News

Tîm o dan 20 Cymru i wynebu Iwerddon

Ioan Emanuel
Bydd Ioan Emanuel yn dychwelyd i'r XV cychwynnol.

Mae’r Prif Hyfforddwr, Richard Whiffin wedi cadarnhau ei dîm i herio’r Gwyddelod yn Nhrydedd Rownd Pencampwriaeth o dan 20 y Chwe Gwlad yn Rodney Parade nos Wener yma (7.45pm yn fyw ar S4C).

Mae Whiffin wedi gwneud pedwar newid, gan gynnwys un o ran safle i Dan Gemine, yn y gobaith y bydd bechgyn o dan 20 Cymru yn ennill dwy gêm Bencampwriaeth o’r bron am y tro cyntaf ers 2020 pan gurwyd Ffrainc a Lloegr.

Mae cefnwr Caerfaddon Jack Woods wedi ei ddewis yn lle Scott Delnevo tra bod prop pen rhydd clwb Caerfaddon Ioan Emanuel yn dychwelyd ar draul Louie Trevett.

Gan bod Gemine yn symud o’r ail reng i’r rheng ôl, daw clo Rygbi Gogledd Cymru, Tom Cottle i mewn i’r tîm. Bydd y Cymry ifanc yn gobeithio curo Iwerddon am y tro cyntaf ers y fuddugoliaeth yn Donnybrook 2018. Y noson honno ‘roedd Max Llewellyn, Tom Rogers, Tommy Reffell a James Botham yn gwisgo’r crys coch.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Tîm o dan 20 Cymru, Richard Whiffin: “Fe wnaeth y bechgyn yn dda ar y cyfan yn Yr Eidal ac ‘ry’n ni’n hapus gydag agweddau penodol o’n chwarae y erbyn Ffrainc hefyd. Mae mwyafrif y garfan wedi cael eu cyfle ar y maes yn y ddwy gêm gyntaf a bydd hi’n braf iawn i’r bechgyn chwarae ar ein tomen ein hunain yn Rodney Parade.

“Ry’n ni’n ceisio cadw ambell bartneriaeth a chryfhau’r cysylltu rhwng y bois ar y cae ar gyfer gweddill y Bencampwriaeth.

“Mae’r bechgyn wedi rhoi popeth i ni o safbwynt ymdrech yn ystod y ddwy ornest agoriadol ac ‘ry’n ni wedi chwarae rygbi da iawn am gyfnodau.

“Ro’n i’n falch iawn dros y garfan eu bod wedi ennill y gêm yn Nhreviso – ein buddugoliaeth gyntaf oddi-cartref yn y Chwe Gwlad ers pum mlynedd. Mae’n rhaid i ni geisio gwneud hynny’n brofiad arferol a disgwyliedig.

“Doedd y fuddugoliaeth yn erbyn Yr Eidal ddim yn bert ar brydiau a bydd angen i ni wella nifer o agweddau o’n chwarae’r penwythnos yma. Wedi dweud hynny, ‘roedd rhannu gorfoledd y garfan ar y chwiban olaf bythefnos yn ôl yn brofiad arbennig.”

Lloegr sy’n arwain y Bencampwriaeth ar hyn o bryd gyda Ffrainc, Iwerddon a’r Eidal ond bwynt ar y blaen i Gymru. Byddai buddugoliaeth brin yn erbyn y Gwyddelod ar y lefel hon yn cadw gobeithion y Crysau Cochion o gipio coron y Chwe Gwlad yn fyw o hyd.

Ychwanegodd Richard Whiffin: “Mae pob tîm sy’n cynrychioli Iwerddon wedi eu hyfforddi’n arbennig o dda ac mae ganddyn nhw ambell dric gwahanol i brofi eu gwrthwynebwyr bob tro hefyd.

“Byddwn yn dangos y parch dyledus iddyn nhw wrth gwrs a bydd yn rhaid i ni berfformio’n ddiwyd am yr 80 munud gan obeithio gosod ein stamp ein hunain ar y gêm.”

Cymru D20 v Iwerddon D20, Rodney Parade, Gwener 21 Chwefror, 7.45pm (S4C)

15 Jack Woods (Caerfaddon)
14 Aidan Boshoff (Bryste)
13 Osian Roberts (Sale)
12 Steff Emanuel (Caerdydd)
11 Tom Bowen (Caerdydd)
10 Harri Wilde (Caerdydd)
9 Logan Franklin (Dreigiau);
1 Ioan Emanuel (Caerfaddon)
2 Harry Thomas (Scarlets)
3 Sam Scott (Bryste)
4 Kenzie Jenkins (Bryste)
5 Tom Cottle (Rygbi Gogledd Cymru)
6 Dan Gemine (Gweilch)
7 Harry Beddall (Caerlŷr – Capten)
8 Evan Minto (Dreigiau)

Eilyddion

16 Evan Wood (Met Caerdydd)
17 Louie Trevett (Bryste)
18 Owain James (Dreigiau)
19 Luke Evans (Caerwysg)
20 Caio James (Carloyw)
21 Sion Davies (Caerdydd)
22 Harri Ford (Dreigiau)
23 Elijah Evans (Caerdydd)

Related Topics

Newyddion
News