Er bod Gwŷr y Dur ar ei hôl hi o 19-12 ar yr egwyl yn erbyn Abertawe’n yn eu gêm olaf yng Ngrŵp B – fe daron nhw’n ôl er mwyn parhau gyda’u record ddi-guro a hawlio’u lle yn Ffeinal y Cwpan o’r herwydd.
Gan bod Llanymddyfri wedi hawlio un pwynt yn fwy na Glyn Ebwy yn y gemau grŵp – bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal ar Fanc yr Egwlys nos Iau. Dathlu’n erbyn y Dewiniaid oedd y Porthmyn yn eu gêm grŵp olaf nhw. Wrth drechu Aberafan o 40-33 fe hawliodd Llanymddyfri eu lle ar frig Grŵp A gyda 22 o bwyntiau.
Dywedodd Jason Strange, Prif Hyfforddwr Glyn Ebwy: “Mae’n rhaid i chi ddysgu o’ch colledion a’r tymor diwethaf fe gollon ni yn erbyn Casnewydd yn rownd gynderfynol y Cwpan ac fe’n curwyd gan Lanymddyfri yn rownd gynderfynol yr Uwch Gynghrair – dwy golled boenus iawn.
“Wedi dweud hynny mae’r grŵp yma o chwaraewyr sydd gennym yn y garfan wedi bod gyda ni ers tua tair blynedd bellach ac maen nhw wedi datblygu llawer yn ystod y cyfnod hwnnw.
“Maen nhw wedi chwarae tua 50-60 o gemau gyda’i gilydd erbyn hyn ac mae eu datblygiad yn amlwg.
“Ry’n ni’n gwybod yn iawn y bydd hi’n gêm galed iawn i ni yn erbyn Llanymddyfri – yn enwedig felly ar eu tomen eu hunain.
Mae ganddyn nhw lawer o chwaraewyr arbennig o dda – ond ‘ry’n ni wedi eu curo ddwywaith yn barod y tymor yma.”
Y tro diwethaf i Lyn Ebwy fod yn rownd derfynol unrhyw gystadleuaeth gwpan oedd nôl ym 1988 – pan oedd Jason Strange ei hun yn faswr dros Wŷr y Dur yn erbyn Llanelli yn Ffeinal y Cwpan Cenedlaethol – gynhaliwyd yn Ashton Gate ym Mryste tra ‘roedd y Stadiwm Genedlaethol yn cael ei hadeiladu.
Y Scarlets gipiodd y Cwpan y diwrnod hwnnw o ganlyniad i gais hwyr a chofiadwy’r prop Martyn Madden – ac felly 27 mlynedd yn ddiweddarach mae gan Strange gyfle arall i ennill Cwpan – ond fel hyfforddwr y tro hwn;
“Dy’n ni fel clwb heb ennill unrhyw gystadleuaeth ers 2016 pan enillon ni’r Uwch Gynghrair – ac felly byddai’n arbennig o braf gallu codi tlws unwaith eto.”