O ran canlyniad, nid dyma oedd y diweddglo yr oedd yr Hyfforddwr Dros Dro Cymru, Matt Sherratt a’i garfan wedi gobeithio amdano – ond ‘roedd y Saeson yn rhy gryf i’r Cymry’n y pendraw.
‘Roedd gobeithion Lloegr o gipio’r Gamp Lawn eleni wedi eu dryllio ar y penwythnos agoriadol pan gollon nhw yn Nulyn – ond maen nhw bellach wedi ennill eu pedair gêm ddiwethaf yn y Chwe Gwlad eleni.
Parhau wnaeth momentwm y Saeson o’r chwiban gyntaf heddiw oherwydd o fewn y ddau funud agoriadol ‘roedd y capten Maro Itoje wedi tirio yn dilyn sgarmes symudol arbennig o rymus.
Trosodd Fin Smith yn gyfforddus.
Bum munud yn unig wedi hynny fe gasglodd Blair Murray bêl rydd yng nghanol y cae ac fe garlamodd at y llinell gais. Wedi hir drafod fe benderfynodd y tîm dyfarnu bod Tomos Williams yn camsefyll ac felly tawelwyd torf Stadiwm Principality.
‘Roedd y Stadiwm yn dawelach fyth yn union wedi’r ail ddechrau pan brofodd Tom Roebuck yn rhy gryf i dacl Murray ac fe hawliodd yr asgellwr ail gais ei dîm o fewn y 10 munud agoriadol – a’i ail gais ef ar y llwyfan rhyngwladol. Yn dilyn ail drosiad Smith – ‘roedd gan y Saeson fantais o 14 pwynt.
Wedi i chwarter agoriadol y chwarae ddod i ben – amddifadwyd Murray am yr eildro. Wedi iddo gasglu ei gic ei hun, doedd neb o’i flaen wrth iddo redeg am y llinell gais – ond ‘roedd bachwr Lloegr Luke Cowan-Dickie y tu ôl iddo ac fe lwyddodd ei lorio ar yr eiliad dyngedfenol.
Y araf deg mae dal iâr medd yr hen ddywediad ac fe ddaeth cais i’r Cymry gyda 10 munud o’r hanner cyntaf ar ôl.

Cais Ben Thomas
Wrth i’r dyfarnwr chwarae mantais am gic gosb – am yr eildro o fewn wythnos – daeth Ben Thomas o hyd i fwlch i groesi yng nghysgod y pyst.
Wedi i Gareth Anscombe drosi, ‘roedd mantais yr ymwelwyr wedi ei haneru.
Dri munud wedi hynny fe gafodd y Cymry gyfle i glirio’r bêl yn ddwfn o’u tir eu hunain – ond wrth fentro, ildliwyd y meddiant a chanlyniad hynny oedd gweld Tommy Freeman yn parhau gyda’i record o sgorio cais ym mhob un o gemau ei dîm mewn ymgyrch Chwe Gwlad. Yr unig berson arall i wneud hynny hyd yma yw Phillippe Bernat-Salles yn nhymor 2001.
‘Roedd Lloegr wedi sicrhau’r fudduogoliaeth i bob pwrpas a phocedu pwynt bonws cyn yr egwyl.
Wedi iddynt fynd trwy’r cymalau, rhyddhawyd yr eilydd Chandler Cunningham-South ar rediad tuag at Blair Murray – ac fe brofodd ei gryfder yn ormod i gefnwr Cymru. Y tro cyntaf i’r Saeson sgorio 4 cais yng Nghaerdydd ers 2001.
‘Roedd amser am un cais arall i Loegr cyn troi, wrth i’r prop Will Stuart rwbio halen i friwiau hanner cyntaf y Cymry ar achlysur ei hanner canfed cap.
Methodd Smith gyda’i drosiad am y tro cyntaf yn ystod y prynhawn olygodd mai 33-7 oedd mantais yr ymwelwyr ar yr egwyl.
Daeth Dewi Lake a Kieron Assiratti i gymryd eu lle yn rheng flaen Cymru wedi’r egwyl er mwyn ceisio herio grym wyth blaen Lloegr ac fe osododd hynny lwyfan mwy cadarn i’r olwyr cartref yn gynnar wedi troi.
Wedi 8 munud o’r ail hanner – fe ddylai’r Cymry fod wedi croesi am eu hail gais – ond gyda dynion ychwanegol yn rhydd ar yr ystlys – fe fethodd pas Ellis Mee ddod o hyd i Max Llewellyn nac Aaron Wainwright. O’r herwydd collwyd y cyfle i greu momentwm ar ddechrau’r ail gyfnod.
Daeth Jarrod Evans i’r maes fel eilydd o faswr yn gynnar wedi troi hefyd – ac wrth iddo geisio rhyddhau ei olwyr – fe darodd y bêl ben Elliot Daly – a’r mewnwr Alex Mitchell fanteisiodd ar y briwsion i dirio chweched cais ei dîm – yn gwbl groes i rediad chwarae’r ail hanner hyd at hynny.
Parhau wnaeth y poen i’r tîm cartref gyda chwarter awr yn weddill wrth i Loegr groesi am eu seithfed cais o’r ornest – ond mi fydd yr eilydd Henry Pollock yn cofio ei gais rhyngwladol cyntaf am weddill ei ddyddiau.
Efelychodd eilydd arall, Joe Heyes, gamp Pollock ddau funud wedi hynny wrth iddo ef agor ei gyfrif ceisiau rhyngwladol wrth dirio wythfed cais Lloegr. Y Saeson yn sgorio 8 cais yng Nghaerdydd am yr eildro’n unig yn eu hanes.
Er i Loegr haeddu eu buddugoliaeth yn llwyr fe lwyddodd Ben Thomas i groesi am yr eildro gyda thri munud yn weddill ond fe benderfynodd Henry Pollock efelychu hynny yn y munudau olaf hefyd.
Roedd gan y Saeson amser i groesi am un cais olaf a thro Chandler Cunningham-South oedd hi i hawlio’i ail gais ef o’r ornest gan gadarnhau’r fuddugoliaeth orau erioed i Loegr dros Gymru.
Cymru felly’n gorffen ar waelod y tabl am yr ail dymor o’r bron – ond bydd ambell elfen o addewid yn eu perfformiadau diweddar a buddugoliaeth arbennig y tîm o dan 20 yn erbyn y Saeson neithiwr yn cynnig rhywfaint o obaith ar gyfer y dyfodol.
Canlyniad: Cymru 14 Lloegr 68
Wedi’r gêm, fe ddywedodd Capten Cymru Jac Morgan: “Ry’n ni mor siomedig gyda’r canlyniad heddiw. Rhaid llongyfarch Lloegr ar eu perfformiad a’u buddugoliaeth.
“Fe gymeron nhw eu cyfleoedd yn well na ni ac mae hwn yn gyfnod anodd i ni fel carfan.
“Mae pob un o’n chwaraewyr yn gweithio mor galed wrth ymarfer. ‘Ry’n ni’n gwneud ein gorau ym mhob gêm ac ‘rwy’n gwybod y byddwn yn gwella.
“Diolch i bod un o’n cefnogwyr am ddod yma heddiw ac am gadw’r ffydd ynom ni.”
Ychwanegodd prop Cymru Gareth Thomas: “Roedd colli fel ‘na yn anodd a phoenus – nid fel ‘na ‘roedden ni eisiau ffarwelio gyda Matt.”
Dywedodd capten Lloegr Maro Itoje: “Roedd ein perfformiad yn wych heddiw a hoffwn ddiolch i’n holl gefnogwyr ddaeth yma i Gaerdydd heddiw.”
Mae Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney wedi cadarnhau y bydd Prif Hyfforddwr newydd yn gyfrifol am y garfan cyn teithio i Japan dros yr haf ar gyfer dwy gêm brawf.
Bydd y gêm gyntaf yn digwydd yn Stadiwm Mikuni yn Kitakyushu ar y 5ed o Orffennaf cyn i’r Cymry deithio i Stadiwm Noevir yn Kobe wythnos yn ddiweddarach ar gyfer yr ail brawf ar y 12fed o’r mis.

Gareth Thomas wedi’r chwiban olaf.