Mae Hawkins, sydd bellach yn 22 oed, yn gallu chwarae fel maswr neu ganolwr ac fe gafodd ei ddatblygu’n wreiddiol drwy system y Gweilch. Aeth ymlaen i gynrychioli timau iau Cymru cyn ennill ei gap llawn cyntaf yn erbyn Awstralia yn ystod Cyfres yr Hydref yn 2022.
Cymaint oedd ei addewid – fe gafodd ei ddewis i gynrychioli tîm o dan 20 Cymru – ac yntau ond yn 17 oed.
Wedi hynny fe chwaraeodd dros ei wlad bedair gwaith yn ystod Pencampwriaeth Chwe Gwlad 2023.
Yn ystod ei gyfnod gyda Chaerwysg – fe gynrychiolodd y clwb 33 o weithiau gan gynnwys y fuddugoliaeth yn erbyn yr Ealing Trailfinders y penwythnos diwethaf – sicrhaodd le i dîm Rob Baxter yn Rownd Derfynol yr Uwch Gynghrair.
Dywedodd Prif Hyfforddwr y Scarlets Dwayne Peel: “Mae gan Joe lawer o botensial fel chwaraewr ac ‘ry’n ni wrth ein bodd i ddod â fe adre’ ac atom ni i’r Scarlets. ‘Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at ei groesawu i Barc y Scarlets ac i’w weld yn serennu yng nghrys y Scarlets.”
Ychwanegodd Joe Hawkins:”Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at fod nôl adre’ ac fe wnaf fy ngorau gyda’r Scarlets.
“Wrth wylio’r tîm a siarad gyda Dwayne, mae steil y Scarlets o chwarae rygbi yn gyffrous ac yn apelio ata’i.
“Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at geisio gwneud cyfraniad at y garfan addawol yma’r tymor nesaf – ac wrth gwrs dwi’n edrych ymlaen at chwarae o flaen cefnogwyr angerddol Parc y Scarlets wrth i mi ddechrau pennod newydd yn fy ngyrfa rygbi.”