Bydd y pymtheg chwaraewr ddechreuodd yn erbyn Iwerddon bythefnos yn ôl yn dechrau unwaith eto ym Murrayfield y penwythnos hwn.
Jac Morgan fydd yn arwain y tîm o safle’r blaenasgellwr ochr dywyll gyda’r wythwr Taulupe Faletau a Tommy Reffell yn cwblhau’r rheng ôl.
Y prop pen rhydd Nicky Smith, y bachwr Elliot Dee a’r prop pen tynn WillGriff John sydd wedi eu dewis yn y rheng flaen unwaith eto.
Felly hefyd Will Rowlands a Dafydd Jenkins yn yr ail reng.
Tomos Williams fydd yn gwisgo’r crys rhif 9 a Gareth Anscombe fydd yn bartner iddo fel maswr.
Parhau mae partneriaeth Ben Thomas a Max Llewellyn yng nghanol y cae yn ogystal.
Mae Ellis Mee, enillodd ei gap cyntaf yn erbyn y Gwyddelod yn cadw ei le ar un asgell – Tom Rogers fydd ar yr asgell arall a Blair Murray fydd yn gefnwr unwaith yn rhagor.
Mae dau newid ar y fainc. Un o’r rheiny yw Dewi Lake – fydd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ers 2022 – gan i anafiadau ei atal rhag cymryd rhan yn ystod y ddau dymor diwethaf. Mae’r prop pen tynn Keiron Assiratti’n dychwelyd i’r garfan ar gyfer y gêm hefyd.
Gareth Thomas, Teddy Williams ac Aaron Wainwright fydd yn cynnig yr opsiynau o’r fainc o safbwynt yr wyth blaen.
O safbwynt yr olwyr – Rhodri Williams, Jarrod Evans a Joe Roberts fydd y gobeithio cael eu cyfle fel eilyddion am yr ail gêm o’r bron.
Dywedodd Matt Sherratt said: “Ry’n ni wedi bod yn herio’r garfan i barhau i wella’r wythnos hon.
“Mae’n rhaid i ni gadw’r un dwyster a’r dewrder ddangoson ni’n erbyn Iwerddon – ond gwella ymhellach ar hynny hefyd.
“Ry’n ni gyd yn gyffrous am chwarae’r Alban yng Nghaeredin ac ‘ry’n ni gyd yn awchu am y chwiban gyntaf ddydd Sadwrn.”
Tîm Cymru v Yr Alban
15. Blair Murray (Scarlets – 6 chap)
14. Tom Rogers (Scarlets – 8 cap)
13. Max Llewellyn (Caerloyw – 6 chap)
12. Ben Thomas (Caerdydd – 10 cap)
11. Ellis Mee (Scarlets – 1 cap)
10. Gareth Anscombe (Caerloyw – 40 cap)
9. Tomos Williams (Caerloyw – 62 cap)
1. Nicky Smith (Caerlŷr – 52 cap)
2. Elliot Dee (Dreigiau – 54 cap)
3. WillGriff John (Sale – 3 chap)
4. Will Rowlands (Racing 92 – 39 cap)
5. Dafydd Jenkins (Caerwysg – 21 cap)
6. Jac Morgan (Gweilch – 21 cap) – capten
7. Tommy Reffell (Caerlŷr – 25 cap)
8. Taulupe Faletau (Caerdydd – 106 chap)
Eilyddion
16. Dewi Lake (Gweilch – 18 cap)
17. Gareth Thomas (Gweilch – 38 cap)
18. Keiron Assiratti (Caerdydd – 12 cap)
19. Teddy Williams (Caerdydd – 4 cap)
20. Aaron Wainwright (Dreigiau – 55 cap)
21. Rhodri Williams (Dreigiau – 7 cap)
22. Jarrod Evans (Harlequins – 9 cap)
23. Joe Roberts (Scarlets – 3 chap)