Yn eu gêm olaf o’r Bencampwriaeth y tymor hwn – her Gwyddelig arall fydd yn wynebu carfan Catrina Nicholas McLaughlin wrth i’r Clovers – sy’n yr ail safle ar hyn o bryd – ymweld ag Ystrad Mynach ddydd Sadwrn (12.00).
Mae gobeithion y Clovers o ennill yr Her Geltaidd yn dal yn fyw ar y penwythnos olaf – ac fe fyddant yn gobeithio ail-adrodd eu buddugoliaeth o drydedd rownd y gemau pan guron nhw Gwalia o 29-7.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Gwalia Lightning, Catrina Nicholas McLaughlin: “Ry’n ni wedi cystadlu’n dda ar y cyfan yn erbyn y ddau dîm o Iwerddon y tymor yma ac mae’n carfan ni’n awchu i orffen ein hymgyrch yn gryf yn erbyn tîm arbennig o effeithiol. Bydd yn gyfle i’n merched ni greu argraff wrth i ni ddechrau meddwl am y tymor nesaf.
“Bydd hefyd yn gyfle olaf i’n chwaraewyr rhyngwladol i ddal llygad Sean Lynn wrth iddo baratoi ar gyfer y Chwe Gwlad.
“Ry’n ni eisiau perffomio’n dda yn erbyn tîm o safon ac mae’r ffaith ein bod yn gwybod y byddwn yn gorffen yn y trydydd safle – beth bynnag fydd canlyniad y penwythnos yma – yn rhoi rhywfaint o ryddid i ni fynegi ein hunain – a gorffen y tymor ar nodyn uchel.”
Bydd capten Gwalia Lightning, Bryonie King yn un o’r chwaraewyr fydd yn gobeithio creu argraff pellach cyn ymuno gyda’r garfan genedlaethol. Felly hefyd ei chyd-chwaraewyr Gwennan Hopkins, Maisie Davies, Molly Reardon, Jenni Scoble, Alaw Pyrs, Lily Terry, Sian Jones, Kerin Lake, Meg Davies, Cath Richards a Jenny Hesketh.
Mae’r Clovers wedi bod yn ddigyfaddawd yn eu dwy gêm yn erbyn Brython Thunder y tymor hwn gan iddynt ennill o 58-0 yn Iwerddon ac yna o 94-7 ar Barc y Scarlets.
Maen nhw ddeubwynt y tu ôl i’r Wolfhounds yn y tabl ar hyn o bryd ac felly fe fyddant yn awyddus i guro Gwalia a sicrhau pwynt bonws i gadw’r pwysau ar eu cyd-Wyddelod.
Ychwanegodd Catrina Nicholas-McLaughlin: “Ry’n ni’n gwybod yn iawn y bydd y Clovers yn taflu popeth atom ni ac felly mae hi’n mynd i fod yn gêm llawn angerdd yn Ystrad Mynach.
“Maen nhw eisiau ennill y Bencampwriaeth – ond ‘ry’n ni eisiau eu curo nhw. Mae hi’n mynd i fod yn dipyn o gêm.”
Mae chwaraewr 7 Bob Ochr Prydain, Cath Richards yn dychwelyd i grys cefnwr Gwalia wedi iddi gystadlu yn Perth a Vancouver. Mae dau newid arall y tu ôl i’r sgrym wrth i Anwen Owens gymryd ei lle yn y canol tra bydd Carys Williams-Morris ar yr asgell dde.
Yn y pac, mae Molly Reardon a Jenni Scoble yn dychwelyd i’r rheng flaen tra bo Lily Terry’n symud o’r rheng ôl i’r ail reng. Mae hynny’n caniatáu i Gwennan Hopkins gymryd ei lle yn nhri ôl y sgrym.
Gwalia Lightning: Cath Richards; Carys Williams-Morris, Kelsie Webster, Anwen Owens, Caitlin Lewis; Carys Hughes, Sian Jones; Maisie Davies, Molly Reardon, Jenni Scoble, Lily Terry, Alaw Pyrs, Gwennan Hopkins, Catrin Stewart, Bryonie King (capten)
Eilyddion: Molly Wakely, Dali Hopkins, Abbey Constable, Erin Jones, Paige Jones, Katie Bevans, Freya Bell, Rhodd Parry