Mae Gwalia Lightning yn drydydd yn y tabl ar hyn o bryd gyda dim ond y ddau dîm o Iwerddon uwch eu pennau. Mae gan y Clovers, sy’n teithio i Barc y Scarlets i wynebu Brython Thunder y penwythnos hwn, ddeubwynt o fantais dros garfan Catrina Nicholas-McLaughlin ac mae pedwar pwynt o fwlch rhwng y Cymry a’r Pencampwyr presennol, y Wolfhounds ar y brig.
Dyma fydd yr eildro’n olynol i garfan Gwalia Lightning fod ar y lôn yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae Nicholas-McLaughlin wedi gwneud tri newid i’r tîm ac un newid safle ychwanegol.
Bryonie King fydd yn arwain y garfan unwaith eto ar gyfer gêm Glasgow – sy’n bumed yn y cynghrair ar hyn o bryd.
Bydd King yn dechrau’n safle’r wythwr ddydd Sadwrn sy’n golygu bod Gwennan Hopkins yn symud i chwarae’n flaen-asgellwr ochr dywyll. Catrin Stewart fydd ar yr ochr agored.
Mae asgellwr Cymru, Carys Williams-Morris wedi ei dewis ar un asgell a Caitlin Lewis ar y llall. Y cefnwr rhyngwladol Jenny Hesketh sy’n cwblhau’r tri ôl.
Molly Anderson-Thomas a Kelsie Webster fydd y bartneriaeth yng nghanol y cae ac mae Sian Jones a Carys Hughes yn hen gyfarwydd â’i gilydd yn haneri.
Daw’r clo Paige Jones i mewn i’r pymtheg cychwynol ac Alaw Pyrs fydd yn cadw cwmni iddi’n yr ail reng yn Yr Alban.
Dywedodd Catrina Nicholas-McLaughlin, Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning: “Fe gawson ni gryn hyder o’n perfformiad yn erbyn y Wolfhounds yn ein gêm ddiwethaf – a’n bwriad yw adeiladu ar hynny ymhellach y penwythnos yma.
“Bydd herio Glasgow ar eu tomen eu hunain yn dasg anodd ac fe fyddan nhw ar ben eu digon wedi iddyn nhw ennill eu gêm gyntaf o’r tymor yn erbyn Caeredin yn eu gêm ddiwethaf.
“Mae’n bwysig ein bod ni’n canolbwyntio ar ein perfformiad ni’n hunain a phrofi unwaith eto ein bod yn dîm da.
“Rhaid parhau i gryfhau ac adeiladu ymhellach gan gadarnhau ein hunaniaeth a’n steil ni yn y Cynghrair fel bod y timau eraill yn gwybod yn iawn pwy yw Gwalia Lightning a beth ‘ry’n ni’n ei gynrychioli.”
Gwalia Lightning (v Glasgow)
Jenny Hesketh, Carys Williams-Morris, Kelsie Webster, Molly Anderson-Thomas, Caitlin Lewis, Carys Hughes, Sian Jones; Maisie Davies, Molly Wakely, Danyelle Dinapoli, Paige Jones, Alaw Pyrs, Gwennan Hopkins, Catrin Stewart, Bryonie King (Capten)
Eilyddion: Molly Mae Crabb, Dali Hopkins, Jenni Scoble, Lily Terry, Lottie Buffery-Latham, Kaitie Bevans, Freya Bell, Rhodd Parry