Bydd y Saeson yn chwarae yn Stadiwm Principality am y tro cyntaf yn eu hanes ddydd Sadwrn yma ac fe fyddant yn gobeithio adeiladu ar eu dechrau cadarn i’r Bencampwriaeth eleni – wedi iddyn nhw drechu’r Eidal o 38-5 yn y gêm agoriadol.
Mae Lloegr yn gobeithio ennill y Chwe Gwlad am y seithfed tro o’r bron.
Hannah Jones oedd yn arwain Cymru’n y golled fain o 24-21 yng Nghaeredin y Sadwrn diwethaf – sef gêm gyntaf y Prif Hyfforddwr newydd, Sean Lynn, wrth y llyw.
Dywedodd Hannah Jones: “’Ry’n ni gyd yn arbennig o siomedig ein bod wedi colli yn yr Hive ond ‘roedd ymdrech pob un o’r merched yn ardderchog. Dim ond dwy sesiwn ymarfer gafon ni gyda’n gilydd ac felly mae mwy i ddod gan y garfan hon.
“Fe ddechreuon ni’n dda iawn yn Yr Alban ond fe lwyddon nhw i arafu’n chwarae ni a ‘doedd ein hamddiffyn ddim yn berffaith chwaith.
“Maen rhaid i ni wella o safbwynt cael y gorau ar y chwaraewr sy’n ein hwynebu ni – ac ennill ein brwydrau personol. Wedi dweud hynny ‘roedd agwedd, ymdrech a chalon y tîm yn wych.
“Fe weithion ni mor galed – ac fe wellon ni’n dactegol yn yr ail hanner. ‘Roedd ein cicio’n fwy effeithiol ac fe arweiniodd y ffaith ein bod yn chwarae ym mannau cywir y maes – at fwy o bwyntiau i ni.
“Mae’r gemau yn erbyn yr Albanwyr wastad yn agos iawn – ond os oedden ni’n gallu dod o fewn un gic iddyn nhw wedi dim ond dwy sesiwn ymarfer – mae’n amlwg ein bod yn symud i’r cyfeiriad cywir.”
Bydd Sean Lynn yn cael gwybod ddydd Iau os y bydd Georgia Evans ar gael i’w dewis yn erbyn Lloegr – yn dilyn ei dau gerdyn melyn yng Nghaeredin. Mae Lynn hefyd yn disgwyl am newyddion pellach am ffitrwydd Alisha Joyce-Butchers ac Alex Callender.
Y gêm yn erbyn Lloegr ddydd Sadwrn fydd y pedwerydd tro i dîm menywod Cymru chwarae yn Stadiwm Principality yn dilyn tair gêm yn erbyn Yr Eidal yn 2012, 2018 a 2024.
Mae Lloegr bellach wedi ennill eu 30 gêm ddiwethaf yn y Bencampwriaeth a’r tro diwethaf I’r Cymry eu curo oedd ar Sain Helen yn 2015.
Ychwanegodd Hannah Jones: “Roedd y pump blaen yn wych yn erbyn Yr Alban ac ‘roedd hi’n wych gweld Kelsey (Jones) a Gwenllian (Pyrs) yn ôl yn y crys coch wedi eu hanafiadau difrifol. ‘Roedd yr un peth yn wir hefyd am Carys Cox wrth gwrs ac felly mae’n carfan ni’n cryfhau eto.
“Mae Rygbi Merched a Menywod yn tyfu a thyfu. Gobeithio y cawn ni gefnogaeth dda yn Stadiwm Principality’n erbyn y Saeson.”
‘Roedd bron i 13,000 o docynnau wedi eu gwerthu erbyn y penwythnos diwethaf – ac felly y gobaith yw y bydd record o dorf yn y Stadiwm ddydd Sadwrn i gefnogi’r garfan.
Fe allwch chi chwarae’ch rhan wrth greu darn bach o hanes wrth brynu tocynnau YMA: HERE