Bu’r hanner cyntaf yn gystadleuol iawn ac wythfed cais Hannah Walker o’r tymor i’r ymwelwyr a throsgais Sian Jones i’r Cymry fu’r unig symudiadau grëodd unrhyw waith i’r sgorfwrdd yn ystod y cyfnod agoriadol.
Wedi troi, fe sicrhaodd geisiau’r capten Bryonie King, Caitlin Lewis ac ymdrech hwyr Courtney Greenway y fuddugoliaeth a phwynt bonws gwerthfawr i garfan Catrina Nicholas-McLaughlin.
Mae Gwalia Lightning bellach yn ail yn y tabl y tu ôl i’r Wolfhounds – ac mae’r ornest rhwng y ddau dîm ar y brig yn ninas Corc ddydd Sul y 9fed o Chwefror yn tynnu dŵr i’r dannedd.
Dychwelyd i Gymru fydd Caeredin ar yr un diwrnod wrth iddyn nhw wynebu Brython Thunder ar Barc y Scarlets yn Llanelli.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning Catrina Nicholas-McLaughlin: “Wedi hanner cyntaf cystadleuol iawn, fe siaradon ni am bwysigrwydd lledu’r bêl wedi troi – ac fe wnaethon ni hynny’n effeithiol iawn.
“Bydd ei perfformiad ail hanner heddiw yn rhoi llawer o hyder i ni wrth i ni edrych ymlaen at gêm fawr y penwythnos nesaf a bydd momentwm ein tair buddugoliaeth ddiwethaf yn bwysig I’n meddylfryd ni hefyd.”