Mae Undeb Rygbi Cymru’n hynod o falch o gyhoeddi partneriaeth newydd aml-flwyddyn ar y cyd gyda Reviva – sy’n gwmni arbenigol yn y byd coffi. Mae Reviva’n cynhyrchu coffi 100% Arabica o Dde America sy’n cael ei gydnabod gan y Cynghrair Coedwigoedd Glaw.
Dyma’r tro cyntaf erioed i Undeb Rygbi Cymru bartneru gyda chwmni coffi.
Bydd cefnogwyr Cymru’n gallu mwynhau cynnyrch cyflenwyr coffi swyddogol Undeb Rygbi Cymru yn Stadiwm Principality o ddydd Sadwrn yr 22ain o Chwefror ymlaen – pan fydd ein tîm cenedlaethol yn chwarae eu gêm gartref gyntaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni.
Dyweodd Pennaeth Gweithrediadau URC, Leighton Davies: “Rydym wrth ein bodd ein bod yn croesawu Reviva i deulu Undeb Rygbi Cymru fel ein cyflenwyr coffi swyddogol.
“Mae Reviva a’r Undeb yn rhannu’r angerdd am arbenigedd a bydd coffi’r cwmni’n cynnig cynnyrch arbennig a chynaliadwy i’r cefnogwyr pan fyddan nhw’n ymweld â Stadiwm Principality.”
Bydd ein cefnogwyr yn falch o wybod bod cwmni Reviva’n ymroddedig i gydweithio gyda chyflenwyr bychain a chynaliadwy er mwyn cynhyrchu coffi o’r safon uchaf un. Mae holl ffa’r cwmni’n cael eu prynu gan ffermydd sy’n cael eu cydnabod gan y Cynghrair Coedwigoedd Glaw sy’n gweithredu safonau amgylcheddol uchel, sy’n sicrhau budd masnachol a chymunedol i’r ardaloedd lleol hynny.
Mae chwaraewyr rygbi’n adnabyddus am eu hangerdd am eu coffi ac mae Reviva’n falch o ddarparu coffi yn y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol yn ogystal ag ar ddyddiau gemau.
Mae’r diwylliant cymunedol o gefnogi rygbi Cymru wrth fwynhau coffi yr un pryd, wrth galon y bartneriaeth newydd hon rhwng URC a Reviva ac mae perchennog y cwmni, Mike Jones, Prif Weithredwr Gulf Oil Rhyngwladol yn y Deyrnas Gyfunol, yn hapus iawn i gydweithio gyda’r Undeb: “Rydym yn arbennig o falch mai ni yw’r cwmni coffi cyntaf erioed i bartneru gydag Undeb Rygbi Cymru gan ddod â dau frand uchelgeisiol at ei gilydd.
“Mae gan rygbi Cymru gefnogaeth frwd ac angerddol ac ‘rydym ni wedi’n cyffroi wrth ddechrau’r siwrnai hon gyda’n gilydd. Bydd yn brofiad braf iawn gweld cefnogwyr Cymru’n mwynhau ein cynnyrch yn Stadiwm Principality yn ystod y Chwe Gwlad ac wedi hynny hefyd.”
Bydd cynnyrch arbennig cwmni Reviva ar gael i’r cefnogwyr yng nghynteddau Stadiwm Principality ac hefyd yn yr ardaloedd lletygarwch a’r seddi premiwm. Gall chwaraewyr y timau cenedlaethol gael y coffi’n y Ganolfan Ragoriaeth Genedlaethol yn y Fro.