Neidio i'r prif gynnwys
Colled fain i garfan Sean Lynn yn ei gêm gyntaf wrth y llyw

Maisie Davies yn herio Anne Young o'r Alban

Colled fain i garfan Sean Lynn yn ei gêm gyntaf wrth y llyw

Fe ddechreuodd cyfnod Sean Lynn wrth y llyw fel Prif Hyfforddwr Menywod Cymru gyda cholled o 24-21 yn erbyn Yr Alban yng ngêm agoriadol Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 heddiw.

Rhannu:

Dyma oedd y 4ydd tro yn eu 19 gêm Bencampwriaeth ddiwethaf i’r Albanwyr guro’r Cymry – wrth i’r tîm cartref fanteisio ar eu rheolaeth gyson o’r meddiant.

‘Roedd y propiau Jenny Scoble a Maisie Davies yn dechrau eu gêm gyntaf dros eu gwlad – ac yn eu sgrym gyntaf ar y llwyfan rhyngwladol – fe enillodd yr ymwelwyr gic gosb er mai’r Alban oedd â’r meddiant.

Dewis sgrym arall wnaeth Hannah Jones ac fe brofodd hynny i fod yn ddewis doeth gan i Carys Phillips hyrddio ei hun dros y llinell gais i gofnodi sgôr gyntaf teyrnasiad Sean Lynn wrth y llyw. Y bachwr wrth ei bodd ar achlysur ei 80fed cap.

Yr Alban reolodd y meddiant yn llwyr am y 10 munud wedi hynny – ond methiant fu eu holl ymdrechion i ddod o hyd i fwlch yn amddiffyn y Crysau Cochion. Ond wedi i Keira Bevan gael ei chosbi am gamsefyll – fe lwyddodd Helen Nelson gyda’i hymdrech gyntaf o’r prynhawn at y pyst.

Wedi 24 o funudau, ‘roedd y tîm cartref yn credu eu bod wedi troi eu rheolaeth o’r meddiant i fantais ar y sgorfwrdd. Ond er i’r capten Rachel Malcolm godi’n orfoleddus o waelod y pentwr cyrff – penderfyniad y tîm dyfarnu oedd bod camsefyll wedi digwydd yn y sgarmes – ac felly’r Cymry oedd ar y blaen o hyd.

Parhau wnaeth pwyso cyson Yr Alban – ac er i’r Cymry gipio’r meddiant yn ardal y dacl bum gwaith yn ystod y cyfnod cyntaf – y tîm cartref oedd ar y blaen wrth droi.

Gyda dim ond 3 munud o’r hanner cyntaf yn weddill – fe brofodd grym sgarmes symudol Yr Alban yn ormod i amddiffyn y Cymry. Y clo Sarah Bonar sgoriodd gais cyntaf ei gwlad o’r Bencampwriaeth eleni ac fe ychwanegodd Nelson y trosiad hefyd.

Hanner Amser: Yr Alban 10 Cymru 7.

Gan i Georgia Evans droseddu yn nau funud olaf y cyfnod cyntaf, ‘roedd gan yr Albanwyr chwaraewr o fantais ar ddechrau’r ail hanner – a dim ond 93 eiliad wedi troi, ‘roedd Lisa Thomson wedi croesi’r llinell gais. Unwaith yn rhagor, daeth y dyfarnwr teledu i’r adwy o safbwynt Cymru gan iddo dynnu sylw Kat Roche at drosedd yng nghanol y cae’n gynharach yn y symudiad.

Dim ond am ddau funud y parodd yr achubiaeth honno gan i’r canolwr Emma Orr gipio’r meddiant wedi sgarmes yn nwy ar hugain yr ymwelwyr a rhedeg yn glir i gysgod y pyst.

Wedi trydydd trosiad Nelson ‘roedd 10 pwynt yn gwahanu’r timau.

Fe ddychwelodd Georgia Evans i’r maes yn union wedi hynny – ond gwta bedwar munud yn ddiweddarach – fe welodd hi gerdyn melyn arall – y tro hwn am dacl uchel ar gefnwr Yr Alban Chloe Rollie.

Ail gerdyn melyn i Evans – a cherdyn coch iddi o’r herwydd.

Wedi 50 munud o chwarae, daeth Kelsey Jones i’r maes i Gymru am y tro cyntaf ers dros flwyddyn yn dilyn anaf i’w choes. O fewn 5 munud iddi gamu yn ôl i’r llwyfan rhyngwladol – ‘roedd wythwr Yr Alban, Evie Gallagher wedi ei danfon i’r ystlys am dacl anghyfreithlon arni ac uwchraddiwyd y cerdyn i goch yn dilyn yr adolygiad.

Fe gymrodd y clo Abbie Fleming fantais buan o ymadawiad Gallagher wrth iddi sgorio ail gais Cymru o’r ornest.

Wedi ail lwyddiant Bevan at y pyst – triphwynt oedd yn gwahanu’r timau yng nglaw trwm Caeredin.

Gyda chwarter awr ar ôl – fe darodd Yr Alban ergyd sylweddol i obeithion y Cymry wrth i’r eilydd o brop, Leah Bartlett gyffwrdd y gwyngalch yng nghysgod y pyst am drydydd cais ei gwlad.

Parhau wnaeth record berffaith Nelson o gicio’n erbyn Cymru ers dwy flynedd – ac ail sefydlodd mantais ei gwlad o 10 pwynt.

Braf oedd gweld Gwenllïan Pyrs yn ôl yng nghrys coch Cymru wedi anaf i’w gwddf – a gyda 6 munud ar ôl – fe roddodd y prop cydnerth obaith hwyr i ferched Sean Lynn. Triphwynt yn unig oedd yn gwahanu’r timau wedi trydydd trosiad Bevan.

Er i’r ymwelwyr roi popeth dros yr achos ar y diwrnod – fe fethon nhw ddod o hyd i’r un sgôr allweddol olaf ac felly’r Alban yn curo’r Cymry ddwywaith o’r bron am y tro cyntaf ers ugain mlynedd.

Bydd gan Gymru y cyfle i dalu’r pwyth am golled heddiw ymhen 154 o ddyddiau pan fydd y ddau dîm yn wynebu ei gilydd yn eu gêm grŵp yng Nghwpan y Byd.

Canlyniad: Yr Alban 24  Cymru 21

Yn dilyn y gêm yn yr Hive heddiw fe ddywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn: “Er i ni golli heddiw – fe ddangosodd y tîm angerdd a hunan-gred hyd at y chwiban olaf un.

“Dim ond ers chwe niwrod ‘ry’n ni wedi bod gyda’n gilydd fel carfan lawn – ac ‘roedden ni dal o fewn un sgôr ar y diwedd.

“Bydd yn rhaid i ni wella’n taclo’n enwedig, a hithau’n flwyddyn Cwpan y Byd – ond mae ‘na lawer iawn o bethau positif i ddod gan y garfan yma’n y dyfodol.”

Bydd ail gêm Cymru’n y Bencampwriaeth eleni’n cael ei chynnal yn Stadiwm Principality’r Sadwrn nesaf – pan fydd Lloegr yn ymweld â Chaerdydd. Bydd her a hanner yn wynebu Sean Lynn a’i garfan – gan mai Ffrainc yn ôl yn 2018 oedd y tîm diwethaf i atal y Saeson rhag ennill y Bencampwriaeth. Yn wir dyna’r tro diwethaf i Loegr golli unrhyw gêm yn y Chwe Gwlad.

Wedi dweud hynny – bydd hanes yn cael ei greu yn Stadiwm Principality’r penwythnos nesaf – gan y bydd y dorf fwyaf erioed i wylio gêm Menywod Cymru – pan nad oedd y dynion yn chwarae yn yr un lleoliad ar yr un dydd – yn heidio i Gaerdydd.

Mae dros 12,500 o docynnau wedi eu gwerthu – sydd eisoes yn fwy na’r record flaenorol o 10,592 ddaeth i weld Cymru’n curo’r Eidal yng ngêm olaf Pencampwriaeth Chwe Gwlad y llynedd.

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Colled fain i garfan Sean Lynn yn ei gêm gyntaf wrth y llyw
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Colled fain i garfan Sean Lynn yn ei gêm gyntaf wrth y llyw
Colled fain i garfan Sean Lynn yn ei gêm gyntaf wrth y llyw
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Colled fain i garfan Sean Lynn yn ei gêm gyntaf wrth y llyw
Rhino Rugby
Sportseen
Colled fain i garfan Sean Lynn yn ei gêm gyntaf wrth y llyw
Colled fain i garfan Sean Lynn yn ei gêm gyntaf wrth y llyw
Colled fain i garfan Sean Lynn yn ei gêm gyntaf wrth y llyw
Colled fain i garfan Sean Lynn yn ei gêm gyntaf wrth y llyw
Colled fain i garfan Sean Lynn yn ei gêm gyntaf wrth y llyw
Amber Energy
Opro
Colled fain i garfan Sean Lynn yn ei gêm gyntaf wrth y llyw