld â Chaerdydd.
Y penwythnos canlynol, ddydd Sadwrn y 15ed o Dachwedd (5.40pm) bydd Cymru’n croesawu Japan, wedi iddynt chwarae dwy gêm brawf allan yno dros yr haf. Colli o 33-30 oedd hanes Japan y tro diwethaf iddynt ymweld â Stadiwm Principality yn ôl yn 2016.
Am 3.10pm ddydd Sadwrn yr 22ain, am y tro cyntaf ers tair blynedd, bydd Seland Newydd yn chwarae yng Nghaerdydd.
Bydd Cyfres yr Hydref 2025 yn dod i ben gydag ymweliad Pencampwyr y Byd, De Affrica, am 3.10pm ddydd Sadwrn y 29ain o Dachwedd. Diweddglo a hanner i gyfres hynod gyffrous.
Bydd manylion y tocynnau ar gael yn fuan. Gall y cefnogwyr gofrestru eu diddordeb YMA i dderbyn gwybodaeth a rhag-rybudd am werthiant y tocynnau.
Bydd Pecynnau Lletygarwch Swyddogol URC ar gael i’w prynu’n fuan. Gallwch gofrestru’ch diddordeb YMA er mwyn derbyn gwybodaeth am y Pecynnau Lletygarwch a’r dyddiadau y byddant yn mynd ar werth.
Bydd Gemau Cymru yng Nghyfres yr Hydref 2025 yn cael eu dangos yn fyw ar S4C, TNT Sports a Discovery+.
TREFN GEMAU CYMRU – CYFRES YR HYDREF 2025
Bydd y pedair gêm yn cael eu cynnal yn Stadiwm Principality.
Bydd y gemau’n cael eu darlledu’n fyw ar S4C, TNT Sports a Discovery+.
Sul 9 Tachwedd: Cymru v Ariannin 3.10pm
Sadwrn 15 Tachwedd: Cymru v Japan 5.40pm
Sadwrn 22 Tachwedd: Cymru v Seland Newydd 3.10pm
Sadwrn 29 Tachwedd: Cymru v De Affrica 3.10pm
Mae Calendr Rygbi Cymru ar gael YMA – fel y gall y cefnogwyr gysylltu’r dyddiadau gyda’u ffonau er mwyn sicrhau eich bod yn gallu dod i bob gêm.