Neidio i'r prif gynnwys
Brython yn gorffen yn bedwerydd wedi iddynt guro Glasgow am yr eildro

Gabby Healan sgoriodd un o chwe chais Brython Thunder.

Brython yn gorffen yn bedwerydd wedi iddynt guro Glasgow am yr eildro

Wrth gyflawni’r dwbl dros Glasgow o fewn wythnos fe ddaeth ail ymgyrch Brython Thunder yn yr Her Geltaidd i ben ar nodyn cadarnhaol ar Barc y Scarlets.

Rhannu:

Fe gyfrannodd chwe chais y Cymry at fuddugoliaeth o 34-22 wythnos wedi i garfan Ashley Beck ennill o 33-17 yn Glasgow  – ac fe sicrhaodd trydedd buddugoliaeth y tîm o’r tymor eu bod yn gorffen eu hymgyrch yn y pedwerydd safle.

Fe ddechreuodd Brython Thunder yn hyderus ac wedi i’r blaenwyr barchu ac ail-gylchu’r meddiant yn effeithiol, fe grëwyd lle i’r asgellwr Eleanor Hing sgorio ei hail gais o’r ymgyrch a rhoi’r dechrau delfrydol i’r tîm cartref yn y broses.

Mae wyth o chwaraewyr Brython wedi eu dewis yng ngharfan Cymru ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad sydd ar y gorwel. Un o’r rheiny yw’r prop pen tynn Cadi-Lois Davies ac yn anffodus – wedi chwe munud yn unig o chwarae – bu’n rhaid iddi adael y maes gydag anaf i’w phen-glin.

Aelod arall o garfan ryngwladol Sean Lynn yw Hannah Bluck – a gyda dim ond 9 munud ar y cloc – fe ddaeth y canolwr o hyd i fwlch yn amddiffyn yr ymwelwyr – ac fe groesodd prif sgoriwr ceisiau Brython y tymor hwn am y pumed tro.

Llwyddodd Hanna Marshall gyda’r trosiad i agor bwlch o 12 pwynt rhwng y timau wedi dim ond 10 munud o chwarae.

Efallai bod yr ymwelwyr wedi dechrau’n araf gan bod eu bws wedi cyrraedd Parc y Scarlets hanner awr yn hwyr – ond wedi chwarter awr o’r gêm fe ddeffron nhw rywfaint. Wedi i’r blaenwyr wneud y gwaith caib a rhaw fe arweiniodd pas ddeallus Briar McNamara at gais i’w chyd-ganolwr Nicole Flynn – a McNamara ei hun ychwanegodd y trosiad.

‘Roedd Prif Hyfforddwr Brython Thunder, Ashley Beck wedi pwysleisio pwysigrwydd perfformio’n dda a sicrhau buddugoliaeth ar benwythnos olaf y Bencampwriaeth – ac fe lwyddodd y Crysau Cochion i ail-sefydlu eu goruchafiaeth yn fuan iawn wedi ildio.

O fewn cyfnod o bedwar munud – ‘roedd y Cymry wedi sicrhau pwynt bonws – wedi i’r cefnwr Hannah Lane groesi’n y gornel – ac wedi i’r canolwr Gabby Healan groesi am bedwerydd cais ei thîm wedi ei rhediad cofiadwy a’i ffug-bas glyfar.

Yn dilyn ail drosiad Marshall ‘roedd y bwlch rhwng y timau’n ddau bwynt ar bymtheg.

Serch hynny, Glasgow gafodd y gair olaf yn ystod y cyfnod cyntaf a’u tro nhw oedd croesi am ddau gais o fewn ychydig funudau.

Wedi cyfnod hirfaith o fygwth llinell gais Brython Thunder, fe groesodd yr asgellwr Emily Norval am gais cofiadwy’n y gornel – ac yna gyda symudiad olaf y cyfnod cyntaf, fe ddangosodd y prop Poppy Fletcher ei dwylo dawnus a’i chryfder i  gau’r pwynt i 7 pwynt wrth droi.

Ashley Beck.

Mae’n amlwg bod geiriau Ashley Beck yn yr ystafell newid yn ystod yr egwyl – yn dal i atseinio yng nghlustiau ei chwaraewyr ar ddechrau’r ail hanner – gan mai dim ond chwe munud gymrodd hi i Catrin Jones ddal ei gafael ar y bêl i sgorio pumed cais ei thîm.

Fyddai Beck ddim wedi bod yn hapus gydag amddiffyn caredig ei dîm dri munud yn ddiweddarach gan i Orla Proctor fynd heibio dwy mewn crys coch i gau’r bwlch unwaith eto a hawlio pwynt bonws i’w thîm hefyd.

Er bod Glasgow ar waelod y tabl ar ddechrau’r diwrnod – fe wrthodon nhw ildio – ond er eu holl ymdrechion, Brython gafodd y gair olaf wrth i Hannah Lane groesi am yr eildro dri munud yn unig cyn y chwiban olaf i gadarnhau’r fuddugoliaeth glos ond bwysig hon i’r clwb cartref.

Wedi dechrau anodd i’w hail ymgyrch yn yr Her Geltaidd – diweddglo cadarnhaol iawn i’r tymor felly i Brython Thunder wrth iddyn nhw orffen y tymor yn bedwerydd yn y tabl.

Yn dilyn y chwiban olaf, dywedodd Seren y Gêm, Seren Singleton: “Roedd ymdrech y tîm yn wych eto heddiw – ac ‘roedd gorffen y tymor gyda buddugoliaeth o flaen ein cefnogwyr ein hunain yn braf iawn.

“Rwy’n ferch leol ac felly ‘roedd dod â’r tymor i ben o flaen ffrindiau a theulu’n brofiad arbennig.”

Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Brython Thunder, Ashley Beck: “Fe ddechreuon ni’n dda yn ystod yr 20 munud cyntaf ond mae’n rhaid canmol Glasgow. ‘Dy’n nhw byth yn rhoi’r ffidil yn y to.

“Pan ‘roedden nhw’n rheoli cyfnodau o’r gêm, ‘ro’n i’n gofyn i fy hun – pam bod yn hyfforddwr!

“O ganlyniad i ymdrech ein merched ni – fe gefais yr ateb – gan i ni gyflawni’n bwriad o orffen yn bedwerydd yn y tabl.

“Mae’r Gwyddelod yn llawn chwaraewyr rhyngwladol, tra ‘ry’n ni’n cynnig y profiad cyntaf ar y lefel yma i nifer o’n chwarewyr ni.

“Ry’n ni gyd wedi dysgu llawer iawn y tymor yma – ac mae gorffen gyda buddugoliaeth yn deimlad braf iawn.”

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Brython yn gorffen yn bedwerydd wedi iddynt guro Glasgow am yr eildro
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Brython yn gorffen yn bedwerydd wedi iddynt guro Glasgow am yr eildro
Brython yn gorffen yn bedwerydd wedi iddynt guro Glasgow am yr eildro
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Brython yn gorffen yn bedwerydd wedi iddynt guro Glasgow am yr eildro
Rhino Rugby
Sportseen
Brython yn gorffen yn bedwerydd wedi iddynt guro Glasgow am yr eildro
Brython yn gorffen yn bedwerydd wedi iddynt guro Glasgow am yr eildro
Brython yn gorffen yn bedwerydd wedi iddynt guro Glasgow am yr eildro
Brython yn gorffen yn bedwerydd wedi iddynt guro Glasgow am yr eildro
Brython yn gorffen yn bedwerydd wedi iddynt guro Glasgow am yr eildro
Amber Energy
Opro
Brython yn gorffen yn bedwerydd wedi iddynt guro Glasgow am yr eildro