Neidio i'r prif gynnwys
T. Rhys Thomas

T. Rhys Thomas

Thomas i ymuno â’r tîm hyfforddi am weddill y Chwe Gwlad

Bydd cyn fachwr rhyngwladol Cymru, T. Rhys Thomas yn ymuno â thîm hyfforddi Matt Sherratt, fel hyfforddwr sgiliau, am weddill Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025.

Fe ymddangosodd Thomas 27 o weithiau dros ei wlad ar y maes rhyngwladol ac fe gynrychiolodd glybiau Caerdydd, Wasps a’r Dreigiau yn ystod ei yrfa broffesiynol.

Mae’n aelod o dîm hyfforddi Caerloyw yn Uwch Gynghrair Gallagher ar hyn o bryd ond mae wedi derbyn cantiatád ei glwb i ymuno â Chymru ar secondiad am weddill y Bencampwriaeth eleni. Bydd yn dychwelyd i Gaerloyw wedi i Gymru herio Lloegr yn eu gêm olaf o’r Chwe Gwlad ar Fawrth y 15fed.

Bydd Thomas yn gyfrifol yn benodol am ddatblygu sgiliau’r blaenwyr a bydd yn cydweithio’n agos gyda hyfforddwr y blaenwyr, Jonathan Humphreys a’r ymhynghorydd sgrymio, Adam Jones – sydd hefyd ar gyfnod o secondiad o glwb yr Harlequins.

Dywedodd Matt Sherratt: “Rwyf wrth fy modd y bydd TR yn ymuno gyda ni a hoffwn ddiolch i Gaerloyw am eu parodrwydd i’w ganiatáu i ddod atom. ‘Rwyf wedi adnabod TR ers blynyddoedd bellach ac ‘rwy’n hyderus iawn y bydd yn benodiad arbennig o addas.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ddechrau fy rôl newydd a gweithio ar y paratodau ar gyfer wynebu Iwerddon ddydd Sadwrn.

Dywedodd T. Rhys Thomas: “Mae’n rhaid i mi ddiolch i George Skivington ac i Gaerloyw am eu cydweithrediad a’u caniatád sy’n fy ngalluogi i ymuno â Chymru am y tair gêm sydd ar ôl ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness eleni.

Rhannu:

“Mae’r holl beth wedi digwydd yn gyflym iawn mewn mater o ddyddiau ac ‘rwy’n ysu i ymuno â’r garfan a chydweithio gyda Matt a’r hyfforddwyr eraill.”

Tîm Hyfforddi Cymru
Prif Hyfforddwr – Matt Sherratt
Hyfforddwr Amddiffyn – Mike Forshaw
Hyfforddwyr y Blaenwyr – Jonathan Humphreys
Hyfforddwr Sgiliau – Neil Jenkins
Ymgynghorydd Sgrymio – Adam Jones
Hyfforddwr Sgiliau – T. Rhys Thomas

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Thomas i ymuno â’r tîm hyfforddi am weddill y Chwe Gwlad
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Thomas i ymuno â’r tîm hyfforddi am weddill y Chwe Gwlad
Thomas i ymuno â’r tîm hyfforddi am weddill y Chwe Gwlad
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Thomas i ymuno â’r tîm hyfforddi am weddill y Chwe Gwlad
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Thomas i ymuno â’r tîm hyfforddi am weddill y Chwe Gwlad