Bydd y gic gyntaf am 7.15pm a bydd y gêm yn fyw ar S4C.
Mae Whiffin wedi gwneud pedwar newid yn ogystal â symud Tom Bowen o’r asgell i safle’r cefnwr yn y gobaith y gall y Cymry ennill tair gêm o’r bron yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers 2017.
Fe wnaeth y maswr Harri Ford ei ymddangosiad cyntaf dros y Dreigiau yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn erbyn Zebre y penwythnos diwethaf ac mae’n cael y cyfle i ddechrau yn ymgyrch tîm o dan 20 Cymru am y tro cyntaf y tymor yma. O’r herwydd bydd Harri Wilde yn dechrau ar y fainc.
Mae canolwr Caerdydd Elijah Evans wedi cael ei ddewis yng nghanol cae ar draul Osian Roberts ac mae’r asgellwr Harry Rees-Weldon yn dychwelyd i’r pymtheg cychwynol – sy’n galluogi Bowen i symud i safle’r cefnwr.
Bydd Deian Gwynne yn dechrau’n y rheng ôl yn lle Dan Gemine gan ei fod wedi gwella o’r anaf olygodd na allodd wynebu’r Gwyddelod.
Dywedodd Richard Whiffin: “Ry’n ni’n dechrau adeiladu dyfnder yn ein carfan ac ‘ry’n ni’n meddwl y gall patrwm y gêm weddu nifer o’n chwaraewyr ni’r penwythnos yma.
“Ry’n ni eisiau i’n chwaraewyr gael eu profi ac felly ‘ry’n ni’n chwilio am berfformiad da nos Wener. Mae Cwpan y Byd yn digwydd ddiwedd y flwyddyn ac felly mae’n rhaid i ni adeiladu ar gyfer hynny a dysgu mwy am holl aelodau’n carfan cyn hynny.”
Gan bod Harri Ford wedi creu argraff o’r fainc yn erbyn Yr Eidal ac Iwerddon, mae Richard Whiffin yn credu ei fod yn haeddu ei gyfle i ddechrau’n erbyn Yr Alban: “Roedden ni’n gwybod ar ddechrau’r Bencampwriaeth y byddai’r ddau faswr yn rhannu’r dyletswyddau yn y crys rhif 10 – a chyfle Harri Ford yw hi’r wythnos hon.
“Mae Harri wedi creu argraff arbennig o’r fainc ac mae wedi gosod ei stamp ei hun ar y gemau hyd yma. Mae wedi cicio’n dda tuag at y pyst ond mae’n rhaid cofio bod dechrau gêm yn cynnig heriau gwahanol o gymharu â chamu o’r fainc ac ‘rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld sut y bydd Harri’n ymateb i’r cyfrifoldeb a’r her.”
Er mai Cymru fydd y ffefrynnau o drwch blewyn nos Wener, mae Richard Whiffin yn ymwybodol iawn o gryfder yr Albanwyr: “Does dim amheuaeth y bydd Yr Alban yn cynnig her anodd a chorfforol i ni. Mae pob gêm oddi-cartref yn galed iawn a gan mai hon fydd eu gêm gartref olaf nhw yn y Bencampwriaeth eleni – fe fyddan nhw ar dân i geisio ein curo.
“Mae gan Yr Alban ambell chwaraewr allweddol sy’n gallu eu gosod ar y droed flaen – felly bydd yn bwysig iawn i ni weithio’n galed i’w cadw’n dawel – fel y gallwn ni osod ein stamp ein hunain ar y gêm a gweithredu ein cynlluniau ni ar gyfer yr ornest.”
Cymru D20 v Yr Alban D20,Stadiwm Hive Gwener 7 Mawrth, 7.15pm
15 Tom Bowen (Caerdydd)
14 Harry Rees-Weldon (Dreigiau)
13 Elijah Evans (Caerdydd)
12 Steff Emanuel (Caerdydd)
11 Aidan Boshoff (Bryste)
10 Harri Ford (Dreigiau)
9 Logan Franklin (Dreigiau);
1 Ioan Emanuel (Caerfaddon)
2 Harry Thomas (Scarlets)
3 Sam Scott (Bryste)
4 Kenzie Jenkins (Bryste)
5 Tom Cottle (Rygbi Gogledd Cymru)
6 Deian Gwynne (Caerloyw)
7 Harry Beddall (Caerlŷr) (c)
8 Evan Minto (Dreigiau)
Eilyddion
16 Evan Wood (Met Caerdydd)
17 Louie Trevett (Bryste)
18 Owain James (Dreigiau)
19 Luke Evans (Caerwysg)
20 Caio James (Caerloyw)
21 Sion Davies (Caerdydd)
22 Harri Wilde (Caerdydd)
23 Elis Price (Scarlets)