Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y tîm gyda Keira Bevan yn îs gapten iddi ar gyfer y daith i Gaeredin.
Bydd y propiau Maisie Davies a Jenni Scoble a’r clo Alaw Pyrs yn dechrau am y tro cyntaf dros eu gwlad yn erbyn yr Albanwyr sydd wedi eu dethol yn seithfed yn y byd ar hyn o bryd.
Mae nifer o chwaraewyr Hartpury/Caerloyw – gan gynnwys y capten Jones, y blaenasgellwyr Kate Williams a Bethan Lewis a’r maswr Lleucu George – wedi eu dewis i ddechrau ddydd Sadwrn – wedi iddynt hawlio Pencampwriaeth Uwch Gynghrair Lloegr ddydd Sul.
Jasmine Joyce, sydd wedi cynrychioli tîm Prydain deirgwaith yn y Gemau Olympaidd, fydd yn dechrau yn safle’r cefnwr gyda Lisa Neumann a Carys Cox yn cwblhau’r tri ôl.
Kayleigh Powell fydd yn cadw cwmni i’w chapten yng nghanol y cae gyda Lleucu George yn parhau yn safle’r maswr.
Y bachwr profiadol Carys Phillips fydd yng nghanol y rheng flaen gyda Davies a Scoble y naill ochr a’r llall iddi – tra bydd Pyrs yn ymuno ag Abbie Fleming yn yr ail reng.
Symud o’r ail reng i safle’r wythwr fydd Georgia Evans, gyda Williams a Lewis yn cwblhau’r rheng ôl.
Dywedodd Sean Lynn, Prif Hyfforddwr Cymru: “Ry’n ni gyd yn gyffrous ar ddechrau pennod newydd fel hyn yn ein hanes ac mae pawb yn edrych ymlaen at wynebu tîm talentog Yr Alban ar eu tomen eu hunain yn ein gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025.
“Mae hi wedi bod yn wythnos brysur iawn ac er nad ydym wedi cael llawer o amser i baratoi gyda’n gilydd fel carfan lawn – mae’r cyffro o fewn y garfan yn heintus.
“Neges syml sydd gennyf i’r chwaraewyr – wrth fod yn driw i chi’ch hun – byddwch yn ein cryfhau ni fel uned ac o safbwynt ein hunaniaeth fel carfan hefyd. Mae hynny’n dechrau yn erbyn Yr Alban.
“Mae’n teulu ni o chwaraewyr, hyfforddwyr a staff wedi cydweithio’n arbennig o dda er mwyn creu yr amodau gorau i ni ffynnu.
“Mae’n gemau ni yn erbyn yr Albanwyr yn dueddol o fod yn rhai tynn ac agos o ran y sgôr – ond ‘ry’n ni’n wirioneddol edrych ymlaen at hon.
“Mae llawer o brofiad yn ein tîm y penwythnos yma ac mae nifer fawr o unigolion wedi bod yn chwarae’n arbennig o dda dros eu clybiau’n ddiweddar. Yn ogystal â hynny – mae gennym lawer o chwaraewyr sy’n llawn addewid hefyd – sydd wedi perfformio’n gampus yn yr Her Geltaidd.
“Byddwn yn parchu bygythiad Yr Alban wrth gwrs – ond yn y gêm brawf bwysig hon – canolbwyntio arnom ni’n hunain fyddwn ni yn y man cyntaf. Wedyn fe gawn ni adeiladu ar ein perfformiad ac anelu at yr hyn yr ydym yn gobeithio ei gyflawni’n y pendraw yn y gystadleuaeth hon.”
Cymru (v Yr Alban)
Jasmine Joyce (Bryste), Lisa Neumann (Harlequins), Hannah Jones (capt,Hartpury/Caerloyw), Kayleigh Powell (Harlequins), Carys Cox (Ealing), Lleucu George (Hartpury/Caerloyw), Keira Bevan (Bryste); Maisie Davies (Gwalia Lightning), Carys Phillips (Harlequins), Jenni Scoble (Gwalia Lightning), Abbie Fleming (Harlequins), Alaw Pyrs (Gwalia Lightning), Kate Williams (Hartpury/Caerloyw), Bethan Lewis (Hartpury/Caerloyw), Georgia Evans (Saraseniaid).
Eilyddion:
Kelsey Jones (Hartpury/Caerloyw), Gwenllian Pyrs (Sale), Donna Rose (Saraseniaid), Gwen Crabb (Hartpury/Caerloyw), Bryonie King (Bryste), Meg Davies (Hartpury/Caerloyw), Courtney Keight (Bryste), Nel Metcalfe (Hartpury/Caerloyw)