Er colli o 35-29 yn erbyn Yr Alban, fe sicrhaodd y Cymry ddau bwynt bonws hwyr yng Nghaeredin y Sadwrn diwethaf cyn iddyn nhw ddod â’u hymgyrch i ben yn Stadiwm Principality’r Sadwrn yma.
Mae pob tocyn wedi ei werthu ar gyfer ymweliad Lloegr â Chaerdydd ac mae Dafydd Jenkins yn credu y gall perfformiad Jac Morgan fod yn allweddol yn erbyn y Saeson: “Mae gweld Jac yn gwneud pethau arbennig ar y maes yn fy ysbrydoli i – a gweddill y garfan hefyd. Mae’n dangos i ni sut y gallwn ni fod fel tîm yn y dyfodol ac mae’n rhoi gobaith i ni y gallwn ni ennill y Bencampwriaeth yn y dyfodol.
“Mae’n chwaraewr anhygoel wrth gwrs ond mae’n berson hyfryd a diymhongar hefyd.
“Rwyf wrth fy modd chwarae gyda Jac a chwarae iddo hefyd.
“Mae e’ wastad yn rhoi popeth ar y cae ac mewn unrhyw gêm yn erbyn unrhyw dîm – fe fydd un o’r chwaraewyr gorau ar y maes.
“Mae cael chwaraewyr a phobl o ansawdd Jac, Toby a Tomos yn ein symud i’r cyfeiriad cywir. Ond ar hyn o bryd mae Jac ar lefel arall.
“Fe yw’r rhif 7 gorau ym Mhrydain ar hyn o bryd – ac mae’n rhaid iddo fynd ar daith y Llewod.”
Mae Dafydd Jenkins wedi gweld gwelliant mawr mewn agweddau o chwarae Cymru yn ystod y ddwy gêm ddiwethaf ac mae’n talu teyrnged i’r Prif Hyfforddwr Dros Dro Matt Sherratt am hynny:
“Mae Matt Sherratt a’i staff wedi ein gwneud yn fwy effeithiol a mentrus wrth ymosod – ac ymhlith y blaenwyr, ‘ry’n ni’n cryfhau ac yn dechrau cael y gorau ar ein gwrthwynebwyr o safbwynt y chwarae gosod, sy’n addawol ac yn rhoi hyder i ni.
“Mae pawb yn y garfan yn hollol ymwybodol o’r rhediad ‘ry’n ni arno o safbwynt y colledion – ond mae pethau cadarnhaol yn digwydd hefyd.”
‘Roedd perfformiad Jenkins ei hun ym Murrayfield yn arbennig o gadarnhaol wrth iddo wneud 28 tacl ac ennill 8 lein:
“Roedd dod nôl i’r garfan ar gyfer y Bencampwriaeth wedi anaf hirdymor yn anodd – ond ‘rwy’n hapus gyda’r ffordd ‘rwy’n chwarae ar hyn o bryd. Wedi dweud hynny mae gennyf lawer iawn o waith i’w wneud o hyd os ydw i am gael fy ystyried yn un o chwaraewyr gorau’r byd yn fy safle.
“Rwy’n gweithio’n galed ym mhob gêm a ‘dyw symbylu fy hun i wneud shifft caled o waith ddim yn broblem – gan fy mod yn freintiedig i gael y cyfle i chwarae dros fy ngwlad, fy nheulu a fy ffrindiau.
“Mae cael fy nghorff yn barod i chwarae gemau caled yn agos at ei gilydd yn gallu bod ychydig yn fwy heriol. Dyna’r peth anodd i ddweud y gwir.”
Yr ornest yn erbyn Iwerddon oedd y tro cyntaf i Dafydd Jenkins chwarae gêm gartref ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ac mae’n edrych ymlaen y fawr at brofi’r wefr honno unwaith eto’n erbyn Lloegr y penwythnos hwn:
“Roedd hwnnw’n dipyn o achlysur ond mae ymweliad y Saeson yn mynd i fod hyd yn oed fwy fyth.
“Mae herio’r Hen Elyn yn y Stadiwm wedi bod yn freuddwyd ers i mi fod yn grwt ac er y gallan nhw ennill y Bencampwriaeth y Sadwrn yma – allwn ni ddim gadael i hynny ddigwydd yma ar ein tomen ein hunain.”