
Cymry Cymraeg: Dewi Cross
Chwaraewyr cysylltiedig
Mae asgellwr y Gweilch, Dewi Cross, yn un o'r genhedlaeth newydd o chwaraewyr ifanc talentog i ddod allan o Bencoed - y clwb rygbi a'r dref.
O ystyried bod y gymuned yn gartref i lai na 10,000 o bobl, nid yw’n syndod efallai bod y chwaraewr 21 oed yn cyfrif blaenasgellwr Caerlŷr, Tommy Reffell, a maswr y Scarlets, Sam Costelow, ymhlith ei ffrindiau agosaf.
Roedd rhieni Cross yn awyddus iddo gael addysg Gymraeg, gan gydnabod gwerth yr iaith i nifer o gyflogwyr heddiw, ac felly aeth i Ysgol Llanhari. Tra ei fod yn chwaraewr rygbi proffesiynol, mae bob amser wedi cadw un llygad ar yrfa y tu allan i’r gêm. Mae’n credydu’r Gymdeithas Chwaraewyr Rygbi Cymru (WRPA), a’i gynrychiolydd i’r Gweilch, Tim Jones, am ei helpu i wneud yn union hynny.
“Fe ges i gymhwyster i fod yn hyfforddwr personol Lefel 3 y llynedd,” meddai Cross, a aeth i mewn i academi’r Gweilch ar yr un pryd ag y symudodd i Goleg Castell-nedd, yn 16 oed. “Rwy’n teimlo ei bod yn bwysig cael rhai cymwysterau y tu ôl i mi, a heb Covid byddwn wedi gwneud ychydig mwy, fel cyrsiau mewn gwaith saer a diwrnod ‘taster’ gyda’r gwasanaeth tân.”

Yn ei gêm gyntaf dros Gymru D20 - yn erbyn Seland Newydd yn Perpignan, 2018.
Ei ffrindiau oedd y cyntaf i elwa o’i statws newydd fel hyfforddwr personol pan oedd angen rhywfaint o ysbrydoliaeth ffitrwydd arnynt – fel cymaint yn ystod cyfnod y cloi. “Roedd rhai o fy ffrindiau yn ei chael hi’n anodd gwneud sesiynau eu hunain, felly roeddwn i’n meddwl y byddwn i’n defnyddio fy nghymhwyster i ddarparu rhai syniadau ymarfer corff iddyn nhw ar Instagram.”
Er daeth ei ymddangosiad cyntaf i’r Gweilch pan oedd Cross ond yn 18 oed, roedd e’n ddigon aeddfed i weld bod y gêm hynny yn erbyn Caerloyw yn y Cwpan Eingl-Gymreig – a’i chais yr wythnos ganlynol yn erbyn Caerfaddon – ddim yn cynrychioli mwy na’r cam gyntaf i’w gyrfa. Yn wir, roedd nifer o chwaraewyr talentog a mwy profiadol o’i flaen yn y rhanbarth.
Yn hytrach na gadael i ddiffyg amser gêm gyda’r Gweilch ei digalonni, yn 2019 cofleidiodd Cross y cyfle i chwarae i Ben-y-bont yn yr Uwch Gynghrair Indigo. Profodd y Cigfrain i fod yr amgylchedd perffaith iddo: erbyn diwedd ei amser yn Gae’r Bragdy, roedd wedi derbyn llu o acolâdau, gan gynnwys Chwaraewr y Flwyddyn a Chwaraewr y Chwaraewyr y Flwyddyn. Fe bleidleisiwyd y cefnogwyr Cross hefyd yn y XV Gorau’r Clwb er 2003.

Mwynhaodd Cross sbel lwyddiannus iawn gyda Phen-y-bont. (Credyd: Bridgend Ravens)
“Y tymor cyn, fe wnes i ddim ond chwarae tua phedair gêm i’r Gweilch, a doeddwn i ddim wedi llwyddo i fynd i mewn i raglen Cymru Saith Bob Ochr,” meddai. “Doeddwn i ddim yn mwynhau fy rygbi o gwbl a hyd yn oed wedi dadlau a ddylwn i roi’r gorau i’r gêm yn gyfan gwbl. Ond es i i Ben-y-bont a chwarae pob wythnos. Fe wnes i ddatblygu fel chwaraewr, dysgais bryd i redeg a phryd i gicio, ac aeth pethau ymlaen o fyna. Teimlais i fwy fel fy hun ac fe wnes i ei fwynhau’n fawr.”
Nid oedd y gystadleuaeth am lefydd wedi diflannu erbyn iddo ddychwelyd i Llandarcy, ond roedd Cross wedi aeddfedu digon fel chwaraewr i fod yn rhan ohoni. “Rydych yn sylweddoli mai’r gystadleuaeth gyda bechgyn fel George North a Keelan Giles yw’r hyn sy’n grêt am fod yn amgylchedd y Gweilch,” meddai. “Allwch chi ddim disgwyl i unrhyw beth ddod i chi: mae’n rhaid i chi weithio’n galed, ceisio gwella trwy’r amser.”
Mae anafiadau i eraill wedi caniatáu iddo gael munudau gwerthfawr ar y cae’r tymor hwn. “Rydw i wedi gallu rhoi fy llaw i fyny a dangos beth allai wneud. Gall fod yn rhwystredig pan nad ydych chi yn y ffrâm, pan rydych chi’n chwarae mwy o rôl yn y cefndir, ond pan chi’n cael eich dewis yna mae’r pwysau ymlaen. Rwy’n ffynnu ar y pwysau ‘na. Mae rhwystredigaeth yn ddim ond cymhelliant i wella: os nad ydw i’n cael fy newis yr wythnos hon, rydw i’n mynd i roi fy llaw i fyny i gael fy newis yr wythnos nesaf.”

Dathlu ei chais yn erbyn Lloegr D18 yng Nglynebwy gyda Ben Thomas (Caerdydd), 2017.
Mae Cross eisoes wedi gwisgo coch Cymru ar lefel dan 18 ac 20. Daeth i sylw llawer pan sgoriodd mewn buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Lloegr yng Nglynebwy. Ymunodd â’r tîm dan 20 ar ôl un gêm yn ei yrfa rygbi hŷn, gan ddod oddi ar y fainc yn erbyn Seland Newydd ym Mhencampwriaeth Rygbi’r Byd D20 yn Perpignan. “Mae cyflymdra’r gêm D20 yn llawer uwch nag mewn rygbi rhanbarthol, a dysgais i lawer,” meddai. “Gemau tempo cyflym ac agored yw’r rhai sy’n siwtio fi, yn bendant.”
Mae wedi cael cefnogaeth ei rieni, Terry a Leanne, a’i brawd hynaf, Tomos, bob cam o’r ffordd. “Fe wnaeth fy nhad a fy mrawd hyd yn oed yrru i fyny i’r Alban un flwyddyn i wylio fi’n chwarae yn y Chwe Gwlad D20,” meddai Cross. “Chwarae teg, allwn i byth wneud y daith ‘na!”
Am y tro, mae ei olygon wedi’u gosod yn gadarn ar sicrhau ei fod yn aros mewn meddyliau hyfforddwyr y Gweilch. Mae’n helpu bod gan y prif hyfforddwr Toby Booth enw da am roi ffydd mewn chwaraewyr ifanc, tra bod Brock James, yr hyfforddwr ymosod, a Cross yn amlwg yn darllen yr un llyfrau athroniaeth rygbi.
“Rwy’n dysgu llawer o bethau gan Brock,” meddai Cross am y cyn-bencampwr y Top 14. “Mae wedi helpu fi llawer trwy sgiliau safle-benodol a chael asgellwyr i gymryd rhan mewn symudiadau. Mae’n gwneud pethau’n hawdd i’w deall, sy’n ddefnyddiol i chwaraewr ifanc.
“Mae [hyfforddwr newydd Cymru D20] Richard Fussell wedi chwarae rhan enfawr yn fy natblygiad hefyd. Rwy’n dweud yr un peth am holl hyfforddwyr y Gweilch: maen nhw bob amser yn gwneud amser i chi ac yn barod i helpu mewn pa bynnag ffordd maen nhw allu. Nawr fy lle i yw rhoi fy nhroed orau ymlaen a dangos bod nhw gallu trystio fi.”