Bydd y Trefniant Rygbi Proffesiynol (PRA) ar gyfer 2025 yn gosod sylfaen i’r berthynas rhwng Undeb Rygbi Cymru a’r clybiau rhanbarthol proffesiynol tan 2029 – gan osod seiliau ariannol cadarn er mwyn galluogi llwyddiant ym mhob agwedd o gêm broffesiynol y dynion yng Nghymru.
Bydd y Trefniant yn gweld mwy o gydweithio ar draws yr holl ecosystem rygbi yma yng Nghymru a bydd cynnydd yn y buddsoddiad ariannol y bydd y pedwar clwb rhanbarthol yn eu derbyn gan yr Undeb – yn unol ag egwyddorion strategaeth ‘Cymru’n Un’ gyhoeddwyd yr haf diwethaf.
Dywedodd Malcolm Wall, Cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol wrth siarad ar ran y pedwar clwb rhanbarthol: “Rydym wedi cytuno ar y prif bwyntiau ac egwyddorion a mater o weithio ar y manylion yw hi bellach cyn cyflwyno’r cytundeb i’r Byrddau a’r Rhanddeiliaid am eu cefnogaeth nhw.
“Mae’r setliad yn rhan o drosolwg o’r gêm yn gyfangwbl ac rydym eisoes yn gweld gelliannau sylweddol yn y llwybr datblygu sy’n cefnogi’r gamp ar y lefel uchaf un.
“Mae hyn yn mynd i gynnwys trwyddedau academi yn y clybiau proffesiynol a chodi safonau Super Rygbi Cymru ymhellach – sydd un lefel o dan cystadlaethau’r pedwar prif glwb wrth gwrs.
“Byddwn hefyd yn gweld mwy o gydweithio ar draws ein gêm, gyda’r prif hyfforddwyr cenedlaethol yn rhannu eu syniadau a’u strategaethau a bydd sesiynau sgiliau penodol ychwanegol ar gael i chwaraewyr addawol.”
Bydd cydweithio pellach hefyd o safbwynt ‘rhannu gwasanaethau’ er mwyn sicrhau trefniadau a chytundebau mwy cadarn gyda chyflenwyr, partneriaid a noddwyr i’r clybiau proffesiynol ac Undeb Rygbi Cymru. Bydd hefyd yn ofynnol i bawb gyrraedd safonau gweithredol penodol yn ystod y broses hon.