Matt Sherratt, Prif Hyfforddwr Caerdydd sydd wedi ei benodi i arwain y garfan am weddill Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025.
Heddiw, mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney, wedi datgan ei diolch i Warren Gatland am ei wasanaeth i Rygbi Cymru ac mae hi hefyd wedi gofyn i’r genedl gefnogi Matt Sherratt yn ystod y tair gêm sy’n weddill o’r Bencampwriaeth eleni – yn erbyn Iwerddon, Yr Alban a Lloegr.
Dywedodd Abi Tierney: “Mae’r Undeb a Warren wedi cytuno bod gwneud y newid yma – ar yr amser yma – y peth iawn i’w wneud i’r garfan am weddill y Chwe Gwlad eleni.
“Rydym yn arbennig o ddiolchgar i Warren am yr hyn y mae wedi’i wneud dros ein gêm yma yng Nghymru. Fe yw’r Hyfforddwr sydd wedi ein gwasanaethu am y cyfnod hiraf erioed – a fe hefyd yw’r Prif Hyfforddwr mwyaf llwyddiannus yn ein hanes.
“Bydd Matt Sherratt yn cymryd yr awenau dros dro ar gyfnod allweddol ac mae’n adrodd cyfrolau ei fod wedi derbyn y gwahoddiad heb oedi am eiliad. Mae hyn hefyd yn arwydd clir o’n gêm broffesiynol yma yng Nghymru yn cefnogi ein tîm cenedlaethol.
“Bydd Matt yn dechwelyd i’w ddyletswyddau gyda Chaerdydd yn dilyn Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025.
“Ein bwriad fel Undeb yw penodi olynydd llawn amser i Warren Gatland cyn y daith i Japan dros yr haf pan fydd y tîm yn chwarae dwy gêm brawf yno.”
Mae Matt Sherratt, ddaeth yn Brif Hyfforddwr Caerdydd yn 2023 wedi cael profiad hyfforddi gyda’r Gweilch, Bryste a Chaerwrangon yn ogystal.
Dychwelodd Warren Gatland i Gymru ym mis Rhagfyr 2022 wedi iddo ennill tair Camp Lawn a chyrraedd dwy rownd gynderfynol yng Nghwpan y Byd yn 2011 a 2019 ac fe gysylltodd gyda’r Prif Weithredwr ddydd Llun i drafod ei ddyfodol.
Dywedodd Warren Gatland: “Hoffwn ddioch i Fwrdd Undeb Rygbi Cymru am eu ffydd yn ystod tymor heriol iawn y llynedd gan gynnig amser i mi wella pethau eleni.
“Ry’n ni wedi gweithio’n arbennig o galed ac wedi gwneud popeth i newid pethau er gwell – ond nawr yw’r amser iawn am newid.
“Felly dyma ddiwedd pennod arall ond byddaf wastad yn ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd – gan gynnwys cefnogwyr, chwaraewyr ac yn enwedig fy nhîm rheoli a fy staff. ‘Roedd eu cyfraniad yn allweddol yn y llwyddiannau brofon ni gyda’n gilydd ar hyd y daith.
“Hoffwn ddymuno’r gorau i fy olynydd hefyd – a hoffwn ddiolch o galon i gefnogwyr rygbi Cymru.”