Neidio i'r prif gynnwys
Faletau and James

Taulupe Faletau (left) and Eddie James (right) in training

Tîm Cymru ar gyfer gêm Yr Eidal yn Rhufain

Chwaraewyr cysylltiedig

Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, wedi enwi ei dîm i chwarae’r Eidal yn ail rownd gemau Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 yn y Stadio Olimpico, Rhufain ddydd Sadwrn 8 Chwefror (14.15pm, yn fyw ar S4C ac ITV).

Rhannu:

Bydd yr wythwr Taulupe Faletau yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru ers y fuddugoliaeth o 43-19 yn erbyn Georgia yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2023.

Y capten Jac Morgan (blaenasgellwr ochr agored) a James Botham (blaenasgellwr ochr dywyll) fydd yn ymuno â Faletau yn y rheng ôl.

Bydd Eddie James yn chwarae ei gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad a’i bartner yng nghanol cae fydd Nick Tompkins.

Mae’r rheng flaen, sef y bachwr Evan Lloyd, y prop pen tynn Henry Thomas a’r prop pen rhydd Gareth Thomas yn dechrau unwaith eto’r wythnos hon.

Felly hefyd bartneriaeth Will Rowlands a Dafydd Jenkins yn yr ail-reng, a’r haneri Tomos Williams (mewnwr) a Ben Thomas (maswr).

Mae’r tri ôl yn aros yr un fath hefyd gyda Liam Williams yn gefnwr a Josh Adams a Tom Rogers ar yr esgyll.

Ymhlith eilyddion Cymru yn y blaenwyr, mae Elliot Dee, Nicky Smith, Keiron Assiratti, Freddie Thomas ac Aaron Wainwright ar gael i gamu o’r fainc.

Rhodri Williams, Dan Edwards a Blair Murray yw’r opsiynau o safbwynt yr olwyr.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Mae hon wedi bod yn wythnos bwysig i ni fel carfan ac mae pawb wedi gweithio’n arbennig o galed wrth ymarfer.

“Ry’n ni eisiau bod yn ddisgybledig ac yn glinigol ddydd Sadwrn ac mae’n rhaid i ni reoli agweddau allweddol y gêm.

“Ry’n ni’n gwybod yn iawn bod yr Eidal yn dîm o wir safon a’u bod yn garfan gorfforol iawn hefyd.

“Mae gêm ddydd Sadwrn yn tynnu dŵr i’r dannedd ac ‘ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at yr her sydd o’n blaenau.”

Tîm Cymru v Yr Eidal

15. Liam Williams (Saraseniaid – 93 chap)
14. Tom Rogers (Scarlets – 6 chap)
13. Nick Tompkins (Saraseniaid – 39 cap)
12. Eddie James (Scarlets – 3 chap)
11. Josh Adams (Caerdydd – 60 cap)
10. Ben Thomas (Caerdydd – 8 cap)
9. Tomos Williams (Caerloyw – 60 cap)
1. Gareth Thomas (Gweilch – 36 chap)
2. Evan Lloyd (Caerdydd – 6 chap)
3. Henry Thomas (Scarlets – 5 cap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 37 cap)
5. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 20 cap)
6. James Botham (Caerdydd – 17 cap)
7. Jac Morgan (Gweilch – 19 cap) – capten
8. Taulupe Faletau (Caerdydd – 104 cap)

Eilyddion

16. Elliot Dee (Dreigiau – 52 cap)
17. Nicky Smith (Caerlŷr – 50 cap)
18. Keiron Assiratti (Caerdydd – 11 cap)
19. Freddie Thomas (Caerloyw – 2 gap)
20. Aaron Wainwright (Dreigiau – 53 chap)
21. Rhodri Williams (Dreigiau – 6 chap)
22. Dan Edwards (Gweilch – 1 cap)
23. Blair Murray (Scarlets – 4 cap)

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Tîm Cymru ar gyfer gêm Yr Eidal yn Rhufain
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Tîm Cymru ar gyfer gêm Yr Eidal yn Rhufain
Tîm Cymru ar gyfer gêm Yr Eidal yn Rhufain
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Tîm Cymru ar gyfer gêm Yr Eidal yn Rhufain
Rhino Rugby
Sportseen
Tîm Cymru ar gyfer gêm Yr Eidal yn Rhufain
Tîm Cymru ar gyfer gêm Yr Eidal yn Rhufain
Tîm Cymru ar gyfer gêm Yr Eidal yn Rhufain
Tîm Cymru ar gyfer gêm Yr Eidal yn Rhufain
Tîm Cymru ar gyfer gêm Yr Eidal yn Rhufain
Amber Energy
Opro
Tîm Cymru ar gyfer gêm Yr Eidal yn Rhufain