Bydd Lynn yn arwain ei glwb Hartpury/Caerloyw yn Rownd Derfynol Uwch Gynghrair Lloegr (PWR) ddydd Sul yn y gobaith y byddan nhw’n ennill y Bencampwriaeth am y trydydd tro o’r bron.
Mae Prif Hyfforddwr Cymru wedi enwi carfan o 37 o chwaraewyr ar gyfer y Chwe Gwlad a bydd y gêm gartref gyntaf – yn ail rownd y gemau’n creu hanes.
Bydd y Crysau Cochion yn dechrau eu hymgyrch yn Yr Alban ddydd Sadwrn yr 22ain o Fawrth am 4.45pm cyn croesawu’r Saeson i Gaerdydd ar ail benwythnos y Bencampwriaeth.
Gyda’r ornest yn erbyn Lloegr yn Stadiwm Principality eisoes wedi gwerthu dros 10,000 o docynnau – y dorf honno ddydd Sadwrn y 29ain o fis Mawrth (4.45pm) – fydd y fwyaf erioed i wylio gêm brawf Menywod Cymru ar eu tomen eu hunain – pan nad yw’r dynion wedi chwarae yn yr un lleoliad ar yr un dydd.
10,592 yw’r record honno ar hyn o bryd – pan enillwyd o 22-20 yn erbyn Yr Eidal yng ngornest olaf y Bencampwriaeth y tymor diwethaf.
Y gobaith fydd i ddenu mwy na 16,500 o dorf i’r achlysur – fyddai’n record ar gyfer unrhyw ddigwyddiad chwaraeon penodol ar gyfer Menywod yng Nghymru.
Y canolwr Hannah Jones fydd yn arwain y garfan unwaith eto gyda’r mewnwr Keira Bevan a’r blaenasgellwr Alex Callender yn ddirprwyon iddi.
Mae Jones yn un o nifer o chwaraewyr Hartpury/Caerloyw fydd yn dod ben-ben â Georgia Evans o’r Saraseniaid yn y Ffeinal ddydd Sul yma.
Mae Sean Lynn wedi dewis carfan sy’n gymysgedd o brofiad a thalent ifanc ac addawol – sydd wedi cael y cyfle i aeddfedu yng ngemau diweddar yr Her Geltaidd.
Cafodd capten Gwalia Lightning, Bryonie King, ymgyrch amlwg ac mae’r prop Maisie Davies a’r clo Alaw Pyrs ymhlith ei chyd-chwaraewyr sy’n ymuno gyda hi yn y garfan genedlaethol.
Mae capten Brython Thunder, Natalia John, hefyd wedi ei chynnwys yng nghynlluniau Sean Lynn ar Gyfer y Chwe Gwlad. Felly hefyd Rosie Carr a’r canolwr cydnerth Hannah Bluck.
Dywedodd Prif Hyfforddwr Cymru, Sean Lynn: “Mae cyhoeddi’r garfan hon yn eiliad bwysig a chyffrous i’r chwaraewyr, yr hyfforddwyr a’r staff wrth i’n teulu rygbi ddod at ein gilydd ar gyfer ein hymgyrch ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025.
“Mae gennym gymysgedd dda yn y garfan – gan gynnwys y 15 chwaraewr rhyngwladol gymrodd ran yn rownd Gyn-derfynol Uwch Gynghrair Lloegr. Ar y llaw arall mae gennym chwaraewyr ifanc a chyffrous sydd ar ddechrau eu taith ryngwladol i bob pwrpas – ond mae llawer iawn o’u perfformiadau nhw yn yr Her Geltaidd wedi dal y llygad heb amheuaeth.
“Byddwn yn dod at ein gilydd fel carfan gyflawn ddydd Llun – sydd ddim yn rhoi llawer iawn o amser i ni baratoi i deithio i’r Alban ar gyfer ein gêm agoriadol o’r Bencampwriaeth ar yr 22ain o’r mis.
Wedi dweud hynny, ‘ry’n ni gyd yn ymwybodol iawn beth sydd angen i ni ei wneud ac ‘ry’n ni’n gwybod y bydd y gefnogaeth yno i ni hefyd.
“Mae’r garfan i gyd yn gwerthfawrogi hynny’n fawr ac mae’r cyffro am gamp y menywod eleni’n fwy nac erioed. Ry’n ni’n ymwybodol o’r heriau fydd yn ein hwynebu – ond wrth weithio’n galed gyda’n gilydd – ac er mwyn ein gilydd – fe allwn ysbrydoli’r genedl.”
Carfan Menywod Cymru – Pencampwriaeth Chwe Gwlad Guinness 2025
Blaenwyr: Maisie Davies (Gwalia Lightning), Gwenllian Pyrs (Sale), Abbey Constable (Caerlŷr), Molly Reardon (Gwalia Lightning), Rosie Carr (Brython Thunder), Kelsey Jones (Hartpury/Caerloyw), Carys Phillips (Harlequins), Donna Rose (Saraseniaid) Jenni Scoble (Gwalia Lightning), Abbie Fleming (Harlequins), Alaw Pyrs (Gwalia Lightning), Natalia John (Brython Thunder), Gwen Crabb (Hartpury/Caerloyw), Bryonie King (Gwalia Lightning), Georgia Evans (Saraseniaid), Kate Williams (Hartpury/Caerloyw), Bethan Lewis (Hartpury/Caerloyw), Alex Callender (Harlequins), Gwennan Hopkins (Gwalia Lightning), Alisha Butchers (Bryste)
Olwyr: Keira Bevan (Bryste), Sian Jones (Gwalia Lightning), Meg Davies (Hartpury/Caerloyw), Ffion Lewis (Bryste), Lleucu George (Hartpury/Caerloyw), Lisa Neumann (Harlequins), Kayleigh Powell (Harlequins), Robyn Wilkins (Sale), Hannah Jones (Hartpury/Caerloyw – Capten), Hannah Bluck (Brython Thunder), Kerin Lake (Gwalia Lightning), Carys Cox (Ealing), Courtney Keight (Bryste), Nel Metcalfe (Hartpury/Caerloyw), Jenny Hesketh (Bryste), Catherine Richards (Gwalia Lightning), Jasmine Joyce (Bryste),
Gellir prynu tocynnau ar gyfer dwy gêm gartref Cymru
- Cymru v Lloegr, Stadiwm Principality, Sadwrn, Mawrth 29ain (4.45pm)
- Cymru v Iwerddon, Rodney Parade, Sul, Mawrth 3ydd (3pm).