Fe gyflawnodd yr ymwelwyr y dwbl dros Glasgow yn dilyn eu llwyddiant hwyr yn Ystrad Mynach o 31-26 fis Ionawr.
Fe sgoriodd Gwalia Lightning bump o geisiau yn Scotstoun y prynhawn yma a dim ond am bum munud y bu’n rhaid iddynt aros cyn i Sian Jones y mewnwr weld bwlch yn amddiffyn y tîm cartref a phlymio dros y gwyngalch.
O fewn y chwarter awr agoriadol ‘roedd y bwlch wedi ymestyn i 12 pwynt. Pas fach syml Jones a hyrddiad ac ongl gampus Gwennan Hopkins sicrhaodd yr ail gais – ac fe lwyddodd Carys Hughes gyda’r trosiad syml hefyd i gofnodi unig bwyntiau eraill y deugain munud agoriadol.
Dechreuodd yr ymwelwyr yr ail hanner ar dân wrth i fylchiad Hopkins arwain at gais i’r canolwr Molly Anderson-Thomas yn y pendraw – ond fe darodd Glasgow’n ôl yn galed gan sgorio dau gais o fewn 4 munud i’w gilydd.
Katherine Yoemans diriodd gyntaf cyn i Briar McNamara gau’r bwlch i bum pwynt wrth iddi hawlio’i chweched cais o’r tymor.
Er i Alaw Pyrs orfod treulio 10 munud yn y cell cosb am dacl uchel yn union wedi’r ail-ddechrau ni ildiodd yr ymwelwyr unrhyw bwyntiau yn ystod y cyfnod hwnnw – ond yn union wedi i’r 10 munud ddod i ben – fe aeth y clwb cartref ar y blaen am y tro cyntaf – wedi i Aisha Zameer sgorio’i chais cyntaf erioed dros ei thîm – ac wedi i McNamara drosi eto.
Bedwar munud wedi hynny ‘roedd y Cymry’n ôl ar y blaen a thro Kelsie Webster oedd profi’r wefr o dirio am y tro cyntaf yn yr Her Geltaidd – cyn i Carys Hughes drosi i mewn i ddannedd y gwynt. Mantais o bum pwynt i Gwalia a phwynt bonws wedi ei sicrhau hefyd.
Gyda symudiad olaf un yr ornest fe groesodd yr eilydd Lily Terry am bumed cais y Cymry a chadarnhawyd y fuddugoliaeth gyda throsiad arall gan Hughes.
Capten Gwalia Lightning Bryonie King oedd Seren y Gêm ac wedi’r chwiban olaf fe ddywedodd hi: “ Fe weithion ni’n galed iawn heddiw ac er i ni ennill – mae’n rhaid i ni ganmol Glasgow gan eu bod wedi gwella’n fawr yn ddiweddar.
“Ry’n ni wedi gweithio’n galed iawn ar ein sgrymiau ac ar ardal y dacl hefyd ac ‘ry’n ni’n mwynhau ein hunain yn fawr ar y foment.
“Mae gennym lawer o addewid yng Nghymru – ac ‘ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at ddwy gêm olaf y tymor.”

Seren Singleton o Brython Thunder
Yn dilyn eu buddugoliaeth gyntaf o’r Bencampwriaeth y tymor hwn yn erbyn Caeredin yn eu gêm ddiwethaf – yn anffodus fe brofodd tîm di-brofiad Brython Thunder brynhawn poenus iawn yn erbyn y Clovers ar Barc y Scarlets.
Fe enillodd y Gwyddelod o 58-0 yn erbyn tîm Ashley Beck yn gynharach yn y tymor – ac ‘roedd y bwlch rhwng y timau’n fwy fyth yn Llanelli heddiw.
Fe sgoriodd yr ymwelwyr 12 cais a 68 o bwyntiau cyn i’r dorf gartref gael rhywbeth i’w ddathlu – a daeth hynny gyda chwarter awr o’r ornest yn weddill.
Yn ei gêm gyntaf erioed yn yr Her Geltaidd, fe hyrddiodd clo Clwb Rygbi Cymry Caerdydd, Catrin Jones dros y llinell gais i hawlio unig gais ei thîm ar brynhawn hynod o hir ac anodd.
Er i Hanna Marshall ychwanegu’r trosiad – symbylu’r Clovers i ychwanegu 4 cais arall wnaeth hynny – ac erbyn y chwiban olaf ‘roedd sgorfwrdd Parc y Scarlets yn dangodd bod cyfanswm yr ymwelwyr wedi codi i 94 o bwyntiau.
Cyfanswm o 16 o geisiau i’r Clovers a’r sgorwyr oedd: Faith Oviawe (x2) ,Jane Neill, Grainne Burke, Amee Leigh Costigan (x2), Emily Gavin (x2), Emily Lane, Brianna Heylmann, Anna McGann (x2), Saoirse Crowe, Grainne Moran, Beth Buttimer ac un cais cosb.
Bydd y ddau dîm Cymreig yn chwarae nesaf ar Fawrth y 1af wrth i Gwalia Lightning groesawu’r Wolfhounds i Ystrad Mynach – tra taith i Glasgow sy’n wynebu Brython Thunder.