Dim ond ddwywaith erioed cyn heddiw, yn 2003 a 2007 yr oedd y Crysau Cochion wedi colli ar dir Yr Eidal – a doedd Warren Gatland ei hun erioed wedi profi colled yn erbyn yr Azzurri ar eu tomen eu hunain.
Fe gafodd Brif Hyfforddwr Cymru ergyd ddwbl cyn y gic gyntaf wrth i gyfuniad o salwch ac anaf ei amddifadu o wasanaeth Dafydd Jenkins a Liam Williams. O’r herwydd, dyrchafwyd Freddy Thomas a Blair Murray o’r fainc i’r pymtheg cychwynnol.
Er i Josh Adams ddod yn agos at sgorio yn nau funud agoriadol y gêm, cic gosb y cefnwr Tommaso Allan bedwar munud wedi hynny ‘roddodd y tîm cartref ar y blaen.
Mae’r Eidalwyr bellach wedi cystadlu ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ers chwarter canrif ac wedi gwella’n gyson yn ystod y cyfnod hwnnw – ond yr ymwelwyr sgoriodd nesaf yn dilyn cic gosb gywir Ben Thomas wedi 16 o funudau – pwyntiau cyntaf Cymru o’r Bencampwriaeth eleni.
Wrth i’r chwarter agoriadol ddirwyn i ben fe newidiodd y crysau gleision gyfeiriad eu hymosodiad ac yn dilyn cic bwt ddeallus Paolo Garbisi – fe lwyddodd yr asgellwr Ange Capuozzo i gyrraedd y bêl mewn pryd a thirio am gais cyntaf y gêm. Trosodd Allan yn arbennig o’r ystlys.
Am weddill y cyfnod cyntaf, fe ddangosodd yr Azzurri eu goruchafiaeth wrth iddynt addasu eu chwarae’n effeithiol yn yr amodau anodd. Fe gafodd y Cymry eu cosbi ddwywaith ymhellach yn y 12 munud olaf – ac fe lwyddodd Tommaso Allan gyda’r ddwy gic gosb honno hefyd.
Er i Josh Adams ac Evan Lloyd fygwth llinell gais Yr Eidal yn hwyr yn yr hanner, ‘roedd y Cymry ar ei hôl hi o 16-3 wrth droi.
Gwaethygu wnaeth y glaw ar yr egwyl ac o fewn 9 munud o’r ail-ddechrau – fe newidiodd Warren Gatland ei reng flaen yn llwyr ac fe alwodd ar wasanaeth Dan Edwards fel maswr ar draul Ben Thomas hefyd.
Yn y sgrym gyntaf wedi i Nicky Smith, Keiron Assiratti ac Elliot Dee ddod i’r maes – ildiwyd cic gosb arall i’r Eidalwyr – ond am unwaith fe fethodd Allan gyda’i gic ac yna gydag un arall bum munud yn ddiweddarach.
Ond cadwu’u pennau wnaeth carfan Gonzalo Quesada a pharhau wnaeth diffyg disgyblaeth y Cymry wedi bron i awr o chwarae. Fe gamamserodd Josh Adams ei dacl ar Tommaso Allan – ac ‘roedd ei dîm ddyn yn brin am ddeng munud o ganlyniad i hynny.
Hawliodd Allan ei bedwerydd pwynt ar ddeg o’r prynhawn gyda’i bedwaredd cic gosb lwyddiannus – ac ‘roedd y crysau gleision ar y blaen o dri sgôr o’r herwydd.
Gyda 12 munud ar ôl, ‘roedd Freddy Thomas yn credu ei fod wedi sgorio’i gais cyntaf dros ei wlad – ond nid dyna oedd barn y tîm dyfarnu. Ond gwta munud wedi hynny, fe hawliodd y Cymry eu cais cyntaf o’r ornest a’r Bencampwriaeth pan hyrddiwyd yr eilydd Aaron Wainwraight dros linell gais y gleision.
Wedi i Tommaso Allan hawlio’i 17fed pwynt o’r prynhawn gan ymestyn mantais yr Azzurri i 14 o bwyntiau, ‘roedd hi’n ymddangos bod unrhyw obaith oedd gan Gymru o adfywiad hwyr wedi mynd. Ond gan i Matthew Carley ddynodi cais cosb i’r Crysau Cochion, roedd gan Gymru un cyfle hwyr wrth i’r cloc droi’n goch.
Fe brofodd hynny’n ormod o fynydd i’w ddringo – ac am y tro cyntaf erioed – ‘roedd Yr Eidal wedi curo Cymru ddwywaith o’r bron.
Trydedd buddugoliaeth Yr Eidal yn erbyn Cymru yn Rhufain felly ac ail golled y Cymry ym Mhencampwriaeth eleni.
Er i Gymru hawlio pwynt bonws o’r ornest – diwrnod siomedig arall ar y llwyfan rhyngwladol.
Canlyniad: Yr Eidal 22 Cymru 15.
![](https://d2cx26qpfwuhvu.cloudfront.net/wales/wp-content/uploads/2025/02/08174636/JacMvEidal-300x192.jpg)
Jac Morgan
Wedi’r golled fe ddywedodd Capten Cymru, Jac Morgan: “Ni mor siomedig gyda’r canlyniad heddiw.
“Doedd ein disgyblaeth yn yr hanner cyntaf ddim yn ddigon da – ac fe wnaeth hynny bethau’n anodd iawn i ni.
“Fe ymladdon ni tan y diwedd ac mae’n rhaid i ni gymryd rhywfaint o hyder o hynny wrth i ni edrych ymlaen at y gemau nesaf.”
Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Cymru, Warren Gatland: “Yn amlwg ‘ry’n ni’n siomedig iawn heddiw.
“Doedd ein disgyblaeth ddim yn ddigon da – yn enwedig yn ystod yr hanner cyntaf. Ar un adeg yn ystod y gêm ‘roedden ni wedi cosbi 14 o weithiau o gymharu â’u pedair cic gosb nhw.
“Rhaid canmol Yr Eidal am eu perfformiad a’r modd y cicion nhw’n datcegol gywir – ond ‘ry’n ni’n arbennig o rhwystredig heddiw.”