Dal i aros am fuddugoliaeth mewn unrhyw rownd derfynol ers blynyddoedd maith mae’r Gwŷr Dur. Yn wir doedden nhw heb ymddangos mewn unrhyw ffeinal ers colli’n erbyn Llanelli yng Nghwpan Cymru ym Mryste ym 1998. ‘Roedd siom eu colled heno’n fwy poenus fyth gan bod Jason Strange a’i garfan wedi curo Llanymddyfri ddwywaith yn gynharach y tymor hwn.
Lee Rees agorodd y sgorio ar ddiwedd y chwarter agoriadol – ac er i gapten yr ymwelwyr Joe Franchi dirio am unig gais Glyn Ebwy gwta bum munud yn ddiweddarach – trosiad Evan Lloyd oedd eu sgôr ddiwethaf o’r ornest.
Cicio cywir Ioan Hughes olygodd bod gan y tîm cartref chwephwynt o fantais ar yr egwyl.
Er mai dim ond 13-7 oedd hi o blaid tîm Euros Evans wrth droi ar Fanc yr Eglwys heno – ‘roedd y Porthmyn yn ddigyfaddawd yn yr ail hanner.
Yn ystod yr ail gyfnod fe groesodd y bachwr Taylor Davies, Harri Doel, Kian Abraham ac Osian Davies am geisiau pellach i wŷr y gorllewin – a hynny o flaen eu cefnogwyr eu hunain.
Halen ar friwiau Glyn Ebwy oedd y ffaith i’r blaenasgwellwr Jack Pope gael ei ddanfon i’r cell cosb a bod y mewnwr Jonathan Evans wedi gorfod gadael y maes yn fuan wedi troi – o ganlyniad i anaf i’w goes.
Llanymddyfri felly’n llawn haeddu’r fraint o fod y tîm cyntaf erioed i godi Cwpan Super Rygbi Cymru.
Wedi i’r Porthmyn ennill Cwpan ac Uwch Gynghrair Indigo’r tymor diwethaf – fe fyddant yn gobeithio hawlio dwbl Super Rygbi Cymru ymhen rhai wythnosau.
Sgorwyr:
Llanymddyfri: Ceisiau: Lee Rees, Taylor Davies, Harri Doel, Kian Abraham, Osian Davies; Tros: Ioan Hughes 3, Jack Maynard; Ciciau Cosb: Ioan Hughes 2.
Glyn Ebwy: Cais: Joe Franchi; Tros: Evan Lloyd