Ddydd Sul – o dan arweiniad y Cymro – fe enillodd ei glwb, Bencampwriaeth Uwch Gynghrair Lloegr am y trydydd tymor o’r bron trwy guro’r Saraseniaid o 34-19. Bellach mae Sean Lynn yn canolbwyntio’n llwyr ar ymgyrch Menywod Cymru ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025 fydd yn dechrau yng Nghaeredin ddydd Sadwrn.
Bu Hannah Jones, Lleucu George, Kate Williams, Bethan Lewis a Meg Davies yn rhan o garfan Hartpury/Caerloyw dros y penwythnos diwethaf ac fe lwyddon nhw i gael y gorau ar glo’r Saraseniaid Georgia Evans sydd hefyd bellach wedi ymuno gyda’r garfan genedlaethol.
Wedi’r chwiban olaf ddydd Sul, dywedodd Sean Lynn: “Mae gorffen fy nghyfnod gyda’r clwb fel hyn yn aanhygoel. Mae’r grŵp yma o chwaraewyr a’r clwb ei hun yn arbennig. ‘Roedd cael fy nheulu ar y cae gyda mi ar y chwiban olaf yn rhywbeth y byddaf yn ei drysori am byth. Mae breuddwydion yn gallu dod yn wir.”
‘Roedd cyd-gapten y Pencampwyr, Zoe Aldcroft yn llawn canmoliaeth i gyfnod Sean Lynn wrth y llyw gyda’r clwb: “Roedd yn rhaid i ni ffarwelio gyda Lynny gyda buddugoliaeth. Dwi wrth fy modd ein bod wedi llwyddo ennill ein trydydd teitl yn olynol – er ei fwyn ef ac er mwyn diolch iddo.
“Mae e’ wedi bod yn anhygoel i ni ac mae’n bendant yn gadael gwaddol yma ar gyfer y dyfodol. Mae’n wych am greu teimlad o undod gyda phawb yn gweithio ac ymladd dros ei gilydd.”
Mae’r ffaith bod cymaint o Gymry’n chwarae eu rygbi gyda Hartpury/Caerloyw’n mynd i fod yn gymorth mawr i Sean Lynn, gan bod gan y garfan genedlaethol gyn lleied o amser gyda’i gilydd cyn teithio i’r Alban ar gyfer gêm agoriadol y Chwe Gwlad.
Un o’r chwaraewyr hynny sy’n gyfarwydd iawn â Sean Lynn fel hyfforddwr yw Beth Lewis: “Mae’n creu ymdeilmad o deulu ac mae’n dod â’i deulu ei hun i’n gwylio ni’n ymarfer a chwarae. Mae fy nhad yn aml yn siarad gydag ef ar ôl gemau.
“Mae Sean yn ddyn da ac mae’n hoffi cydweithio gyda phobl dda ac yn naturiol mae hynny’n dylanwadu’n gadarnhaol ar chwarewyr.”
Mae hon yn flwyddyn allweddol i rygbi menywod gan ei bod hi’n flwyddyn Cwpan y Byd fydd yn cael ei chynnal yn Lloegr. Wythnos wedi dychwelyd o’r Alban bydd Cymru’n croesawu’r Saeson i Stadiwm Principality am y tro cyntaf erioed sy’n gadarnhad o dwf camp y menywod yng Nghymru.

Hannah Jones
Mae Lynn eisoes wedi ail-benodi Hannah Jones yn gapten ar y garfan genedlaethol ac mae’r canolwr yn edrych ymlaen yn fawr at gydweithio gyda’i hyfforddwr ar y lefel rhyngwladol y tro hwn: “Fe, heb amheuaeth, yw’r person iawn ar gyfer y swydd. Ers iddo gael ei benodi ‘dwi wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at wisgo crys coch Cymru unwaith eto.
“Mae’n rhaid i mi wneud yn siwr bod pob aelod o’r garfan yn mwynhau bod gyda’n gilydd a’n bod yn gallu rhoi trafferthion a nonsens y gorffennol y tu cefn i ni.
“Mae gennyf ffydd yn y tîm hyfforddi a’r garfan – a ‘dwi’n credu bod y cyhoedd am weld ochr wahanol i ni’n y Bencampwriaeth yma.”