‘Roedd yr ornest ar ben i bop pwrpas wedi 22 o funudau gan bo’r Gwyddelod eisoes wedi sgorio pedwar cais a sgorio pwynt bonws yn y broses.
Claire Boles agorodd y sgorio wedi 3 munud yn unig a thri munud wedi hynny ‘roedd y canolwr Leah Tarpey wedi efelychu camp ei chapten.
Erbyn diwedd y chwarter agoriadol ‘roedd chwarae creadigol y Wolfhounds ac amddiffyn blinedig y tîm cartref ar adegau – wedi arwain at geisiau pellach i Vicky Elmes Kinlan ac Eve Higgins ac ‘roedd unrhyw obaith gwirioneddol oedd gan Gwalia o gau’r bwlch rhwng y ddau dîm ar frig y tabl wedi hen ddiflannu.
Chwaraewyd mwyafrif helaeth yr hanner awr cyntaf yn nhir y Cymry ac wrth fentro o’u dwy ar hugain eu hunain fe fanteisiodd Claire Boles ar gamdrafod Gwalia i dirio am yr eildro.
Wedi ail drosiad Dannah O’Brien ‘roedd mantais y Wolfhounds yn 29 o bwyntiau.
Aeth pethau o ddrwg i waeth i Gwalia Lightning yn nau funud olaf yr hanner cyntaf gan i Katie Corrigan groesi am chweched cais ei thîm ac yna’n union wedi’r ail-ddechrau fe welodd Alaw Pyrs gerdyn melyn am dacl anghyfreithlon ar Claire Boles.
Fe benderfynodd y Wolfhounds gadw eu capten ar y cae – a gyda symudiad olaf un y cyfnod cyntaf – fe wasgodd Boles am ei thrydydd cais yn y gornel. Halen ar friwiau’r hanner i Gwalia oedd y ffaith i O’Brien drosi’n gampus o’r ystlys i’w gwneud hi’n 41-0 ar yr egwyl.
Chwe munud wedi troi fe drosodd y maswr yn wych unwaith yn rhagor wedi i Vicky Elmes Kinlan hawlio ei hail gais hi o’r prynhawn ac wythfed ei thîm.
Wedi 52 o funudau, fe lwyddodd Gwalia Lightning i gadw’u gafael ar y bêl am nifer o gymalau a gwobrwywyd eu hamynedd a’u doniau wrth i’r eilydd Rhodd Parry groesi’n hyderus am y cyntaf o dri chais y Cymry.
Fe wellodd perffomiad Gwalia Lightning yn sylweddol yn yr ail hanner ac fe wnaeth Alaw Pyrs yn iawn am ei cherdyn melyn yn gynharach wrth iddi ennill tir sylweddol gyda’i rhediadau cydnerth.
Arweiniodd un o’r rheiny at gais i’w chapten Bryonie King wedi awr o chwarae wrth i’r wythwyr ddawsio’n ddyheig o dan y pyst. Ychwanegodd Carys Hughes y trosiad.
Bylchiad King ei hun ddechreuodd y symudiad arweiniodd at drydydd cais Gwalia ac wedi hynny fe gyfunodd Rhodd Parry a Caitlin Lewis yn effeithiol cyn i’r asgellwr groesi yn y gornel.
Er i’r tîm cartref sgorio 17 pwynt olaf yr ornest – methiant fu eu holl ymdrechion i sgorio pedwerydd cais a sicrhau pwynt bonws am eu hymdrechion.
Y Wolfhounds felly’n cymryd cam sylweddol arall tuag at gadw’u gafael ar eu coron ac wedi canlyniadau eraill y penwythnos yn yr Her Geltaidd – mae Gwalia Lightning bellach yn gwybod mai yn y trydydd safle y byddan nhw’n gorffen yn y tabl beth bynnag fydd eu canlyniad yn erbyn y Clovers yn Ystrad Mynach ar y penwythnos olaf.
Wedi’r chwiban olaf, fe ddywedodd Seren y Gêm a chapten y Wolfhounds Claire Boles;”Ein bwriad ni oedd ennill yma heddiw ac felly ‘roedd gallu gosod seiliau cadarn i’r fuddugoliaeth honno’n yr hanner cyntaf yn ein plesio’n fawr.
“Er ei bod hi’n braf sgorio tri o geisiau fy hun – y fuddugoliaeth i’r tîm oedd y peth pwysicaf heddiw.”