Bydd y cynllun yn galluogi pob cefnogwr i gynllunio eu hymweliad â Stadiwm Principality’n hyderus gan wybod y bydd eu hanghenion personol yn cael eu diwallu.
Yn allweddol mae’r canllaw’n cynnwys ffilterau sy’n addas ar gyfer y rhai sy’n dioddef o Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) a thudalennau sy’n addas i osgoi trawiadau – fel y gall bob cefnogwr ddod o hyd i’r wybodaeth berthnasol sydd ei hangen arnynt.
Datblygwyd y canllaw mewn cydweithrediad â chynllun Acces Card a chwmni Different Breed -sy’n arbenigwyr yn y maes o wneud digwyddiadau’n hygyrch i gefnogwyr ag anableddau – fel bo’r digwyddiadau hynny ar gael i bawb.
Mae’r ymrwymiad hwn yn berthnasol i bob agwedd o brofiad y cefnogwr ar ddiwrnod digwyddiad neu gêm. Yn ogystal â’r canllaw ei hun – mae Stadiwm Principality wedi lansio system archebu bwyd a diod ymlaen llaw ar gyfer cefnogwyr sy’n wynebu heriau hygyrchedd gan sicrhau bod profiad y cefnogwyr penodol hyn yn gadarnhaol a phleserus.
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney: “Rwy’n arbennig o falch bod Stadiwm Principality ar flaen y gad o safbwynt ateb gofynion hygyrchedd mewn digwyddiadau mawr. Mae ymroddiad ein staff a’u harloesedd i symleiddio’r broses o archebu tocynnau a chreu’r canllawiau cynhwysfawr yma – yn cynnig arweiniad ac ysbrydoliaeth i leoliadau a stadiymau eraill ar draws y Deyrnas Unedig a ledled y byd hefyd. Rydym yma yng Nghymru’n gosod safonau newydd ar gyfer gweddill y byd.”
Mae’r canllawiau newydd ar gael yng Nghanolfan Gymorth Undeb Rygbi Cymru ac hefyd yn ddigidol ar bob tocyn hygyrch a brynir ar gyfer unrhyw ddigwyddiad yn Stadiwm Principality.
Mae fideo wedi ei gynhyrchu i gydfynd â’r lansiad heddiw a gellir ei weld yma
Dywedodd Sylfaenydd Different Breed, Craig Pryde:
“Mae pawb yn Different Breed ®️, wrth ein boddau gyda’r cydweithio sydd wedi digwydd rhyngom ni a Stadiwm Principality. Mae’n meddalwedd a’n profiad sylweddol o ddarparu gwybodaeth o’r natur yma’n dangos beth sy’n bosib er mwyn gwasanaethu a diwallu anghenion y cefnogwyr.
“Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld yr effaith hynod gadarnhaol y caiff y datblygiadau yma ar brofiadau cefnogwr mewn gemau rygbi a digwyddiadau eraill yn Stadiwm Principality fydd hefyd yn gymorth i staff y Stadiwm ddysgu ymhellach am ofynion ein cymuned anabl.”
Ychwanegodd Prif Weithredwr Nimbus Disability, Mark Briggs:
“Yn dilyn llwyddiant y cynllun Access Card mewn digwyddiadau cerddorol ac adloniant, ‘roedd troi’n golygon at y byd chwaraeon yn gam naturiol. ‘Roedd agwedd iach ac agored staff Stadiwm Principality i oresgyn unrhyw heriau’n gadarnhaol iawn ac yn torri tir newydd yn y maes.
“Mae’r datblygiadau yma’n mynd i sicrhau y bydd cefnogwyr gydag anghenion penodol yn gallu mwynhau profiadau cyson a phleserus wrth brynu tocynnau a mwynhau’r digwyddiadau eu hunain. Bydd hynny’n gwneud yn siwr y byddant yn dychwelyd i’r Stadiwm dro ar ôl tro.
“Mae’r drefn yma o integreiddio’r broses o brynu tocynnau yn dangos y ffordd i stadiymau eraill. Mae Uwch Gynghrair Lloegr wedi gofyn am gyngor gan Stadiwm Principality ac rydym yn falch i gyhoeddi heddiw bod Stadiwm Allianz wedi cytuno i weithio mewn partneriaeth gyda chynllun Access Card. Mae hyn yn dysteb benodol i’r gwaith y mae Stadiwm Principality wedi ei wneud dros y flwyddyn ddiwethaf.”
Mae’r Canllaw Hygyrch i Gefnogwyr yn cryfhau’r berthynas sydd eisoes yn bodoli gyda Nimbus Disability. Defyddiwd y cerdyn hygyrch neu’r Access Card yn y gêm yn erbyn De Affrica yn y Stadiwm yn ystod Cyfres yr Hydref y llynedd. Dyma fideo o brofiadau Richard,Llysgennad chwaraeon byw y cwmni:
Mae’r canllaw yn gam arall yng ngweledigaeth Stadiwm Principality i’w wneud yn ‘Stadiwm i Bawb’. Yn 2022 neiwidiwyd y pwyslais o aros am ateb neu wybodaeth ar linell ffôn a chynhyrchwyd platform ar-lein syml a llawer mwy effeithiol. Fe sicrhaodd hynny bod cefnogwyr ag anghenion hygyrchedd yn aros llawer llai o amser am wasanaeth oedd yn cynnig llawer gwell profiad iddynt hefyd.
Dywedodd Dan Cook, Rheolwr Gweithrediadau Cwsmeriaiad a Thocynnau Digidol:
“Ry’n ni’n hynod o falch gyda’r datblygiadau diweddaraf yma sy’n cynnig profiadau llawer iawn mwy cadarnhaol i’n cefnogwyr. Mae’r cydweithio trwy gydol y broses hon wedi bod yn arbennig – sydd wedi sicrhau ein bod yn gallu darparu’r canllawiau cynhwysfawr yma ar gyfer ein digwyddiadau.
“Bydd hi’n bosib yn y dyfodol agos iawn i gefnogwyr ddefnyddio’n gwasanaethau arbennig ar gyfer pobl sydd ag atal dweud a’r rheiny sy’n wynebu heriau o ran eu golwg. ‘Ry’n ni’n falch iawn o’r datblygiadau yma ond mae wastad angen gwella ymhellach.
“Ein nod wrth gwrs yw gwneud yn siwr bod pob cefnogwr yn derbyn croeso ymarferol a chynnes wrth drefnu ac wrth ymweld â Stadiwm Principality – a’u bod yn mwynhau cyffro y digwyddiadau byw sy’n cael eu cynnal gennym.
“Yn syml – creu ‘Stadiwm i Bawb’.”
Dywedodd Pennaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Undeb Rygbi Cymru, Liam Scott: “Mae’n cydweithio gydag Access Card a Different Breed wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddatblygu’r canllawiau gwerthfawr hyn. Mae’r newidiadau hyn wedi eu selio ar brofiadau go iawn pobl sydd wedi’n harwain ar y trywydd cywir i gynnig y gwasanaeth gorau posib ar gyfer pob un o’n cefnogwyr.”
Yn ddiweddarach yn 2025 bydd Stadiwm Principality’n defnyddio technoleg arloesol fydd yn chwyldroi profiadau’r cefnogwyr sy’n wynebu heriau gyda’u golwg a bydd y gwasanaeth ffôn i gynnig cymorth i’r rheiny sydd ag atal dweud yn cael ei lansio hefyd.