Mae Tuipulotu, sy’n 21 oed wedi gorfod derbyn triniaeth ar linyn ei gar, sy’n golygu na fydd hi’n chwarae unrhyw rygbi am weddill tymor 2024/25.
Mae’r prop dylanwadol eisoes wedi cynrychioli ei gwlad 25 o weithiau a bydd ei hadferiad yn cael ei drefnu a’i oruchwilio gan Undeb Rygbi Cymru.
Dywedodd Sisilia Tuipulotu: “Mae anafiadau’n digwydd am reswm ac felly mae’n rhaid i mi ganolbwyntio’n llwyr ar fod yn holliach ar gyfer Cwpan y Byd 2025 sy’n cael ei gynnal yn Lloegr wrth gwrs.
“Dwi’n arbennig o siomedig na fyddaf yn chwarae yn y gêm yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality ar y 29ain o Fawrth – ond byddaf yno’n cefnogi’r garfan heb amheuaeth.”
Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Menywod Cymru, Sean Lynn: “Mae Sisilia’n rhan fawr a phwysig o’n carfan. Fe gaiff bob cefnogaeth gan ein tîm meddygol a’n hyfforddwr – heb sôn am gefnogaeth pob un o’r merched.
“Fe gaiff hi’r cyngor gorau sydd ar gael a’r gefnogaeth orau hefyd fel y gallwn ei chroesawu’n ôl i’r garfan – yn gwbl holliach – mor fuan ag sy’n bosib.”