Cofio Keri Evans
Rhoddwyd teyrngedau twymgalon i un o ddynion rygbi poblogaidd Caerdydd, Keri Evans, a bu farw yr wythnos hon yn dilyn salwch hir.
Fel athro Addysg Gorfforol yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, cafodd Evans ddylanwad enfawr ar rai o enwau mwyaf y gêm, yn ogystal ag ysbrydoli cenhedlaeth newydd o hyfforddwyr. Roedd hefyd yn ddyfarnwr o’r radd flaenaf – fe oedd y pedwerydd swyddog yn ystod gêm Camp Lawn 2005 Cymru – yn enwog am ei hiwmor ffraeth.
Yn hanu o Drebanos yn Nyffryn Abertawe, yn ei ddyddiau cynnar fel chwaraewr, fe gynrychiolodd Evans glwb Caerdydd fel bachwr. Roedd ei ddawn yn amlwg pan gafodd ei gapio ar lefel dan-16 Cymru.
Fel athro, fe hyfforddodd rai o dimau rygbi gorau Glantaf. Fodd bynnag, roedd yn bwysicach i Evans bod ei ddisgyblion yn tyfu i fod yn bobl dda. Isod, mae rhai ohonynt yn disgrifio’r effaith a gafodd ar eu bywydau.
Mae teulu Keri Evans wedi gofyn, os oes unrhyw un yn dymuno gwneud cyfraniad yn ei enw, i wneud hynny i Velindre a Marie Curie, a gymerodd ofal mawr ohono.
Rhys Patchell, Scarlets a Chymru.
Mae’n anodd talu teyrnged i Keri Evans mewn ychydig eiriau. Gellir ysgrifennu cyfrolau, a braidd medru gwneud cyfiawnder â Mr Evans. Roedd yn athro i gannoedd, os nad miloedd o ddisgyblion Glantaf, hefyd yn hyfforddwr ac yn ysbrydoliaeth i’r sawl droedioedd goridorau Glantaf. Mi fydd sawl un yn gweld ei golli, ac mae fy meddyliau, yn ystod cyfnod mor anodd, gyda’i deulu, oedd yn golygu popeth iddo.
Rwy’n cofio’r tro cyntaf i ni gwrdd, mewn gwers nofio yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd. Coesau cyhyrog, gwên gynnes a llais oedd yn hawlio parch. Rwy’n cofio dechrau yng Nglantaf rhai blynyddoedd wedyn a teimlo wedi cyffroi taw Mr Evans oedd un o’n hyfforddwyr rygbi. Roedd e’n mynnu safonnau ar y maes chwarae ag yn y dosbarth ac am y saith mlynedd nesaf, byddai’n ran enfawr o fy mywyd dyddiol yn yr ysgol.
Hyfforddwr y tîm rygbi, annog ni i wneud gweithgareddau allgyrsiol, clust i wrando, ac yno i gynnig gair doeth o gyngor pan fo angen. Braint ar y mwyaf oedd cael fy newis yn gapten ar y tîm rygbi ganddo, ac o ganlyniad i’n trafodaethau yn ystod amser cinio ac amser egwyl, daethais i ddeall a gweld y gêm trwy ei lygaid ef.
Fe wnaeth e feithrin ein brwdfrydedd i chwarae’r gêm yn y ffordd ‘cywir’ – “mae sgil yn para am byth”. Gêm ble fyddai’r bêl yn symud o un ochr i’r cae i’r llall yn rhwydd. Gêm ble fyddai dawn a chyfrwystra yn ennill dros maint a grym. Gêm lle byddai’r tîm, pob amser yn well na’r unigolyn – fi’n cofio fel crwt ifanc, nes i daflu bas ffug (neu ‘dummy’) a sgorio fy hunan yn lle pasio’r bel pan roedd hi’n 2 yn erbyn 1. Fe wnaeth Mr Evans fy nghosbi – “penalty, dull play”. Nes i erioed yr un camgymeriad eto.
Roedd e’n ddyn arbennig sydd wedi cael dylanwad enfawr arnaf ers y dyddiau cynnar yn Ysgol Glantaf, hyd at fy ngyrfa proffesiynol ac mewn bywyd tu hwnt i’r gêm. Roedd yn bleser i’w gael fel athro, roedd yn fraint i’w alw’n ffrind. Fe wnai golli ein sgyrsiau dros goffi. Dysgais cyn gymaint mewn siop goffi a wnes i yn y dosbarth dros yr holl flynyddoedd ’na.
Yn ystod un o’n sawl cyfarfodydd mewn siop goffi lleol, fe holais am ei yrfa yn y byd addysg, “Dwi wedi byw’r freuddwyd,” oedd ei ateb â’r emosiwn yn cofleidio’i eiriau.
Diolch Mr Evans, am ddangos i gymaint ohonom sut i fyw ein breuddwyd.
Jamie Roberts, Cymru a’r Llewod.
Dyn rhyfeddol oedd Keri. Gwnaeth bopeth gyda gwên ar ei wyneb – hyd yn oed pan oedd yn rhoi stŵr i chi, oherwydd ei fod yn deall yr hyn yr oeddech chi’n ei wneud ond eisiau i chi weld ei fod yn anghywir.
Roedd e bob amser eisiau’r gorau i chi ac roedd yn ddylanwad enfawr yn fy mywyd: yn fy ngyrfa, ond yn fwy byth fel person achos roedd e’n ddyn llawn gwerthoedd gwych. Roedd pawb yn ei ‘nabod fel athro gwych oedd yn dwli ar rygbi, ond yn bwysicach fyth, fe welodd e ni i gyd yn dod yn ddynion ac roedd e’n bwysig iawn iddo ein bod ni’n tyfu i fod yn bobl dda.
Un o fy hoff atgofion o Keri yw pan oedd yn rhoi cosb am ‘dull play’ pan oedd yn dyfarnu gemau ysgol. Os wnaethoch chi rywbeth gwirion ar y cae, byddai’n rhoi cic gosb i’r tîm arall.
Roedd yn poeni cymaint amdanon ni, hyd yn oed ar ôl i ni adael ysgol. Roedd yn aelod pwysig o’r grŵp cyn-fyfyrwyr rygbi Glantaf, gan sicrhau bod pawb yn cadw mewn cysylltiad agos. Roedd Keri yn gallu gwerthfawrogi pŵer hynny: dyna un o’i brif rinweddau: roedd e’n ddyn cymdeithasol, hoffus iawn, gyda gwerthoedd rhyfeddol.
Bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb.
Gareth Williams, cyn-hyfforddwr Clwb Rygbi:
Mr Evans, Keri, KPE.
Mawr fydd colled Keri i’w deulu. Ei wraig Iola a’i blant Dafydd ac Elin Kate.
Ond beth am ei deulu ehangach? Yr holl ddisgyblion aeth trwy Ysgol Glantaf? Oes chwaraewr rygbi wedi mynd trwy Glantaf sydd ddim yn cofio Keri yn dweud “upstairs for thinking, downstairs for dancing, bois.” Neu, os nag oedden ni yn pasio’r bel pan fod dyn yn fwy gyda ni, “Penalty – dull play!” Neu pan odd tîm bach Glantaf yn gweld cewri yn ein herbyn ar y cae, bydde Keri yn gweiddi “skill is forever, bois.”
Roedd Keri yn ysbrydoliaeth i bawb a bydd cyn-ddisgyblion Glantaf a chyd-athrawon fel Peter Manning, Huw Gat Llywelyn ac yn fwy diweddar Rhydian Garner yn eu gweld yn eisio e yn fawr.
Roedd Keri yn ddyfarnwr gwych ac wedi dyfarnu i safon uchel ym myd rygbi. Ond wedi rhoi’r gorau i ddyfarnu aeth i hyfforddi Clwb Rygbi Cymry Caerdydd. Gan ddechrau yn adran 6 fe ddechreuodd y broses o ddyrchafiad dan arweinyddiaeth Keri. Y chwaraewyr yn meddwl y byd ohono. A’r tîm yn chwarae’r un arddull a thimau Glantaf. Timau Keri Evans. Rhedeg a phasio’r pêl. “Gad y bêl i neud y gwaith.”
Ond yn bwysicach na hyn i gyd, oedd y dyn ei hun. Roedd Keri Evans yn fonheddwr. Dyn caredig. Dyn cynnes.
Bydd ei deulu agos yn gweld ei golled yn enfawr. A bydd ei deulu ehangach yn ei gofio fel un o’i arwyr.
Nick Robinson, Gleision Caerdydd a Cymru.
Fel cymaint o bobl eraill sydd wedi cael eu dysgu gan, neu wedi cwrdd â, Mr Keri Evans – “Mr Evs” fel yr oedden ni’n ei nabod – mae’r atgofion o’r dyn yn hyfryd. Mae llawer o fy atgofion i yn dod o fy mlynyddoedd cynnar yn Glantaf pan ddechreuais i chwarae rygbi am y tro cyntaf, ond y tu hwnt i hynny hefyd.
Mae ei frwdfrydedd dros y gêm a sut y dylid ei chwarae mewn ffordd gadarnhaol wedi aros gyda mi. Byddai’n dod allan â’i linell “skill is forever” pryd bynnag y byddai rhywun yn cwestiynu ei allu gyda phêl rygbi!
Byddaf bob amser yn ddiolchgar am byth i Mr Evs am fy nghychwyn i yn y ffordd berffaith lawr y llwybr rygbi. Bydd colled fawr ar ei ôl gan gynifer yn y gymuned rygbi achos y ffordd gadarnhaol y gwnaeth e effeithio nhw yn eu bywydau a’u gyrfaoedd.
Mae fy meddyliau gyda’i wraig Iola, a’u plant, Elin Kate a Dafydd, ar adeg mor drist.