Ar un ystyr – mae hynny’n gryder wrth gwrs gan bod gwir ots gan bobl Cymru am y gamp sy’n golygu gymaint, i gymaint o bobl. Dyna pam ‘rwy’n gwrando ar bob cwyn ac yn wynebu pob her.
Byddwn yn gwrando’n ddi-ffuant ar bob barn a byddwn yn parhau i weithio’n ddi-flino er mwyn gwireddu egwyddorion ein strategaeth’Cymru’n Un’ – fydd yn gwarchod a thyfu’n gêm ar gyfer y dyfodol.
Mae’n hawdd lladd ar rygbi Cymru mewn ffordd ‘ffwrdd â hi’. Mae’n rhaid i ni gyfaddef nad yw popeth yn berffaith ar hyn o bryd – ond ‘ry’n ni’n gwybod beth yw’r problemau hynny – ac ‘ry’n ni’n mynd i wynebu’r heriau hynny.
Mae’n rhaid pwysleisio ein bod mewn gwell sefyllfa na’r hyn y mae’r ymdeimlad negyddol sy’n bodoli ar hyn o bryd yn ei awgrymu. Fe fyddwn yn parhau i wella a chryfhau’r gamp yma yng Nghymru.
Pe na byddai unrhyw un yn poeni am gyflwr y gêm yn ein gwlad, pe na byddai unrhyw sylwadau o gwbl ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar raglenni radio – fe fydden ni mewn sefyllfa llawer gwaeth heb amheuaeth.
Mae nifer o’r systemau datblygu presennol wedi wedi bod yn eu lle ers blynyddoedd lawer ac efallai y bydd y gwelliannau yr ydym eisoes wedi eu gosod yn eu lle’n cymryd rhywfaint o amser i ddwyn ffrwyth. Fe fydd hynny’n digwydd yn y pendraw ac fe fydd Cymru’n rym gwirioneddol unwaith eto ar lwyfan y byd rygbi.
Ni all unrhyw eiriau yn y neges hon newid y canlyniad ddydd Sadwrn. Efallai bod ein gweithredoedd yn y gorffennol fel Undeb – cyn i’n strategaeth newydd gael ei chyflwyno – wedi arwain at y canlyniad siomedig hwnnw.
‘Rwy’n ysgrifennu’r llythyr agored hwn at holl gefnogwyr rygbi Cymru i rannu’r siom a’r boen yr ydym i gyd o fewn Undeb Rygbi Cymru – a chithau fel cefnogwyr – yn ei deimlo ar hyn o bryd.
‘Roedd hi’n golled drom dros y penwythnos, sydd wedi arwain at ymatebion llafar ac emosiynol ledled y wlad – o glybiau rygbi, tafarndai, cartrefi, ysgolion a swyddfeydd ar hyd a lled Cymru.
‘Beth yw’r ffordd ymlaen ?’ yw’r cwestiwn amlwg a ‘Sut ‘ryn ni wedi cyrraedd y sefyllfa yma?’
‘Rwy’n rhannu’r un rhwystredigaeth â chi ond hoffwn eich sicrhau bod gennym bethau o dan reolaeth.
Mae’n rhaid i mi achub ar y cyfle yma i estyn fy niolch i Matt Sherratt, TR Thomas, Adam Jones a gweddill yr hyfforddwyr a’r staff gododd galon y genedl am gyfnodau’n ystod y gemau’n erbyn Iwerddon a’r Alban.
Nid eu bai nhw oedd y golled yn erbyn y Saeson. Nid bai’r chwarewyr oedd hynny chwaith gan iddynt roi popeth dros yr achos trwy gydaol yr ymgyrch, er gwaetha’r rhediad siomedig o ganlyniadau.
Cyfrifoldeb yr Undeb – a hynny dros gyfnod o amser – yw’r methiannau diweddar yma ar y llwyfan rhyngwladol. Mae’n bosib i fy rhagflaenwyr yn yr Undeb fynd i’r cyfeiriad anghywir gydag ambell benderfyniad yn wyneb y dasg enfawr oedd yn eu hwynebu. Ond hoffwn eich sicrhau – yr ydym yn gwneud rhywbeth yn ei gylch!
Mae gennym nifer fawr o’r bobl gywir i arwain y newid cyfeiriad angenrheidiol yma’n effeithiol, eisoes yn eu lle. Mae aelodau’n Bwrdd yn bobl broffesiynol ac mae ein staff gweithredol a’r drefn weinyddol mwy effeithiol sydd eisoes wedi ei chyflwyno’n mynd i gael dylanwad cadarnhaol. Mae angen gwelliant pellach wrth gwrs a bydd pobl arbenigol eraill yn ymuno gyda ni’n fuan.
Mae gennym gynllun ar gyfer dyfodol y gêm yma yng Nghymru a byddwn yn gweld cynnydd pendant hyd at 2029 ac wedi hynny hefyd.
Mae gennym nifer o gyhoeddiadau cadarnhaol ar y gweill – ac mae’n gobeithion yn uchel am yr hyn y gall y bobl newydd yma eu cynnig i ni. Bydd eu penodiadau’n dangos i bawb bod ein cynllun o gryfhau cyflwr y gamp ar waith.
‘Rydym hefyd yn cyflwyno gwir newid i’r gefnogaeth sydd ar gael i’n clybiau cymunedol, ein clybiau proffesiynol a’n llwybrau datblygu ar gyfer ein chwaraewyr hefyd.
Byddwn yn cyhoeddi ein Cyfarwyddwr Rygbi newydd yn y dyfodol agos ac yn fuan wedyn bydd penodiad Prif Hyfforddwr y Dynion yn cael ei gadarnhau. ‘Rydym hefyd ar fin penodi ein Prif Swyddog Twf newydd a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus ar gyfer y tair swydd bwysig hon yn ein cynorthwyo i godi eto.
Byddwn hefyd yn cyhoeddi cytundeb newydd gyda’r Sefydliad Rygbi Proffesiynol (PRA25) – sy’n rheoli’r berthynas rhwng yr Undeb a’r pedwar clwb proffesiynol.
Bydd y cytundeb yn sicrhau bod ganddynt fuddsoddiad digonol, fydd yn eu galluogi i fod yn llwyddiannus ar y maes – sef yr hyn yr ydym i gyd yn ei ddyheu amdano. Dim ond cymeradwyaeth derfynol sydd ei hangen cyn cyhoeddi’r cytundeb newydd hwn. Fel y dywed ein strategaeth ‘ Cymru’n Un’.
O safbwynt ein gêm gymunedol, mae gennym gynllun buddsoddi newydd fydd yn sicrhau ffyniant a thwf ar lawr gwlad. Mae swyddogion yr Undeb wedi bod yn rhannu’r weledigaeth hon gyda’n clybiau yn y gwahanol ardaloedd. Yn ogystal, bydd mwy o newyddion am y gêm gymunedol yn cael ei gyhoeddi’n fuan.
O fewn yr Undeb, ‘ry’n ni eisoes wedi targedu ffyrdd penodol o wneud ein busnes yn fwy effeithlon – fydd yn ein galluogi i fod yn sefydliad mwy effeithiol wrth weinyddu’r gamp. Mae aelodau’r Bwrdd – yn goruchwylio’r broses hon yn graff ar bob cam o’r ffordd.
Fe drödd rygbi’n gamp broffesiynol mewn egwyddor ym 1996 – ond ymhen amser bydd 2025 yn cael ei chofio fel y flwyddyn y cwblhawyd y broses o droi’n wirioneddol broffesiynol. Efallai bod y siwrnai hon wedi cymryd gormod o amser i’w chwblhau – ond mae’r foment fawr ar fin cyrraedd.
Mae’r cynlluniau sydd wedi eu gosod yn eu lle yn mynd i arwain at newid gwirioneddol, effeithiol a chadarnhaol yn hanes ein camp yma yng Nghymru.
Byddaf yn cymryd rhan ar bodlediad Scrum V (BBC Cymru) yn hwyrach y bore ’ma ac yna ar ddarllediad tebyg gyda Wales Online yn ddiweddarach yn y dydd. Byddaf yn cadarnhau ein gweledigaeth a’n gweithredoedd yn y darllediadau yma. ‘Rwy’n gobeithio y byddwch yn gallu gwrando arnynt neu ddarllen am yr hyn sy’n cael ei ddweud yn ddiweddarach.
Cyn cymryd rhan yn y podlediadau hynny, ‘roeddwn yn teimlo ei bod hi’n allweddol fy mod yn ysgrifennu’n uniongyrchol atoch chi – gefnogwyr rygbi Cymru – i rannu fy nheimladau ac i egluro’r cynlluniau sydd eisoes ar waith i wella pethau.
Cyn cloi, hoffwn ddymuno’r gorau i dîm Menywod Cymru wrth iddyn nhw baratoi i deithio i’r Alban ar gyfer eu gêm agoriadol yn y Chwe Gwlad eleni ddydd Sadwrn. Bydd yr ail ornest yn yr ymgyrch yn ein gweld yn croesawu Lloegr i Stadiwm Principality – pan ‘ry’n ni’n disgwyl i ambell record o safbwynt y dorf gael eu torri. Fe edrychaf ymlaen at eich gweld chi yno mewn llai na phythefnos.
Mae rygbi merched a menywod yn tyfu’n arbennig o gyflym yma yng Nghymru ar hyn o bryd ac fe welsom record o dorf ar gyfer buddugoliaeth nodedig y Bechgyn o dan 20 yn erbyn Lloegr nos Wener ddiwethaf, pan oedd y Saeson yn hela’r Gamp Lawn.
Er nad oedd gorfoledd nos Wener yn dileu poen y golled ddydd Sadwrn o bellffordd – mae’n bwysig nodi arwyddocâd y canlyniad hwn i’r Bechgyn o dan 20 a’u llongyfarch ar eu llwyddiant.
Diolch am ddarllen neu wrando ar fy sylwadau heddiw. Cadwch y fflam yn fyw a pheidiwch â cholli ffydd na’r angerdd am rygbi Cymru – rhywbeth sydd mor bwysig i ni gyd, os gwelwch yn dda.
Fe fydd y dyfodol yn fwy gobeithiol a chadarnhaol. Bydd ein strategaeth newydd ‘Cymru’n Un’ yn sicrhau hynny.
Abi Tierney
Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru