Neidio i'r prif gynnwys
Ellis Mee

Ellis Mee will win his first Wales cap on Saturday

Cyhoeddi Tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Principality

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Matt Sherratt wedi enwi ei dîm i herio’r Gwyddelod yn nhrydedd rownd o gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 ddydd Sadwrn yr 22ain o Chwefror, (14.15pm yn fyw ar S4C a’r BBC).

Rhannu:

Mae pob tocyn ar gyfer yr ornest yn Stadiwm Principality wedi ei werthu.

Bydd yr asgellwr Ellis Mee yn cynrychioli ei wlad am y tro cyntaf – ac ef fydd cap rhif 1,211 yn hanes gemau rhyngwladol Cymru.

Jac Morgan fydd y capten unwaith eto ond bydd Tommy Reffell yn dechrau ei gêm gyntaf o Bencampwriaeth eleni yn flaen-asgellwr ochr agored. Yr wythwr Taulupe Faletau fydd yn cwblhau’r drindod yn y rheng ôl i wynebu’r Gwyddelod.

Yn y rheng flaen, Nicky Smith fydd yn dechrau’n brop pen rhydd a’i gyd-brop fydd WillGriff John – fydd yn chwarae ei gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Elliot Dee sydd wedi ei ddewis yn fachwr.

Wedi ei salwch ar yr unfed awr ar ddeg cyn wynebu’r Eidal mae Dafydd Jenkins yn ail-gydio’n ei bartneriaeth gyda Will Rowlands yn yr ail reng tra bo Tomos Williams yn parhau’n safle’r mewnwr.

Mae’r ddau chwaraewr o glwb Caerloyw, Gareth Anscombe a Max Llewellyn wedi eu dewis yn faswr ac yn ganolwr – wythnos yn unig ers iddynt gael eu galw i’r garfan gan Matt Sherratt.

Ben Thomas fydd yn cadw cwmni i Llewellyn yng nghanol y cae.

Yr asgellwr Tom Rogers a’r cefnwr Blair Murray fydd yn cwblhau’r tri ôl ynghŷd â’r cap newydd Ellis Mee. Y tri ohonynt o’r Scarlets wrth gwrs.

Mae Jarrod Evans wedi ei enwi ymhlith yr eilyddion – ac os y caiff ei alw o’r fainc, bydd yn ymddangos dros ei wlad am y tro cyntaf ers haf 2021. Rhodri Williams a Joe Roberts sydd wedi eu dewis fel eilyddion o safbwynt yr olwyr.

Evan Lloyd, Gareth Thomas, Henry Thomas, Teddy Williams ac Aaron Wainwright yw’r blaenwyr sydd wedi eu dewis ar y fainc.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru Matt Sherratt: “Ry’n ni gyd yn edrych ymlaen yn fawr at yr her o wynebu Iwerddon.

“Mae’n rhaid i ni fod yn ddewr ac yn drefnus – gyda phob unigolyn yn gwybod beth sy’n ddisgwyliedig ganddyn nhw. Allwn ni ddim bod yn esgeulus ac mae’n hanfodol ein bod ni’n cadw’n disgyblaeth.

“Mae pawb yn gyffrous i gael chwarae gartref am y tro cyntaf yn y Bencampwriaeth eleni. Mae cefnogwyr Cymru’n creu awyrgylch anhygoel yn Stadiwm Principality ac mae’r chwaraewyr yn awchu i brofi hynny ddydd Sadwrn.”

Tîm Cymru v Iwerddon
15. Blair Murray (Scarlets – 5 cap)
14. Tom Rogers (Scarlets – 7 cap)
13. Max Llewellyn (Caerloyw – 5 cap)
12. Ben Thomas (Caerdydd – 9 cap)
11. Ellis Mee (Scarlets – heb gap)
10. Gareth Anscombe (Caerloyw – 39 cap)
9. Tomos Williams (Caerloyw – 61 cap)
1. Nicky Smith (Caerlŷr – 51 cap)
2. Elliot Dee (Dreigiau – 53 chap)
3. WillGriff John (Sale – 2 gap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 38 cap)
5. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 20 cap)
6. Jac Morgan (Gweilch – 20 cap) – capten
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 24 cap)
8. Taulupe Faletau (Caerdydd – 105 cap)

Eilyddion

16. Evan Lloyd (Caerdydd – 7 cap)
17. Gareth Thomas (Gweilch – 37 cap)
18. Henry Thomas (Scarlets – 6 chap)
19. Teddy Williams (Caerdydd – 3 chap)
20. Aaron Wainwright (Dreigiau – 54 cap)
21. Rhodri Williams (Dreigiau – 7 cap)
22. Jarrod Evans (Harlequins – 8 cap)
23. Joe Roberts (Scarlets – 2 gap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Cyhoeddi Tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Principality
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Cyhoeddi Tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Principality
Cyhoeddi Tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Principality
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Cyhoeddi Tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Principality
Rhino Rugby
Sportseen
Cyhoeddi Tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Principality
Cyhoeddi Tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Principality
Cyhoeddi Tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Principality
Cyhoeddi Tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Principality
Cyhoeddi Tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Principality
Amber Energy
Opro
Cyhoeddi Tîm Cymru i wynebu Iwerddon yn Stadiwm Principality