Dyma oedd y tro cyntaf i’r Cymry guro’r Hen Elyn ar y lefel hon mewn pum gêm ac ‘roedd y dorf o 8,125 yn record ar gyfer gornest gartref i Gymru.
Yr wythnos ddiwethaf bu’n rhaid i’r Cymry chwarae am gyfnodau o’r ornest yn erbyn Yr Alban gyda dim ond tri dyn ar ddeg – a dyna oedd hanes Lloegr yn ystod 10 munud olaf y gêm gofiadwy hon ar Barc yr Arfau.
Er y siom o golli yng Nghaeredin wythnos yn ôl – ‘roedd y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon yn unig gêm gartref arall y Cymry ifanc yn hynod galed a chofiadwy – ond ‘roedd perfformiad bechgyn Richard Whiffin heno’n well na hynny hyd yn oed.
‘Roedd y Saeson wedi ennill eu pedair gêm agoriadol eleni cyn ymweld â’r Brifddinas ac fe ddechreuon nhw’r ornest heno ar garlam hefyd. Dim ond 3 munud gymrodd hi i’r bachwr Kepu Tuipulotu – brawd iau prop Menywod Cymru Sisilia – greu cais syml i’r prop Ralph McEachran yng nghysgod y pyst.
Ychwanegodd Ben Coen ddeubwynt ac fe gryfhaodd yr ymwelwyr eu gafael ar y gêm wedi 12 munud pan ddangoswyd y cerdyn melyn i Dan Germine am droseddu cyson yn ardal y dacl.
Teg yw dweud mai’r ymwelwyr oedd fwyaf bygythiol yn ystod y cyfnod cyntaf – ond fe werthfawrogodd y record o dorf ar Barc yr Arfau ymderch amddiffynol arwrol y bechgyn mewn coch.
Cyfnewid ciciau cosb wnaeth Coen a Harri Wilde tan bum munud olaf y cyfnod cyntaf – ac er bod y Saeson wedi bod ar y blaen o 13-3 am gyfnod – ‘roedd pethau’n gwbl gyfartal wrth droi.
Digwyddodd hynny o ganlyniad i ail gais unigol cofiadwy’r canolwr Steff Emanuel o’r Bencampwriaeth wrth i’w weledigaeth a’i gyflymdra hawlio cais cynta’r Cymry o’r noson.
Yn dilyn trosiad Harri Wilde – ‘roedd pethau’n gwbl gyfartal er bod yr ymwelwyr wedi mwynhau 60% o’r meddiant a 58% o’r tir cyn troi.
Wedi dim ond dau funud o’r ail gyfnod – ‘roedd y tîm cartref ar y blaen wrth i Harri Wilde ryddhau Harry Rees-Weldon i garlamu am 20 metr cyn tirio’n y gornel yn gyfrwys gydag un llaw.
Wedi trosiad Wilde o’r ystlys – ‘roedd y Cymry ar y blaen o 20-13 ac ‘roedd y Saeson yn crafu eu pennau am y ffaith eu bod nhw ar ei hôl hi.
Gyda 10 munud ar ôl – fe gadwodd Wilde ei ben unwaith yn rhagor gyda’i gic gosb gywir – oedd yn golygu bod Cymru ar y blaen o ddwy sgôr.
Wrth fentro a thaflu popeth at y tîm cartref – fe gollodd y Saeson eu pennau i raddau – gostiodd yn ddrud iddyn nhw yn y pendraw.
Danfonwyd Jack Bracken i’r cell cosb i ddechrau am daclo Aiden Boshoff yn yr awyr a chyn diwedd yr ornest – fe ymunodd Ainsworth Cave gydag ef ar yr ystlys am ddigwyddiad oddi ar y bêl.
Lloegr o’r herwydd yn gorffen eu hymgyrch gyda thri dyn ar ddeg.
Amlygwyd rhwystredigaeth y Saeson ymhellach wrth i ambell un golli limpyn yn y ddau funud olaf – ond mynd o blaid y Cymry wnaeth hynny wrth i’r cloc dician yn nes at y chwiban olaf.
A do – gwelwyd dathlu mawr ar Barc yr Arfau ar y chwiban olaf wrth i Gymru ennill o 10 pwynt.
Ar ddiwedd yr ymgyrch – ennill tair o’u pum gêm fu hanes bechgyn Richard Whiffin a gorffen yn y trydydd safle o’r herwydd – ond gan nad oedd Lloegr wedi colli yn eu 9 gornest ddiwethaf yn y Chwe Gwlad ar y lefel yma cyn ymweld â Pharc yr Arfau – mae’r canlyniad yma’n arwydd clir o ddatblygiad Richard Whiffin a’i garfan gyffrous.
Wedi’r chwiban olaf – dywedodd Seren y Gêm – bachwr Cymru Harry Thomas: “Roedd cefnogaeth y dorf heno’n anhygoel. Fe roddon nhw hyder i ni fel tîm ac fe sicrhaon ni fuddugoliaeth enfawr heno.
“Hoffwn ddiolch o waelod calon i bob un cefnogwr helpodd ni i weithio’n galetach fyth i wneud yn siwr ein bod yn ennill heno.
“Roedd chwarae o’u blaenau – ac ennill heno yn ‘class’.
“Dyma’r profiad gorau un ‘wryf erioed wedi ei gael ar faes rygbi. Diolch i bawb ddaeth i’n cefnogi ni heno.”