Mae’r golled hon yn ergyd i obeithion Gwalia o gipio’r Cynghrair ond mae llwyddiant y Wolfhounds yn eu codi nhw i frig y tabl gyda mantais o bedwar pwynt.
‘Roedd nifer wedi darogan gornest dynn cyn y gic gyntaf ac fe brofodd hynny i fod yn wir yn y chwarter agoriadol gan na lwyddodd y naill dîn ma’r llall i sgorio unrhyw bwyntiau.
Yna, penderfynodd Katie Whelan, mewnwr y tîm cartref i fanteisio ar fwlch bychan yn amddiffyn yr ymwelwyr gan ymestyn pob gewyn o’i chorff i groesi am gais cyntaf y prynhawn.
Trosodd Dannah O’Brien y ddeubwynt ychwanegol yn hyderus.
Llwyddodd Gwalia Lightning i daro’n ôl ar unwaith – ac fe roddodd cic gosb Carys Hughes a chais Jenny Hesketh yn fuan wedi hynny ferched Catrina Nicholas-McLaughlin ar y blaen.
‘Roedd cefnwr Cymru wrth ei bodd yn croesi yn y gornel i dirio’i chais cyntaf dros ei chlwb newydd – ar achlysur dechrau ei gornest gyntaf dros Gwalia.
Yn anffodus o safbwynt Cymreig – dyna’r unig adeg yn ystod y gêm y bu’r mantais ar y sgorfwrdd gan Gwalia Lightning.
Erbyn yr egwyl, o ganlyniad i gais cydnerth Meabh Clenaghan, ‘roedd yr oruchafiaeth yn ôl ym meddiant y Gwyddelod.
12 munud wedi troi, lledwyd y bwlch i 21-8 wedi i’r eilydd Katie Corrigan hawlio trydydd cais y tîm cartref.
Mae dyfalbarhad a’r anallu i ildio wedi bod yn rhinweddau amlwg yn chwarae diweddar Bryonie King a’i chyd-chwaraewyr – ac yn dilyn cais Maisie Davies, y prop pen rhydd, ‘roedd gobaith o hyd i Gwalia gyda 10 munud ar ôl.
Gyda’r Cymry ar ei hôl hi o chwephwynt, fe gawsant un cyfle hwyr i gipio’r fuddugoliaeth. ‘Roedd y cloc eisoes wedi troi’n goch pan groesodd Alaw Pyrs y llinell gais – ond o ganlyniad i amddiffyn arwrol y Wolfhounds – ni lwyddodd Pyrs i dirio’r bêl – ac felly’r Gwyddelod oedd yn gorfoleddu wrth glywed y chwiban olaf.
Siom ond pwynt bonws i Gwalia Lightning – sy’n parhau’n yr ail safle yn nhabl yr Her Geltaidd – bedwar pwynt y tu ôl i’r Wolfhounds, gymrodd gam sylweddol tuag at gadw’u gafael ar eu coron yn Corc.
Timau
Wolfhounds: Ella Roberts; Vicky Elmes Kinlan, Aoife Dalton, Eve Higgins, Amy Larn; Dannah O’Brien, Katie Whelan; Niamh O’Dowd, Maebh Clenaghan, Christy Haney, Fiona Tuite, Cliodhna Ni Chonchobhair, Claire Boles (capt), Erin King, Brittany Hogan
Eilyddion: Kelly Burke, Tricia Doyle, Linda Djougang, Alma Atagamen, Molly Boyne, Erin McConnell, Katie Corrigan, Anna Doyle
Gwalia Lightning: Jenny Hesketh; Courtney Greenway, Kelsey Webster, Anwen Owen, Caitlin Lewis; Carys Hughes, Sian Jones; Maisie Davies, Molly Wakely, Danyelle Dinapoli, Lily Terry, Alaw Pyrs, Bryonie King (capt), Catrin Stewart, Gwennan Hopkins
Eilyddion: Molly Mae Crabb, Dali Hopkins, Cana Williams, Paige Jones, Lottie Buffery-Latham, Katie Bevans, Freya Bell, Carys Williams-Morris