Mae Emanuel wedi bod wrth wraidd llawer o waith creadigol y Cymry ifanc yn ystod y Bencampwriaeth eleni. Bydd wedi dechrau ym mhob un o’r gemau’n y Bencampwriaeth eleni – ac fe sgoriodd gais cofiadwy yn y fuddugoliaeth yn erbyn Iwerddon yn nhrydedd rownd y gemau ar faes Rodney Parade.
Yn anffodus o safbwynt Cymreig fe gostiodd diffyg disgyblaeth y garfan yn ddrud iddyn nhw yn Yr Alban – a methiant oedd eu hymdrech i ennill tair gêm o’r bron yn y Bencampwriaeth am y tro cyntaf ers y rhediad o ennill wyth gêm yn olynol rhwng 2015 a 2017 o ganlyniad i hynny.
Dywedodd Ioan Emanuel: “Roedden ni’n greadigol iawn am y chwarter awr cyntaf yng Nghaeredin ond fe fethon ni â chymryd ein cyfleoedd. Er y golled, ‘ry’n ni dal yn credu yn ein gilydd fel carfan ac ‘ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr iawn at herio Lloegr.
“Er i ni golli yn erbyn y Saeson ar y Rec yng Nghaerfaddon y llynedd – fe ddangoson ni ein bod yn gallu cystadlu gyda nhw.
“Dyw hynny ddim wastad wedi bod yn wir.
“Fe enillais fy nghap cyntaf o dan 18 yn eu herbyn i lawr ar Sain Helen yn Abertawe ac fe ildion ni rhyw 60 pwynt bryd hynny – ond ‘ry’n ni wedi gwella’n fawr ers hynny.
“Mae nifer o’r un bechgyn yn chwarae ar y lefel o dan ugain ‘nawr ac ‘ry’n ni wir yn credu y gallwn ni eu maeddu nhw erbyn hyn.
“Maen nhw’n dîm da wrth gwrs – ond gyda’n cefnogwyr ein hun y tu ôl i ni ar Barc yr Arfau – fe rown ni bopeth i mewn i’n perfformiad. Y gobaith yw ennill yn erbyn Lloegr fyddai’n golygu na fyddan nhw’n ennill y Gamp Lawn.”