Mae Murphy’n adnabod Prif Hyfforddwr newydd y garfan Sean Lynn yn dda – gan bod clwb Hartpury/Caerloyw newydd ennill y Bencampwriaeth yn Lloegr am y trydydd tymor o’r bron.
Bydd Dan Murphy yn gyfrifol am amddiffyn Cymru trwy gydol y Chwe Gwlad eleni a bydd yn ymuno gyda Shaun Connor (Hyfforddwr Ymosod) a Mike Hill (Hyfforddwr y Blaenwyr) ar gyfer ymgyrch y Cymry ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025.
Mae gan Murphy brofiad blaenorol o weithio o fewn gêm y menywod yng Nghymru gan iddo fod yn aelod o dîm hyfforddi’r tîm o dan 20 o dan arweiniad Liza Burgess.
Bu Dan Murphy’n brop gyda Chaerloyw, yr Harlequins a’r Gwyddelod yn Llundain yn ystod ei ddyddiau chwarae – ac ers iddo ymuno â thîm hyfforddi Hartpury/Caerloyw – maen nhw wedi ennill y Bencampwriaeth yn Lloegr am dri thymor yn olynol.
Ar hyn o bryd mae Murphy’n Brif Hyfforddwr tîm dynion Coleg Hartpury ym Mhencampwriaeth y Colegau hefyd.
Dywedodd Dan Murphy, Hyfforddwr Amddiffyn Menywod Cymru: “Roedd y cyfle yma i weithio ar y llwyfan rhyngwladol gan wneud hynny gyda Sean yn gyfle rhy dda i’w wrthod.
“Mae Sean yn Gymro angerddol ac ‘rwy’n gwybod pa mor gyffrous yw e’ am arwain Cymru’n y Chwe Gwlad eleni. Mae bod yn aelod o dîm hyfforddi Sean ar gyfer yr antur yma’n rhywbeth ‘rwy’n edrych ymlaen yn fawr ato.
“Ry’n ni wedi mwynhau llwyddiant diweddar gyda’n gilydd yn Hartpury/Caerloyw ac mae’r ffaith bod nifer o ferched Cymru gyda ni yn y clwb yn mynd i fod yn help mawr i ni.
“Y chwarewyr eu hunain sy’n bennaf gyfrifol am ein llwyddiant ni dros y blynyddoedd diwethaf a’r ffaith eu bod yn gweithio mor galed dros ei gilydd.”
Ychwanegodd Prif Hyfforddwr Menywod Cymru, Sean Lynn: “Rwy’n adnabod Dan yn dda wrth gydweithio gydag ef yn y clwb. Mae ei gyfraniad wedi bod yn allweddol i’n llwyddiant diweddar ac mae ei agwedd iach tuag at ei waith yn dylanwadu ar y chwaraewyr o’i amgylch.
“Mae’r ffaith ei fod wedi chwarae rygbi’n broffesiynol yn golygu bod ganddo safonau uchel – a’i feddylfryd yw gwneud popeth dros y chwaraewyr a’r tîm.”
Wedi buddugoliaeth Hartpury/Caerloyw yn Rownd Derfynol y Bencampwriaeth dros y penwythnos – bydd Dan Murphy’n ymuno â charfan Cymru’n ystod yr wythnos baratoadol ar gyfer gêm agoriadol Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 yn Yr Alban ddydd Sadwrn.