Neidio i'r prif gynnwys
Rhyddhad ar yr eiliad olaf wrth i Dîm o dan 20 Cymru drechu’r Eidalwyr o ddeubwynt

(Hawlfraint Matteo Ciambelli / Inpho)

Rhyddhad ar yr eiliad olaf wrth i Dîm o dan 20 Cymru drechu’r Eidalwyr o ddeubwynt

Ar ôl bod o dan y lach am chwarter awr cynta’r gêm, fe lwyddodd Tîm o dan 20 Cymru i ennill o 20-18 yn erbyn yr Eidal yn Nhreviso wedi i Roberto Fasti fethu cic gosb yn amser yr amen.

Rhannu:

Yn dilyn y golled drom yn erbyn Ffrainc y penwythnos blaenorol, ‘roedd y Cymry ifanc yn benderfynol o ddangos gwelliant sylweddol yn yr ornest hon – ac o ganlyniad i dri chais y Cymry mae’r bechgyn o dan 20 wedi ennill eu gêm oddi-cartref gyntaf yn y Chwe Gwlad ers chwe blynedd.

Fe wnaeth Richard Whiffin bedwar newid i’r tïm ar gyfer yr ornest yn Treviso ond mi fydd y Prif Hyfforddwr yn anfodlon gyda dechrau ei dîm yn y Stadio Comunale di Monigo. Wedi dau funud yn unig, ‘roedd diffyg disgyblaeth yn ardal y dacl wedi cyflwyno cyfle hawdd i’r maswr cartref, Roberto Fasti hollti’r pyst am bwyntiau cynta’r noson. Doedd Fasti ddim yn gwybod y byddai ei ymdrech olaf o’r noson yn profi tynged yr ornest.

Bu’r Eidalwyr yn nhir Cymru am 90% o amser yn ystod chwarter awr agoriadol yr ornest ac felly doedd hi’n fawr o syndod gweld Jules Ducros yn tirio cais cynta’r gêm wedi 15 munud yn dilyn cic letraws berffaith Fasti.

Fe gymrodd hi 22 o funudau i fechgyn Harry Beddall fentro’n bwrpasol i ddwy ar hugain eu gwrthwynebwyr am y tro cyntaf – ac fe wnaethon nhw hynny yn dilyn cic 50/20 berffaith Steff Emanuel. Fe roddodd hynny hyder i’r Crysau Cochion ac yn dilyn gwaith caib a rhaw effeithiol y blaenwyr yng nghysgod y pyst, fe fanteisiodd Tom Bowen i’r eithaf ar weledigaeth a phas berffaith Harri Wilde i groesi yn y gornel.

8 munud yn ddiweddarch – ar bod o dan y lach am gyfnodau hir o’r hanner cyntaf – ‘roedd y Cymry ar y blaen wedi i Harry Thomas dirio o sgarmes symudol. Cais haeddiannol i fachwr y Scarlets wedi iddo fod yn hynod amlwg yn ardal y dacl trwy gydol y cyfnod cyntaf.

Gyda munud yn unig o’r deugain agoriadol yn weddill, fe wrthododd yr Eidalwyr driphwynt hawdd o flaen y pyst ac fe brofodd hynny i fod yn benderfyniad cywir, gan i’r blaen-asgellwr Nelson Casartelli roi ei dîm ar y blaen wrth droi wrth dirio. Ychwanegodd Fasti’r ddeubwynt i ymestyn mantais Yr Eidal i bum pwynt ar yr egwyl.

Fe ildiodd yr ymwelwyr 10 o giciau cosb yn ystod yr hanner cyntaf – ond ogystal â mynnu gwelliant yn eu disgyblaeth, byddai Richard Whiffin wedi atgoffa ei garfan iddynt fod ar ei hôl hi’n erbyn yr Azzurrini’r llynedd cyn taro’n ôl wedi troi i ennill o 27-15.

Dyna’n union ddigwyddodd ar ddechrau’r ail hanner wrth i Harry Thomas hawlio’i bedwerydd cais o’r Bencampwriaeth o sgarmes symudol effeithiol arall. Wedi trosiad yr eilydd Harri Forde ‘roedd yr ymwelwyr ar y blaen am y tro cyntaf.

Dim ond am chwe munud y parodd eu blaenoriaeth wrth i’r Cymry droseddu unwaith yn rhagor wrth gamsefyll. “Grazie Mille” oedd ymateb Fasti gan roi’r Eidalwyr yn ôl ar y blaen o bwynt.

Bum munud wedi hynny – fe ymosododd y Cymry’n ddwfn o’u tir eu hunain, welodd y clo Dan Gemine yn tirio’n orfoleddus yn y pendraw – ond yn anffodus fe benderfynodd y swyddogion ddileu’r sgôr gan bod Sam Scott wedi troseddu yn ystod cymalau cynnar yr ymosodiad.

Gyda 10 munud yn weddill, tro’r Eidalwyr oedd cael eu cosbi y ardal y dacl – ac fe lwyddodd Harri Ford i sgorio pwyntiau tyngedfennol yr ornest a sicrhau buddugoliaeth gofiadwy yn y broses.

Fe gafodd Yr Eidalwyr ddau gyfle hwyr iawn i gipio’r fuddugoliaeth ond fe fethodd yr asgellwr Malik Faissal â thirio wedi iddo groesi’r llinell gais – ac yna gyda chic olaf un y gêm fe fethodd Roberto Fasti gyda’i gic gosb.

Torcalon i’r tîm cartref yn Treviso – ond gorfoledd i Gymru.

Canlyniad: Yr Eidal 18 Cymru 20

Bydd gêm gartref gyntaf y bechgyn o dan 20 yn y Bencampwriaeth, nos Wener yr 21ain o Chwefror pan fyddant yn croesawu Iwerddon i Rodney Parade.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Rhyddhad ar yr eiliad olaf wrth i Dîm o dan 20 Cymru drechu’r Eidalwyr o ddeubwynt
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Rhyddhad ar yr eiliad olaf wrth i Dîm o dan 20 Cymru drechu’r Eidalwyr o ddeubwynt
Rhyddhad ar yr eiliad olaf wrth i Dîm o dan 20 Cymru drechu’r Eidalwyr o ddeubwynt
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Rhyddhad ar yr eiliad olaf wrth i Dîm o dan 20 Cymru drechu’r Eidalwyr o ddeubwynt
Rhino Rugby
Sportseen

Amber Energy
Opro
Rhyddhad ar yr eiliad olaf wrth i Dîm o dan 20 Cymru drechu’r Eidalwyr o ddeubwynt