Neidio i'r prif gynnwys
Gŵyliau o dan 18 y Chwe Gwlad yn dychwelyd

Gŵyliau o dan 18 y Chwe Gwlad yn dychwelyd

Bydd Gŵyliau o dan ddeunaw’r Chwe Gwlad yn digwydd eto yn 2025 gyda chystadlu’r Merched yn digwydd yng Ngholeg Wellington yn Lloegr  (Ebrill 11-19) – tra yn Vichy yn Ffrainc (Ebrill 10-18) y bydd gemau’r Bechgyn yn cael eu cynnal.

Rhannu:

Mae’r gŵyliau hyn yn cynnig llwyfan arbennig i ddatblygiad chwaraewyr ifanc, eu hyfforddwyr a’r timau dyfarnu hefyd. Maen nhw’n gyfle campus i bawb sy’n cymryd rhan i brofi rygbi cystadleuol ar y llwyfan rhyngwladol ac i feithrin profiadau a rhannu gwybodaeth hefyd.

Mae’r cystadlaethau o dan 18 hyn yn cynnig llwyfan arbennig i fynediad a datblygiad y rheiny sy’n cymryd rhan ac maen nhw’n arwain y llwybr datblygu at y lefel o dan 20. Wedi hynny y llwyfan rhyngwladol llawn yw’r wobr a’r ddelfryd i bawb wrth gwrs.

Bydd gŵyl y bechgyn eleni’n cynnwys Georgia a Sbaen er mwyn parhau gyda’u twf fel gwledydd sy’n datblygu’n wirioneddol ar y llwyfan rhyngwladol.

Oddi ar y maes, mae’r gŵyliau a’r rygbi ar y gwahanol oedrannau iau yn amlwg yn dal dychymyg y cyhoedd. Fe danysgrifiodd dros 2000 o gefnogwyr newydd ar gyfer sianel YouTube y Bencampwriaeth Chwe Gwlad o dan 20 oed y flwyddyn ddiwethaf – ac fe gafodd y ffrydiau byw o’r gemau ymgysylltiad â bron i dair miliwn o gefnogwyr.

Bydd y sianel honno’n dangos y gemau o’r gŵyliau unwaith eto eleni a bydd cynnwys ychwanegol i’w gael ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Chwe Gwlad hefyd.

Dywedodd Prif Hyfforddwr Merched o dan 18 Cymru, Siwan Lillicrap: “Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i Goleg Wellington ar gyfer y bedwaredd ŵyl o’r math yma. Mae’r datblygiad yn ein merched ni dros y 12 mis diwethaf wedi bod yn drawiadol ac ‘ry’n ni’n edrych ymlaen at eu profi nhw yng Ngŵyl y Chwe Gwlad fis nesaf.”

Richie Pugh fydd yn arwain y bechgyn yn Vichy fis Ebrill ac fe ychwanegodd: “Fe chwaraeon ni’n dda iawn yn erbyn Yr Alban mewn gêm baratoadol y penwythnos diwethaf ac felly ‘ry’n ni’n edrych ymlaen at weld sut y mae’r bois yn ymdopi ar y lefel nesaf o gystadlu yn yr ŵyl hon. Bydd y gemau’n gyfle i’r chwarewyr arddangos eu doniau ac i brofi eu hunain yn erbyn rhai o’r goreuon ar y lefel yma.”

Trefn Gemau’r Merched

Bydd pob tîm yn chwarae dwy gêm 35 munud yr un ar ddiwrnod cyntaf ac ail ddiwrnod y cystadlu cyn chwarae un gêm 70 munud o hyd ar y trydydd diwrnod o gystadlu ffurfiol.

Diwrnod 1 (Gwener Ebrill 11eg) (Gemau 35 mun)

11:00 CYMRU V FFRAINC
12:00 YR ALBAN V CYMRU
13:00 Ffrainc v Yr Alban
15:00 Yr Eidal v Yr Alban
16:00 Iwerddon v Yr Eidal
17:00 Lloegr v Iwerddon

Diwrnod 2 (Mawrth Ebrill 15ed) (Gemau 35 mun)

11:00 CYMRU V LLOEGR
12:00 Lloegr v Yr Alban
13:00 YR EIDAL V CYMRU
15:00 Yr Alban v Iwerddon
16:00 Yr Eidal v Ffrainc
17:00 Ffrainc v Iwerddon

Diwrnod 3 (Sadwrn Ebrill 19eg) (Gemau 70 mun)

12:00 IWERDDON V CYMRU
14:15 Lloegr v Ffrainc
16:30 Yr Eidal v Yr Alban

Trefn Gemau’r Bechgyn

Bydd pob tîm yn chwarae un gêm 70 munud o hyd ar bob diwrnod gêm swyddogol gyda chyfanswn o bedair gêm yn digwydd ar bob un o’r dyddiau hynny.

Diwrnod 1 (Iau Ebrill 10fed) (Gemau 70 mun)

11:00 Georgia v Yr Eidal
13:15 Lloegr v Yr Alban
16:15 Ffrainc v Sbaen
18:30 CYMRU V IWERDDON

Diwrnod 2 (Llun Ebrill 14eg) (Gemau 70 mun)

11:00 Sbaen v Lloegr
13:15 Yr Eidal v Ffrainc
16:15 Iwerddon v Yr Alban
18:30 GEORGIA V CYMRU

Diwrnod 3 (Gwener Ebrill 18fed) (Gemau 70 mun)

11:00 CYMRU V YR EIDAL
13:15 Iwerddon v Georgia
16:15 Yr Alban v Sbaen
18:30 Ffrainc v Lloegr

*Amseroedd lleol yn Ffrainc

Partneriaid a Chyflenwyr

Prif Partneriaid
Principality
Admiral
Gŵyliau o dan 18 y Chwe Gwlad yn dychwelyd
Vodafone
Go.Compare
Partneriaid swyddogol darlledu
S4C
BBC Cymru/Wales
Partneriaid Swyddogol
Isuzu
Gullivers
Gŵyliau o dan 18 y Chwe Gwlad yn dychwelyd
Gŵyliau o dan 18 y Chwe Gwlad yn dychwelyd
Cyflenwyr swyddogol
Gilbert
Gŵyliau o dan 18 y Chwe Gwlad yn dychwelyd
Rhino Rugby
Sportseen
Gŵyliau o dan 18 y Chwe Gwlad yn dychwelyd
Gŵyliau o dan 18 y Chwe Gwlad yn dychwelyd
Gŵyliau o dan 18 y Chwe Gwlad yn dychwelyd
Gŵyliau o dan 18 y Chwe Gwlad yn dychwelyd
Gŵyliau o dan 18 y Chwe Gwlad yn dychwelyd
Amber Energy
Opro
Gŵyliau o dan 18 y Chwe Gwlad yn dychwelyd